25/06/2007

LA - Lle Anferth, Llety Actorion,...dwi'n sdyc

Sori am drio diddori'n hun efo'r teitl. A gneud job wael o'ni run pryd. Eniwe, dim llunia ar y blog yma yn anffodus, achos oedd camra fi'n fflat drw'r wsnos, ond ma gen Dan lunia, a pan neith o losgi nw ar CD, nai roi llunia fyny. Ond yn y cyfamser nai gadw fo'n short & sweet - fydd blog San Francisco fyny mewn cwpwl o ddiwrnoda eniwe, a ma hwna werth aros amdana fo...!!!

Eniwe, ymlaen a ni. Ocê, so natha ni gyradd LA ar y nos Lun, a gneud dim byd noson gynta. Wedyn yr ail ddiwrnod, oedda ni di planio mynd am dro rownd i gal ein bearings. Yn fuan iawn natha ni sylwi bod hi'n amhosib "mynd am dro" rownd LA, achos ma'r lle MOR masif a spread out, yn wahanol i'r rhan fwya o ddinasoedd dwi di bod yn. So ma angan planio bob diwrnod allan, a dal bys i wahanol lefydd. Y peth cynta natha ni oedd mynd fyny i Hollywood a gweld y Walk of Fame, a Sunset Boulevard. Tra oedda ni yna, gatha ni gynnig tocyna am ddim i fynd i weld rhaglen deledu David Spade (y comedian) yn cal ei ffilmio y noson yna, so atha ni! Profiad reit cwl bod yn ganol cynulleidfa deledu llawn Americanwyr - ma nw reit frwdfrydig efo bob dim i ddeud y lleia! Oedd Dan a fi reit embarrassed, ond oedd o'n raglan dda.

Be arall? Wel, y diwrnod wedyn, atha ni i'r traeth (fatha bod ni heb gal digon o draetha yn Fiji!). Oedd y traeth yma'n enwog, yr un sy yn y ffilmia i gyd efo pobol random yn roller-skatio ar y pafin, a llwyth o sdondina rownd. Oedd o'n typical traeth sa chi'n weld ar Baywatch - traeth rili llydan, a tywod rili melyn, dim gwyn fel da ni di arfar ei weld erbyn rwan.

Reit dwi'n cal traffarth cofio trefn petha rwan, so ella bod y canlynol ddim mewn trefn gronolegol...

Diwrnod arall atha ni ar tour i weld tai'r holl selebs. Cwl IAWN! Gynta atha ni i gal tynnu llun wrth y sein Hollywood, a wedyn mynd rownd Bel Air a Beverly Hills a gweld y tai. Oedda ni'n teimlo fel stalkers sad braidd, ond ma raid gneud o! Y tai gora oedd Leonardo DiCaprio, Meg Ryan, John Travolta, Matt LeBlanc, a Jennifer Lopez a'i gwr. Oedd ty Jack Nicholson yn afiach, ond oedd o'n symud allan yn fuan. Tai rili posh rownd fana ddo, mewn lle riiili neis o'r dre.

Dwi'n trio meddwl be arall o werth natha ni? O ia, atha ni i weld ffilm mewn sinema enwog (Knocked Up - riiili da, ewch i weld o), a oedd o'n sinema superb - llun perffaith! Ma cynulleidfaoedd America yn jaman mewn sinema ddo, yn clapio ar adega random a cheerio. Annoying braidd!

Iawn, y noson ola - natha ni benderfynu aros am y nos Sadwrn er mwyn mynd allan i'r Sunset Strip, lle ma'r holl selebs yn mynd, yn y gobaith o weld rywun enwog. Oedd na hogan o Gymru efo ni, a hogan o Loegr, ac oedda nw di gneud dipyn o effort, yn gwisgo ffrogia reit posh, oedd yn lwcus i ni, achos er bod gena ni ddim reservation, gatha ni'n gadal fewn i Sky Bar, sef y bar mwya ecsgliwsif yn LA! (I bawb sy efo diddordeb, fama ddoth Britney am sesh ar ôl shafio ei phen). Gesh i shoc wrth gerddad fewn - oedd o'n amaaaaazing! Oedd na ddim to i'r lle, felly oedd o technically tu allan (ond mi oedd na walia), ac oedd na bwll nofio mawr yn ganol y bar. Ac oedd na ffenestri o'r llawr reit fyny yn edrych dros y ddinas. View amazing, a'r bar mwya posh dwi rioed di bod yn! Oedd y staff yn trin ni fel selebs! Oedd hi reit anodd sbotio pobol enwog ddo, achos a) oedda ni ddim isho edrych yn sad a risgio cal ein taflu allan, a b) oedd PAWB yna yn edrych fel sa nw'n gellu bod yn enwog! Ond yn diwadd, nath yr hogan o Loegr sbotio Rachel Hunter (a mynd ati i ofyn am lun efo hi! Jaman, oedd gena fi ddim gyts), so o leia natha ni weld seleb yn LA.

