27/10/2006

Deifwyr Trwyddedig

Sori bod hwn mor hir yn cal ei sgwennu! Di cal e-mail yn rhoi row i fi gen Mari a bob dim! Ond yr unig reswm dwi heb sgwennu ydi am bod fi ddim di bod efo dim byd i ddeud tan bod ni wedi gorffan y cwrs deifio...

...Da ni yn Koh Tao ers dydd Llun, sef un o'r llefydd gora (a rhata) yn y byd i ddysgu scuba divio. Cwrs 4 diwrnod oedd o, ac oedd diwrnod 1 reit boring - gwers 2 awr mewn dosbarth, a cal gwaith adolygu cyn arholiad ar ddiwadd y cwrs! Do'n i'm yn disgwl sefyll arholiad arall mor fuan i ddeud y gwir, ond ma raid i fi gyfadda mai'r arholiad hawsa dwi rioed di gal oedd o (gen foi oedd yn gneud Ffilm a Theledu yn coleg)!

Ymlaen at y deifio ddo - mae o'n AMAZING. Y peth gora dwi rioed di neud, o bell ffor. Nath o gymyd dipyn i fi ddod i arfar efo anadlu'n normal dan y dwr, ond rwan mae o mor hawdd (er bod fi'n cal row weithia am iwsho gormod o aer - oedd raid i fi neud signal llaw keen heddiw i ddeud bod aer fi'n isal, tra oedd Dan yn panicio fwy na fi am y peth). Y diwrnod cynta o ddeifio, dim ond dysgu chydig o sgilia sylfaenol a chydig o ddeifio natha ni, ond nath Dan lwyddo i dwtchad y coral (sy'n ofnadwy o finiog), a oedd raid idda fo gal 5 stitch yn ei fys! Aw!

Heddiw, sef diwrnod ola'r cwrs, oedda ni'n nofio efo sharcod (oce, natha ni'm actually GWELD nw am bod y visibility'n wael, ond oedda nw yna - nath yr instructors weld nw). A natha ni fynd lawr tua 25 medr yn y dwr, oedd reit nyts. Os fysa chi di panicio, sa na'm chans i chi gyradd y lan mewn pryd! Ma Dan a fi am neud cwrs dau ddiwrnod o ddeifio Advanced hefyd, tra bod ni yma, a ma nw'n gaddo gawn ni nofio'n agosach efo siarcod troma - nai adal chi wbod sud oedd huna!

Eniwe, i orffan, jysd gair am y lle da ni'n aros. Y lle neisha da ni di bod yna fo (i fi, eniwe). Ynys fach iawn, efo traeth reit ar sdepan ein byngalo ni (literally). Ma'r môr mor gynnas hefyd, ond ar y funud ma deifio'n cymyd lot o'r dydd, a da ni'm rili isho mynd i fewn i'r môr syth ar ol bod yn deifio byth! Dyma ychydig o lunia o'r olygfa a ballu:

22/10/2006

Nôl yn Thailand

Da ni nol yn Bangkok! Ar ol pythefnos mewn llefydd reit dlawd, oedd o'n eitha neis cyradd nol i ddinas fawr. Eniwe, ma raid i fi ddechra drw son am be natha ni yn Siem Reap yn Cambodia. Oedd o'n le reit neis, ond yr unig reswm oedda ni yna rili oedd er mwyn gweld Angkor Wat, sef llwythi o demla wrth ymyl ei gilydd. Oedd o reit amazing, hyd yn oed i ni, sy ddim yn ffans mawr o demla i ddeud y lleia. Yr un gora i fi oedd yr un ma lle gafodd Tomb Raider a Indiana Jones eu ffilmio - oedd o reit cwl:


Oedd y gweddill reit dda fyd, ond ar ol chydig o oria, oedda ni braidd yn fed up! Ma rhan fwya o bobol yn prynu tocyn tri diwrnod neu wsnos i ellu gweld bob un, ond oedda ni methu hyd yn oed para diwrnod llawn! Dyma chydig mwy o lunia eniwe:




