09/09/2006

"Is this the road to danger?"

Helo! Jysd wedi meddwl swn i'n popio fewn i internet cafe tra bod Dan yn watchad gem Lerpwl mewn tafarn (mashwr mai wishful thinking oedd meddwl swn i'n gellu osgoi pel-droed am flwyddyn!). Ben bora ma, natha ni ddal tren i Philok, sy tua saith awr o daith i'r Gogledd. Oedd y tren yn afiach o boeth, ac am bod ni yn 3rd class doedd na ddim aircon, felly oedda ni'n chwysu'n afiach. Drw'r daith fuo ni'n (trio) sgwrsio efo tair dynes Thai, oedd ddim yn dalld yr un gair o Saesneg! Oedda ni jysd yn cymryd ein tro i bwyntio at wahanol eiria yn ein llyfr Thailand (presant handi iawn gen Gwenno, Huw, Tomos ac Anna!), ond edrych yn syn slash ofn oedda nw ar ol cwestiwn Dan. Wrth drio gofyn os oedd y lle oedda ni'n mynd i yn beryg, nath o endio fyny'n gofyn "is this the road to danger?"! O wel, o leia da ni'n trio!


Am gal nos Sadwrn dda heno gobeithio, casgliad o dafarndai a chlybia nos yn reit agos at ei gilydd. Ma pob dim mor rhad yma, dwi mond di gwario tua 50 punt ers bod yma! Hwn di'r lle lleia Westernised da ni wedi bod yn hyd yn hyn, a ma pawb yn sbio reit od arna ni yn bob man da ni'n mynd. Ma Dan yn licio fo, dwi ddim!

Eniwe, mashwr bod y gem di gorffan erbyn rwan, felly gai fynd nol i joinio Dan! Dwnim lle fydda i pan fydda i'n sgwennu nesa...

4 comments:

Anonymous said...

Is this the road to danger?! "Lol".

Yn ty Aled a Tegwen Cymen ar y funud efo mam yn gweld Cai Maldwyn - ciwt!! Pawb yn cofio ata chi yma.

Cwl di gweld y llunia!

Pawb yn impresd iawn efo'r blog proffesiynol!

(Sally wedi cal babi bora ma fyd - Jaden. Enw neis de "lol".)xxx

Anonymous said...

JADEN???? Hen jadan fydd hi felly...

Anonymous said...

Bechod am Lerpwl, Dan, ond o leia wnaeth Wrecsam guro Swindon a Paul Ince!

Anonymous said...

Hogyn di Jaden gyda llaw...