Iawn, dyna ni rili. Sori bod y blog ma di bod chydig hirach nag o'n i di fwriadu. Da chisho gwbod bob dim ddo does?

O ia, un nodyn i orffan. O'n i'n teimlo'n rili euog am beidio buta digon o fwyd Thai yn Thailand, felly dwi'n gneud fyny am huna rwan drw fod yn riiili diwylliedig a buta bwyd Americanaidd bob cyfla dwi'n gal. Sef lot o McDonald's a jync tebyg. Dwi'n ffeindio fo'n rili anodd....!!

Blog GWELL efo llunia DA yn FUAN! SORI am y capitals!!

19/06/2007

Bula!!

CYN i chi fynd yn flin, gai jysd egluro'n hun?! I ddechra, doedd na ddim internet yn Fiji, ac yn LA nesh i ddim ffeindio lle internet oedd yn gadal fi roi llunia fyny. So dyna pam bod y blog ma (braidd) yn hwyr. Ond, AM bod o'n hwyr, dwi am neud cofnod MANWL efo digon o lunia o'n pythefnos ni yn Fiji - erbyn diwadd, fydda chi mor bored, fyddwch chi'n difaru cwyno o gwbwl! Iawn, awê...

Noson natha ni lanio yn Fiji, natha ni drefndu cyfarfod Guto oedd yn coleg Aber - mae o di bod yn trafeilio ers tua run pryd a ni, ac hefyd yn mynd adra erbyn Sdeddfod. Gatha ni un noson efo fo ar y mainland cyn i ni fynd ffwr ar yr ynysoedd bach (do'n i'm yn gwbod hyn, ond llwyth o ynysoedd ydi Fiji, dim jysd un ynys - ma'r mainland tua seis Sir Fôn).

Nath o roi chydig o dips i ni efo pa ynysoedd i fynd i, so oedda ni'n eitha well prepared! Eniwe, yr ynys gynta i ni fynd iddi oedd Nanuya Lailai, oedd reit ar dop y grwp o ynysoedd. Natha ni gyradd y lle aros, yn disgwl gweld traeth AMAZING, ond hwn oedd y traeth:

O'n i'n siomedig, tan i fi glywad bod ni angan cerddad am hannar awr i ochor arall yr ynys i gyradd y traeth neis. Actually nai gywiro huna: O'n i'n siomedig ac ar ben huna nesh i glywad bod ni angan cerddad am hannar awr i ochor arall yr ynys i gyradd y traeth neis. Oedd o'n dipyn o drek hefyd - dros frynia a drw jyngls a ballu - atgoffa fi chydig o Lost (heb y polar bears a'r holl farw).

Oedd o werth o ddo, achos pan oedda ni'n cerddad drw'r darn ola o jyngl, dyma'r olygfa oedda ni'n gal:

DYNA be o'n i'n ddisgwl gen Fiji! Noson yna, natha ni aros ar y traeth drw dydd i weld y sunset - oedd o reit amazing.

Doedd na fawr o'm byd i neud ar ôl iddi dywyllu ddo, achos doedd na ddim trydan ar yr ynys o gwbwl! Nath Dan drio darllan am chydig, ond nath o'm para rhy hir:

Ar ben huna, oedda ni fwy neu lai yn aros mewn cartra teulu Fijian, felly doedd na ddim math o restaurant - oedda nw'n cwcio brecwast, cinio a swpar i ni bob dydd. Dwi'n gwbod be da chi'n feddwl - sut nesh i fanijo efo huna?! Dwi dal ddim yn siwr, ond nesh i'm gwrthod buta dim byd chwaith - dwi'n tyfu fyny o'r diwadd! (Jysd lwcus bod nw heb gwcio bacon i frecwast! (Bacon di cas fwyd fi)).

Eniwe, fel fedrwch chi ddychmygu, oedda ni ddigon hapus i neud dim byd am y ddau ddiwrnod nesa, jysd gneud y mwya o'r traeth - dyma chydig o lunia:

Ar ôl huna, oedd hi'n amsar symud mlaen - natha ni ddal y cwch bach yma o'r ynys at y fferi:

Yr ynys nesa oedd Naviti, ac oedda ni'n aros mewn lle dipyn neisach fama:

Ond yn anffodus, oedd y traeth yn afiach o gymharu efo'r un dwytha (hynny ydi amazing o gymharu efo unryw draeth adra!):

Lwcus, oedd ddim rhaid i ni dreulio amsar ar y traeth - oedd na bwll nofio yn lle ni! POSH!!