So ar ol dau ddiwrnod yn Siem Reap, gatha ni fys 13 awr yn ol i Bangkok, a troma, natha ni lwyddo i ffeindio'r stryd lle ma'r trafeilwyr i gyd yn mynd, sef Khao San Road. Dwi'n falch bod ni di dod nol i Bangkok, achos do'n i'm yn keen ar y lle tro cynta rownd, ond dwi'n rili licio fo rwan. Dyma lun o Dan ar Khao San Road:


Eniwe, natha ni hefyd fynd i weld y Grand Palace tro'ma, ac oedd hwna reit cwl. Ma na bobol yn sgamio ni'n bob man ddo, yn trio cal ni i fynd i weld teml arall (sy ddim even yn un go iawn), gan ddeud bod y Grand Palace di cau - annoying ar ol dipyn. Ar ol bod yna, natha ni weld un boi oedd di deutha ni bod o di cau jysd cyn i ni fynd fewn, a nath o smalio darllan papur newydd i guddio ei wynab - jaman. Un peth ffyni yn y palas - am bod Dan yn gwisgo shorts (sy'n ddrwg mewn unrw demla), oedd raid idda fo gal menthyg par o drwsus arbennig. Dwi rioed di gweld gwisg mor afiach. Oedd o'n edrych fel bod o newydd ddianc o mental hospital:


Di'r sgidia ddim yn help chwaith! Oedd y palas yn amazing, aur yn bob man. Dyma lunia o'na fo:




Fel da chi gyd yn gwbod (tait os da chi ddim), oedd penblwydd Dan ddoe, felly atha ni allan efo tri boi o Sweden da ni di bod yn hangio rownd efo i ddathlu. Noson dda iawn, ond ma meddwl am fod ar fys am 16 awr heno yn gneud fi'n sal. O, ia, da ni'n mynd ar fys am 16 awr heno i lawr i'r ynysoedd - Ko Tao di'r stop cynta, lle da ni am neud cwrs deifio 4 diwrnod, fydd yn lot o hwyl gobeithio. Dwi methu disgwl i fod ar yr ynysoedd - ar ol y gwaith calad o drafeilio yn ddiweddar, dwi'n meddwl bod ni'n haeddu brêc...!

Huw - Dim Simon's oedd enw'r lle oedda ni'n aros, ond ma na loads o guest houses yn sbio dros y llyn does, so mashwr bod chdi'n aros yn agos i lle oedda ni!
Robin - Dim jysd Thailand da ni di bod, os sa chdi'n cymyd sylw! Ma Laos a Cambodia yn wledydd ar wahan - ignorant. Da ni nol yn Thailand rwan ddo tan diwadd Tachwedd!

18/10/2006

Depressing o flog

Gai jysd ymddiheuro ymlaen llaw am y blog mwya depressing fydd raid i fi ei sgwennu drw'r flwyddyn (gobeithio). Tro dwytha nesh i sgwennu oedda ni dal yn Laos, ond rwan da ni di dod lawr i Cambodia, ac i'r brifddinas sef Phnom Penh. Ma na hanas rili trist tu ol i'r lle, a dyma un o'r llefydd oedd Pol Pot (y boi oedd yn lladd pobol am wisgo sbectol) yn lladd pobol yn y 70au (sgeri bod o mor agos - tua 2 filiwn o Cambodians wedi'u lladd). Eniwe, dydd Sadwrn atha ni i weld y killing fields, sef lle oedd y cyrff i gyd yn cael eu taflu ar ben ei gilydd. Eitha afiach, achos ma na dal ddarna o esgyrn a dillad i weld ar lawr. Y peth mwya afiach ddo oedd twr efo MILOEDD o skulls wedi'u trefnu yn ol oed - oedd o'n anodd meddwl bod pob un ohonyn nhw di bod yn bobol go iawn.


Ar ol fana, atha ni i weld y jel lle oedda nw'n cal eu cadw, oedd yn arfar bod yn ysgol cyn i Pol Pot droi o'n garchar - i roi syniad i chi o pa mor serious oedd y lle, dyma'r sein oedd wrth y fynedfa:

Dwi'n teimlo'n ddrwg wan am neud joc o'r peth! Ond na, oedd y lle yn rili trist, a oedda ni'n gellu gweld celloedd tiny y bobol, ac mewn un sdafall oedd na jysd miloedd o headshots y bobol gafodd eu cadw yn y carchar, cyn mynd ymlaen i gael eu lladd.

