Helo ers hir! Da ni'n ol oddi ar y trek yn fyw ac yn iach! Ma gena fi lot o betha i ddeud, a dwi'm yn gwbod lle i ddechra! Oedd y trek yn amazing, ond yn waith caled iawn weithia. Doedd y diwrnod cynta ddim yn ddrwg, dim ond cerdded fyny'r mynydd a dros chydig o afonydd, ac ar ol tua 4 awr o gerddad, natha ni gyradd yr hilltribe cynta. Oedd o mor od gweld sut oedd y bobol yn byw, a bod nw'n hollol annibynnol o'r byd mawr. Oedd gena nw iaith eu hunain fyd, iaith weird iawn, a doedd na lot o'na nw ddim hyd yn oed yn dalld Thai, heb son am Saesneg.

Yr ail ddiwrnod wedyn, natha ni sblitio'n ddau grwp, ac oedd na 5 yn grwp ni, sef ni, cwpwl o'r Almaen, a hogan o China. Oedd pawb yn gellu siarad Saesneg, lwcus, neu sa ni heb gal lot o hwyl! Oedd hi'n bwrw drw'r ail ddiwrnod bron ddo, felly oedd y gwaith cerddad yn anodd iawn, a llithrig. Ar ben huna, oedd yr actual ffordd oedda ni'n mynd yn lot mwy peryg a sgeri, efo lot o ledges cul. Un tro, nesh i slipio oddi ar y ledge, ond nesh i lwyddo i afal yn yr ochor (oce, doedd o ddim mor ddrwg a ma'n swnio fama, ond oedd o dal reit sgeri!). Ar adega, am bod hi'n bwrw gymaint, oedd raid i fi wisgo'r poncho gwirion yma:

Oedd diwadd y daith ar yr ail ddiwrnod i gyd lawr allt, a nesh i golli cawnt o faint o weithia nesh i slipio! Oedd o'n gymaint o relief i gyradd lle oedda ni'n aros a cal cawod (oer) a newid i ddillad (chydig mwy) glan. Dyma lun o'n gwlau ni ar yr ail noson - fel da chi'n gweld, oedd hanner y "stafell" yn yr awyr agored - teimlad weird pan oedd hi'n tresho bwrw:

Lwcus, oedd y trydydd diwrnod yn chydig llai o waith, a dim ond ar eliffantod natha ni deithio. Oedd bod ar eliffant yn eitha anghyfforddus ar ol dipyn, a do'n i'm yn trystio'r eliffant 100% i beidio slipio oddi ar y ledge weithia! Oedd un ni'n farus hefyd, yn codi ei drwnc ata ni bob dau funud yn disgwl i ni fwydo fo. Ac ar ol tua 10 munud o gerdded, nath o sdopio i neud ei fusnas ar ganol y trac (sbiwch yn fanwl)!!

Ar ol huna, gatha ni white water rafftio, oedd yn lot o hwyl pan oedd y dwr yn wyllt, ond eitha boring fel arall, so nath Dan a fi neidio fewn i'r afon a jysd mynd efo'r afon felna! Lot mwy o hwyl SLASH sgeri pan nesh i fynd rhy bell oddi wrth y cwch, a methu nofio yn ol yn erbyn yr afon, a poeni bod na fwy o rapids nyts ar y ffor!! Un peth arall dwi newydd gofio bod fi heb son am ydi'r chwilod masif ma oedda nw'n dal, ac oedda nw'n gneud idda nw gwffio yn erbyn ei gilydd a fysa nw fel arfar yn rhoi bet ar pa un fysa'n ennill.

Erbyn diwadd ddoe, o'n i'n eitha balch bod o drosodd, achos oedd o'n rili anodd weithia, ond dwi mor falch bod ni di neud o. Swn i'm yn licio mynd eto'n fuan, chwaith - ma coesa fi'n lladd heddiw!! Atha ni allan neithiwr ar ol cyradd Chiang Mai yn ol, ac oedd o'n eitha neis bod "adra"! Natha ni gyfarfod grwp o bobol ifanc o'r Alban tro'ma, ac efo nw oedda ni drw nos. Yn Heaven Beach, ein local, sy wasdad efo band yn chwara, nath Dan a cwpwl o'r Albanwyr fynd fyny ar y stage i "ganu" "can", efo Dan yn lead singer. Y "band" gwaetha dwi erioed wedi gweld. O bell ffor.

A dyna ni! Sori os di hwn di bod yn riiiili hir, ond oedd gena fi lot i ddeud! A rwan dwi di rhedag allan o amsar yn y lle internet ma, felly ma raid i fi fynd. Gadal Chiang Mai fory, felly nai adal chi wbod lle fydda ni!
O.N. Pen-blwydd hapus hwyr i Sara, fy nghefnither, oedd yn 14 oed ddoe!
Mari - Paid a updatio pobol eto! Job ni di huna! Gobeithio bod Uned 5 yn mynd yn iawn leni. Unrw sdoris ffyni??
Catrin - Siom oedd gweld bod chdi heb commentio tro dwytha, ond dwi'n dalld pam rwan. A na, ma Matt wedi gadal ni!! Haha.
Robin - Na, dwi ddim yn licio'r syniad Big Brother's Big Mouth rip-off!
Gemma a Llinos - Falch bod chi'n darllan! Jelys braidd o'na chi yn Aber, sy'n ffyni braidd! Cofiwch fi at Llew a Hollywood Pizza!
Ioan - Gobeithio gewch chi laff yn Gaerdydd nos fory, dwi'n kind of gytud (sy, unwaith eto, yn ffyni). Dwisho chi gyd gal one minute silence drosta fi oce?!