So, unwaith eto, oedda ni reit hapus am dri diwrnod! Braf peidio cal tywod yn bob man os rwbath! Eniwe, o fana, atha ni lawr yn bellach i ynys o'r enw Waya. Oedda ni'n aros mewn lle fwy...cartrefol eto, ond oedda nw'n riiili cyfeillgar yna, a fama oedd y lle gora i fi jysd achos huna! Dyma chydig o lunia:

Hefyd, sbiwch clir oedd y môr!

Oedda nw'n dda am drefnu petha ar ôl iddi dywyllu hefyd, fatha sioeau tân a dawnsiau (..dawnsfeydd? dawnsys?!) - oedd o braidd yn jaman actually, achos oedd pawb yn gorfod dawnsho'n sobor, ac oedd o'n gêm lle oedd na rywun yn mynd allan bob tro - gath Dan drwodd i'r 4 ola, oedd o ddim isho bod yna at all!

Hefyd, oedd y sioeau tân yn jaman, achos er bod nw'n gneud o bob nos, oedda nw byth cweit yn siwr o'r routine - eitha peryg actually, achos oedd y ffyn tân yn fflio i bob man! Dyma fideo - ar y pryd o'n i methu sdopio chwerthin (sy braidd yn tait). Be sy'n ticlo fi di'r ffor ma'r leader yn gweiddi "Bula" randomly (sy'n golygu "helo"), ac wrth gwrs, y pobol sy'n gneud misdêcs!

3 diwrnod yn fana, wedyn symud ymlaen. Wrth i ni adal, nath pobol y lle ddechra canu cân ffarwel. Oedda ni di hen arfar efo clywad hyn, oedda nw'n gneud o bob dydd. "Sorry we disturb!", fysa nw'n gweiddi ar y diwrnoda erill pan oedda ni'n "brysur" yn gorwadd yn yr haul.

Yr ynys ola i ni fynd iddi oedd Beachcomber, sy hefyd yn cal ei alw'n Beach-coma am bod y lle yn known am fod yn y "party island". Gatha ni amsar da fama, braf cyfarfod pobol eto, ar ôl i ni droi'n ddau recluse yn Seland Newydd!

Oedd o'n ynys TINY, as in gellu cerddad reit rownd hi ar y traeth mewn 10 munud! Cwl ddo, union math o ynys swn i'n ddychmygu os swn i'n meddwl am Fiji. ...A dwi newydd sylwi bod gena fi ddim even llun o'na fo. Jaman.

Eniwe, lot o hwyl yna, 4 diwrnod i gyd, ond nath Dan adal diwrnod yn gynt i fynd nôl ar y mainland. Oedd o'n deifio efo sharcod, ond do'm i'm rhy ciin! Oedd o o fewn trwch blewyn i tiger shark 15 troedfadd! Y peth mwya amazing mae o di neud yn trafeilio, fel ma'n licio rwbio fewn! Mae o di anfon y DVD adra os oes gen ryuwn ddiddordab!

Eniwe, nôl ata FI! Nesh i fynd nôl ar y mainland diwrnod wedyn, a mynd lawr i'r de i gyfarfod dau wynab cyfarwydd:

Siriys, dwi'n convinved bod nw'n dilyn ni! Na jôc, oedda nw'n dechra ar wylia efo'u bosus a ffrinida. Oedda nw'n aros mewn lle RIIILI posh (resort go iawn), ac oedda ni'n aros mewn backpackers fyny lon, ond oedda ni'n isda rownd pwll efo nw drw dydd yn y resort! A gatha ni un noson allan ola efo nw - hwyl! Oedd Dan yn dipyn o "hit" efo hen wragedd dwi'n meddwl (Sian, paid a sbio!):

Os da chi'n tybad be sy'n mynd mlaen yn y llun ola, sbiwch yn agosach - ma "Una Murray" yn rhoi ei e-mail address i Dan! Sdyd.

A dyna ni! Pythefnos amazing! Natha ni fflio i LA diwrnod wedyn, a dwi di methu ffeindio internet call ers huna! I neud petha'n waeth, nesh i ddim ffeindio adapter y wlad tan diwadd amsar LA chwaith, so gena fi ddim llunia o'na! Ma gen Dan rei ddo, so nai drio sortio blog LA allan yn FUAN!

Dwi'n hannar gobeithio fydd y blog yma'n ddigon i gadw chi'n hapus am dipyn ddo!