Eniwe, dyna ddiwadd y sdwff depressing - ar nodyn mwy ysgafn, yn syth ar ol bod yn y killing fields a'r jel, nath Dan feddwl sa fo'n syniad da mynd i'r shooting range i gal go ar saethu gwn (do, dwi wedi sbotio'r eironi). Do'n i ddim isho go, achos nabod fi, sw'n i di endio fyny yn saethu fy hun, neu rywun arall, neu fy hun A rywun arall. Ond gath Dan saethu AK-47 am $30! (Con). Er bod fi heb gal saethu, gesh i dynu llun efo gwn (a Dan fyd - sbotiwch pwy sy'n stiff efo gwn a pwy sy'n sgeri o naturiol efo DAU):

Oedd y lle oedda ni'n aros yn Phnom Penh yn rili neis, ac yn cal ei redag gen deulu rili neis. Dyna pam natha ni endio fyny yn aros tan ddoe! Oedd y gwesty reit ar lan llyn, a dyma'r olygfa oedd gena ni o le buta'r gwesty:

Un peth annoying ddo, ar y diwrnod ola, nath Dan ffeindio trap llygodan o dan ei wely, efo llygodan arna fo! Eitha afiach meddwl bod ni di bod yn rhannu sdafall am 4 noson efo llygodan. Oedd o dal yn fyw fyd! (Dwi'n teimlo'n tait ar y cockroach, achos oedd o jysd yn y lle rong ar yr amsar rong):

Iawn, dwi'n gorfod mynd rwan - da ni yn Siem Reap ers neithiwr i weld y temla amazing ma (nai son mwy fory gobeithio!), a ma na night life rili da yma! Hefyd, da ni'n cychwyn nol am Bangkok yn gynnar fory, felly gena fi waith pacio i neud. Taaa!

O.N. Gobeithio bod chi'n licio cal loads o lunia, di ffeindio cyfrifiadur efo connection da o'r diwadd!

14/10/2006

"Row, row, row!!!"

Helo! Cal gwell lwc efo rhoi llunia fyny erbyn rwan felly o'n i'n meddwl sa well i fi sgwennu chydig! Tro dwytha i fi sgwennu oedda ni'n bwriadu cal bys nos i lawr i'r Four Thousand Islands am 12 awr, felly ar y diwrnod yna, atha ni i'r bus station yn ddigon buan (tua 1) efo'r bwriad o fwcio tocyn ar gyfar bys VIP yn y nos. Ond pan natha ni gyradd, a deud lle oedda ni isho mynd, nath na gang o ddynion amgylchynu ni, cymyd ein bagia, a'r peth nesa dwi'n cofio ydi bod ni'n isda ar fys cyhoeddus, oedd yn cymyd 5 awr yn hirach na'r un VIP! Nath o i gyd ddigwydd mor sydyn, a mae o jysd yn un blur mawr! Eniwe, doedd y daith ddim yn ddrwg digwydd bod, ac os fysa ni di mynd yn y nos, sa ni di colli allan ar olygfeydd fel hyn:


Oedd na foi lleol reit glên ar y bys hefyd, a oedd o'n despret braidd i neud ffrindia. Ar ol i ni roi ein e-mails idda fo (ar ol idda FO ofyn amdanyn nhw!), nath o droi rownd a deud "Thank you! I have no e-mail." Bechod!

