08/09/2006

Teml, palas ac adfeilion

Ar ol ail noson chydig llai gwirion yn Bangkok, natha ni adal ar dren am 7am i fynd i Ayuthaya, sef hen brif ddinas Thailand. Ma'r trena'n ofnadwy o gyfleus, a dim ond tua 14 ceiniog oedd taith awr yn gostio! Oedd hi'n neis gadal awyr fyglyd Bangkok a cal chydig o awyr iach. Ma'r hen brif ddinas efo afon reit rowndi hi, felly oedd rhaid i ni gal cwch bach dros yr afon er mwyn cyradd - tua 3 ceiniog oedd hwna! Ers cyradd, da ni wedi bod i weld teml, palas ac adfeilion, cyn mynd nol i'r hostel mewn tuk-tuk am siesta er mwyn osgoi haul poeth y pnawn. Ma na eliffantod yn bob man yma, a oedda chi'n gellu mynd ar eu cefna nhw rownd y dre, ond da ni di penderfynu gneud hynna mewn rwla fel jyngl yn lle (a oedd o braidd rhy ddrud!).


Ma na lot o bobol yn haslo ni i brynu petha ddo, ac oedd na un boi yn dilyn fi am tua chwarter awr yn trio ei ora i werthu hamoc i fi!

Fory, da ni'n gadal ar dren cynnar eto i fynd fwy fyny i'r Gogledd. Edrych mlaen i weld rwla hollol wahanol eto!

O.N. Diolch Mari a Catrin am roi pressure arna fi i feddwl am deitla diddorol o hyn ymlaen!!

3 comments:

Anonymous said...

14 ceiniog am daith awr?! :o!

Ddylia chi gal siwts tailored ich hun yna, dwi di clwad bod nw mond tua degpunt!

Ma'r blog yn cael i updatio fwy na on in disgwl hefyd. Diddorol iawn, keep it up!

Anonymous said...

Diolch hogia da genym eich bod yn cael hwyl. Da ni wedi joio gwld y lluniau

Anonymous said...

Ha ha - don im yn meddwl sa chdi wedi updatio fama yn barod!! Chwara teg i chdi!! Weird gweld chdi mewn llefydd trofannol!!

Coifa gadw y tempar na dan reolaeth os di pobol yn haslo chdi gormod - dim cwffio!!

On in sbio ar Uned 5 heddiw ag yn meddwl amdana chdi, so nes i dexio mewn i ddeud pob lwc i chdi i weld be sa Mari yn ddeud - dim byd odd yr atab!!

O wel, cadw ddeud y sdoris ar hwn - ddoi yma yn amal i neud yn siwr bod y counter yn codi!!

Rob