Oedd y Four Thousand Islands (neu Si Pha Don yn Laos) yn reit amazing, ac oedda ni'n aros ar ynys fach yn y gwaelod o'r enw Don Det. Y lle mwya random dani di bod o bell ffor. Doedd na ddim trydan, dim siopa iawn, a dim lot o ddim byd! Oedd huts ni reit ar lan yr afon, ac oedd gena ni hamoc yr un! Oedd raid i ni fynd a torch allan efo ni bob nos (torch sy ddim angan batris, sy wedi bod yn handi iawn! Diolch i Gwenno, Huw, Tomos ac Anna eto). Ar y diwrnod cynta, natha ni neud tubing eto, am bod o wedi bod mor relaxing tro cynta rownd. Doedd o ddim cweit mor relaxing tro'ma. Nath o ddechra off yn iawn, jysd gorwadd nol ar y tiwb, ond ar ol yr hannar awr cynta, ddoth y boi ata fi ar ei gwch a deutha fi am ddechra rhwyfo fel nytar tuag at ochor chwith yr afon - "row, row, row!" oedd o'n weiddi, a doedd o ddim yn hapus efo faint o ymdrech o'n i'n rhoi mewn i'r rhwyfo chwaith! Ath o at Dan wedyn i weiddi'r un fath, ond yn lle gweld Dan yn rhwyfo at ochor chwith y lan, nesh i weld o'n nofio at yr ochor dde, lle oedd yr afon yn sblitio'n ddau efo current cry. O'n i'n cymyd mai fi oedd di camddalld, felly dilyn Dan nesh i. Misdec. Oedd Dan di meddwl bod y boi yn pwyntio at ochor chwith y lan ac yn gweiddi "no, no, no!"! Felly atha ni'n dau lawr rhan beryg yr afon, yn trio gweithio'n galad yn erbyn y lli, ond methu - oedd raid i'r boi achub ni ar y cwch yn diwadd!

Yn y nos wedyn, atha ni i'r dafarn leol, lle oedd na fwnci yn byw. Oedd y mwnci bach ma yn byw ar steps pren yng nghefn y dafarn (y math o sdeps lle does na ddim cefn idda nw, jysd slabs o bren math o beth, a oedd y mwnci ar y sdeps, a ni o dan y sdeps, a chaen o'i wddw at waelod y grisia - detail pwysig at nes ymlaen!). Eniwe, bob tro oedd Dan yn mynd at y mwnci ma, oedd o'n neidio ar ei ysgwydd o ac yn gafal rownda fo. O'n i'n trio profi mai ffliwc oedd o bob tro, drw fynd ata fo fy hun, ond doedd o byth yn dod ata fi. OND, ar y tua degfed tro, ar ol chydig o tips gen Dan Dolittle, nath y mwnci neidio ar ysgwydd fi. Wel, bron. Nath o neidio mor wyllt, nesh i ddychryn, a nesh i ollwng fo - rhwng y sdeps. So rwan oedd y mwnci yn hongian gerfydd ei wddw ar y chaen oedd yn sownd i'r sdeps! Mi fysa lladd mwnci'r dafarn wedi bod yn eitha drwg, felly wrth reswm, o'n i'n panicio'n lan. O'n i'n trio pigo fo fyny o hyd, ond oedd o'n mynd yn wyllt ei hun! Oedd Dan yna efo ei law dros ei lygid, tra o'n i'n cal scuffle efo'r mwnci bach ma (oedd erbyn rwan yn sgrechian). Yn diwadd, nesh i lwyddo i godi fo ac achub ei fywyd, ond esh i ddim yn ol ata fo ar ol huna. O diar! Yn anffodus, gatha ni ddim llun o'r mwnci, felly da chi di darllan chunk mawr o sgwennu heb ddim byd i weld! I neud fyny am hyn, dyma lun (reit hen) o Dan a fi:

09/10/2006

Tiwbio yn Vang Vieng

Helo! Sori bod fi heb sgwennu ers hiiiir, ond dwi di bod yn trio ffeindio cyfrifiadur sy'n gadal i fi roi llunia fi fyny ar y blog dwytha (14/10/06 - ac wedi erbyn hyn o'r diwadd!). Dydd Gwenar natha ni adal Luang Prabang yn y bora, a cal taith 7 awr ar fys lawr i Vang Vieng. Oedda ni di trefnu cyfarfod y tair o Iwerddon SLASH yr Almaen y noson yna, felly gatha ni noson allan dda efo nw (a Mark o Canada).

Bora dydd Sadwrn wedyn, natha ni fynd yn syth i neud y tubing. Oedd y genod di neud o diwrnod cynt, felly oedd gena ni syniad reit dda be i ddisgwl. Be oedd o oedd tu fewn teiar tractor (sy union fel rubber ring mawr du), a mynd lawr yr afon yn slo bach ar gefn hwna. Oedd na dafarndai a llefydd i sdopio ar y ffordd hefyd, a'r ffor i fynd yn ol i'r afon oedd ar zip wire - digon hawdd, o'n i'n meddwl. Doedd o ddim. Nesh i drio, a methu, a disgyn yn syth bron! Wps. Esh i ddim trio unrw le ar ol huna chwaith, rhag ofn gneud ffwl o fy hun eto! Oedd mynd ar hyd yr afon yn rili braf, a oedd yr olygfa rownda ni yn amazing - dyma lun o'na fi yn bod yn wimp a neidio fewn i'r dwr yn lle:


Doedd na'm lot ar wahan i huna i neud yn Vang Vieng (yr highlight i fi oedd tafarn oedd yn dangos Friends ar repeat drw dydd!), felly natha ni benderfynu symud ymlaen eto ddoe i Vientiane, sef y brifddinas. Dio'n fawr o brifddinas rili chwaith, a da ni heb neud fawr o ddim yma! Jysd sdop ar y ffor i'r lle nesa ydio i ni, sef y Four Thousand Islands sy reit yng ngwaelod Laos ar y ffin efo Cambodia. Oes, ma gena ni siwrna bys 12 awr ar y ffor - afiach go iawn. Gobeithio fydd o ddim mor cramped ac anghyfforddus a'r rhei da ni di cal yn ddiweddar!

05/10/2006

Un lawr, deg i fynd

Helo! Da ni dal yn Luang Prabang, a da ni'n cal amsar rili da yma. Peth cynta natha ni ddoe oedd dringo fyny ryw fryn i weld teml oedd reit ar y top, a gatha ni olygfa amazing o'r dre - rili gneud ni sylwi bod ni ddim yn Thailand dim mwy, achos ma fama lot gwyrddach, efo palm trees yn tyfu rhwng bob ty!

Wedyn atha ni i'r rhaeadr na nesh i son am, a oedd o looooads gwell na'r un natha ni weld yn Pai. Oedda ni'n nofio yna fo, a deifio fewn o un tier i'r llall a betha - lot o hwyl, ac un o'r petha gora dwi di neud ers bod yma dwi'n meddwl.

Heddiw wedyn natha ni fynd i raeadr arall efo dwy hogan natha ni gyfarfod neithiwr. Anna di enw un, o Iwerddon, a Whitney di'r llall o America.

Ma Whitney yn hilarious (mai'n atgoffa fi o Heulwen Ffrind Gwerfyl - sy'n golygu dim byd i'r rhan fwya o'na chi!), a mai'n deud 'honey' weithia i fod yn patronising (ond ma'n ffyni). Er enghraifft:

Fi: Do you eat turkey at Christmas?
Hi: No, that's Thanksgiving honey.

So ma hi di bod yn crackio Dan a fi fyny drw dydd, a heno da ni'n cyfarfod nw am fwyd. Gath Anna ei brathu gen neidr ar y ffor fyny i'r rhaeadr, oedd reit sgeri, achos doedda ni'm yn gwbod os oedd o'n wenwynig neu beidio! Mai dal yn fyw, felly dwi'n cymyd bod o ddim! Dyma lun o'na fo:

Oedd na le i weld teigr yna fyd, a oedd o'n nyts pa mor agos oedda ni'n gellu mynd ata fo - gatha ni hyd yn oed twtchad fo! Oedd o reit sgeri mynd reit ata fo a gneud eye contact! Dyma lun o Dan yn rhoi o bach idda fo (slash ddim hyd yn oed yn twtchad am bod o ofn):

Da ni'n gadal Luang Prabang fory a mynd i Vang Vieng (neu rwbath felna!), lle gawn ni neud 'tubing', sy'n swnio'n hwyl. Bedio ydi mynd lawr yr afon ar olwyn fawr. Nai adal chi wbod sut ath o!

O.N. Mis di mynd yn barod, wedi fflio! Mond deg i fynd!

04/10/2006

Y Car Gwyn yn Laos

Helo! Da ni di cyradd Laos o'r diwadd! I'r rhei o'na chi sy'n keen yn dilyn ein taith efo map, natha ni gal cwch o Chiang Khong ar hyd ar afon Mekong yr holl ffor i Luang Prabang, a nath o gymyd dau ddiwrnod, oedd ddim yn lot o hwyl - lot gwell na bod ar fys ddo!

Oedda ni'n aros mewn pentra random ar y noson gynta, oedd yn llawn o bobol yn trio gwerthu drygs i ni, drw smalio trio gneud sgwrs gynta. Oedda ni efo boi o Canada ar y pryd, a dyma oedd y "sgwrs":

Dryg dealer: Hi! Where you from?
Ni: Wales.
Fo: Canada.
Dryg dealer: England is good Canada is good do you smoke?

Chwara teg idda fo am neud ymdrech ddo(!)

Da ni dal yn Luang Prabang rwan. Ma'n eitha anodd cofio bod ni mewn gwlad wahanol weithia, achos ma nw'n reit debyg, ond ma'r currency yma'n od iawn - dwi bron yn millionaire efo gwerth tri deg punt! Eitha cwl dal wads mawr o notes, teimlo fatha pres Monopoly!

Neithiwr, atha ni allan efo tair oedda ni di dod i nabod ar y cwch (dwy o Iwerddon, un posh o'r Almaen sy'n trio sharad Saesneg posh ond yr acen Almaeneg yn dod nol pan mai di meddwi), a newch chi byth gesho be nesh i weld - y CAR GWYN!! Dyma lun i brofi'r peth:

Un peth ffyni arall oedd ryw begar hen yn gwisgo dim ond sarong (oce ma'n swnio fwy tait na ffyni, ond daliwch efo fi) oedd yn dod rownd bwr ni tua literally pump gwaith yn begio. Ond dim begio cyffredin, ond ryw ddawns begio bizarre efo'i geg ar agor, ac oedd o'n dewis un person i stario arnyn nhw, ac aros yna am tua munud. Mae o fod yn enwog rownd Luang Prabang, a weithia ma'n newid ei gostume a dod a props allan hefyd, felly edrych mlaen i weld o heno!

Heddiw da ni am fynd i weld rhaeadr (waterfall i'r rhei thic), sy fod yn LOT gwell na'r un natha ni weld yn Pai. Nai adal chi wbod fory os di huna'n wir!

Pawb oedd yn Aber nos Sadwrn - Diolch am feddwl amdana fi, ond lwcus i chi bod batri ffon fi'n fflat, achos a) sa fo di bod yn ddrud i chi a fi, a b) sa chi di deffro fi am tua 5 yn bora, a swn i heb fod yn rhy hapus! Na, gobeithio gatha chi gyd laff, nesh i feddwl amdana chi nos Sadwrn efo dagra yn fy llygaid!

01/10/2006

Chiang Mai, Chiang Rai, a Chiang Khong

Helo! Dim ond wedi meddwl swn i'n gadal negas fach yn deud lle da ni ar y funud. Ar ol noson ola yn Pai efo Dom "fi, fi, fi", y boi oedd, yng ngeiria Dan, yn "gneud i calon fi frifo", natha ni adal ar fys 12 o gloch pnawn. Un broblem ddo, oedd raid i ni fynd yn ol i Chiang Mai cyn gellu mynd unryw faint uwch. Am bod ni di cal gymaint o draffarth gadal Chiang Mai tro cynta, natha ni benderfynu sa hi'n well i ni ddal bys yn syth o fana fyny i Chiang Rai. Dyna lle natha ni aros neithiwr (nos Sadwrn), a ben bora ma, gatha ni fys arall fyny at y bordor, sef lle o'r enw Chiang Khong (confusing, dwi'n gwbod). Oedda ni di bwriadu croesi drosodd i Laos heddiw, ond be natha ni ddim rhagweld oedd y bysa'r bancs i gyd di cau ar ddydd Sul, ac felly da ni methu newid pres tan fory! O, wel, da ni di bwcio fo rwan, ac yn gadal bora fory - so'r tro nesa fydda i'n sgwennu, fydda i yn Laos go iawn!

O.N. Sori am beidio rhoi llunia, ond di llunia o Dan a fi yn cysgu ar wahanol fysus ddim yn ddiddorol iawn nadi?!