31/01/2007

Hwyl yn hwylio (jôc wael)

I ddechra, fydd y llunia fyny fory! Ocê, gena fi dipyn i sôn am, a ma Dan di gneud o'n anodd i fi drw dynnu 300 llun mewn 3 diwrnod (dim exagerration), felly dwi'n trio mynd drwyddyn nhw i ffeindio y rhei da (sef tua 10 (jôc Dan!)), a cofio be natha ni yn y Whitsundays!

Ma raid i fi ddechra drw ddeud bod o'n hollol wahanol i Fraser Island, a bod o lot mwy fel gwylia reit foethus - oedda ni ddim yn gorfod campio, i ddechra, ac oedd na fwyd di paratoi i ni bob nos! Hefyd, oedda nw'n gwerthu dwr ar y cwch, felly doedd na ddim chans i fi fynd yn dehydrated eto!

Eniwe, yn syml, be oedda ni'n neud oedd hwylio rownd ynysoedd Whitsundays ar gwch efo 30 o bobol erill, am 3 diwrnod, ac aros mewn hostel ar un o'r ynysoedd. Oedd gena ni griw da fyd, a dwi'n meddwl nath huna neud lot o wahaniath - sa bod ar gwch drw dydd di bod yn boring fel arall! Dyma lun o'r criw i gyd:

Gatha ni snorclo dipyn hefyd, oedd yn reit cwl, ond am bod na stingers yn y dwr (fel jellyfish peryclach), oedd raid i ni wisgo stinger suits. Dyma lunia o'na ni'n modelu'r wisg hynod ffasiynol (Dan yn cymud o braidd rhy serious!):

Oedd y golygfeydd yn neis - dyma lunia (sori os oedd huna'n abrupt, ond ar ôl edrych drw 300 o lunia RILI TEBYG dwi'n meddwl sa chi run fath!):

Y peth gora i fi ddo oedd y nosweithia ar yr ynys - oedd pawb o'r cwch jysd yn cal parti bob nos! Dyma lun o'na ni efo'r ffrindia natha ni neud:

Yn ail i huna oedd hyn - amsar brecwast, oedd na lwyth o barots lliwgar yn dod i futa'r sgraps - as in LLWYTH. Oedda chi'n gellu bwydo nw a betha, rili cwl. Dwi rioed di gweld gymaint o barots gwyllt o blaen! (Newydd sylwi bod gen Dan ddim llun sy'n rili cyfleu faint oedd yna! (Negas i Dan - iwsha'r camera i dynnu llunia diddorol!)).

A dyna fo'r trip rili - ella bod o'n swnio fel bod Fraser Island di bod yn well a bod ni di gneud SLASH gweld mwy, dwi'n meddwl mai Whitsundays swn i'n dewis gneud gynta eto. Dwi'm rili'n ffan o orfod ryffio hi!

Eniwe, digon o huna - nath na rwbath EXCITING IAWN ddigwydd ar y ffor fyny i Mission Beach. Oedda ni jysd yn dreifio mlaen, yn eitha bored, pan natha ni weld sein yn deud "Giant Mango" - WAAAW! (Slash o'n i'm yn gwbod bod mangos yn edrych fel hyn):

So rwan da ni yn Mission Beach, a ma'r tywydd yn ofnadwy! Tresho bwrw drw dydd, felly yr unig beth oedda ni'n gellu gneud oedd white-water rafftio, oedd hyd yn oed fwy gwyllt achos y tywydd. Ar y rapid cynta un, nesh i ddisgyn off, a cal cyt reit impressive ar fy mhenelin! Mwynhewch y sequence yma o lunia (a ylwch ffrind da di Dan yn poeni tra bod pawb arall yn chwerthin!):

Ar wahan i huna, gatha ni ddim damwain fawr (ond am y cwch yn troi drosodd unwaith - sgeri!), ond dyma chydig o lunia cyffredinol o'r rafftio:

Lot o hwyl, fel da chi'n gweld. Fory, da ni'n gobeithio dreifio fyny i Cairns, ond os fydd y glaw ddim yn sdopio, ma'n edrych fel y bydda ni'n sdyc fama am dipyn! Ac os fydd hi'n bwrw yn Cairns, ella gawn ni beidio gneud y sky dive...!

26/01/2007

Dim dingoes, dim dwr, lot o hwyl!

Wel, da ni dal yn fyw ar ôl Fraser Island! Nath na run dingo futa ni (natha ni ddim hyd yn oed gweld UN, oedd yn gytud braidd.). Oedd o'n lot o hwyl, ond oedd 3 diwrnod yn ddigon deffinet! Dyma be natha ni...

Y diwrnod cynta, oedd raid i ni ddeffro am 6 i bacio'r 4x4 yn barod i fynd. Oedd hi'n afiach o boeth i feddwl pa mor gynnar oedd hi, a'r peth ola o'n isho gneud oedd pacio fan efo 10 person arall - sdres! Dyma lun o'r fan:

Natha ni ddal y fferi drosodd i Fraser Island am 9:30 yn y bora, a cyradd Fraser Island tua 11! Oedd na 5 fan di teithio drosodd efo'i gilydd, sef tua 50 o bobol, a natha ni benderfynu sa ni'n mynd rownd yr un llefydd ar yr ynys i sdicio efo'n gilydd. Yn fan ni oedd y 4 o'na ni, dwy o Norwy, cwpwl o Birmingham a cwpwl arall (hi o Loegr, fo o'r Almaen) - pobol hwyl, lwcus!

Sdop cynta ni ar yr ynys oedd Lake Maquairie, sef y llyn gora, a'r tywod gora, dwi rioed di weld - oedd o'n union fel bod ar draeth, mond bod y dwr ddim yn hallt - oedd o mor lân hefyd, oedda ni'n gellu yfad y dwr - neis iawn yn yr haul boiling!

Ar ôl fforsho'n hunan i adal fana, natha ni ddreifio chydig mwy i weld shipwreck. Cyn hyn, di bod yn dreifio ar lonydd cul oddi ar y traeth oedda ni, ond rwan gatha ni jans i ddreifio ar y traeth ei hun - reit cwl! Oedd y shipwreck ei hun ddim yn ddrwg chwaith!


Sôn am shipwrecks, unryw ffans o'r rhaglan Shipwrecked yma? Wel, o'n i'n ffan o'r ail series nôl yn 2000, a oedd na hogan off hwna ar y trip efo ni! Oedda ni'n hapus iawn i fod mewn cwmni seleb(!) - dyma lun gath Dan ohoni ar y slei (na, doedda ni ddim yn gymaint a huna o ffrindia efo hi!!):


Noson gynta wedyn, natha ni jysd ffeindio lle i gampio ar y traeth a cal noson o yfad rownd tân - lot o hwyl...

...Neu dyna be oedda ni'n meddwl cyn deffro bora wedyn am 6 yn yr haul cry, a gorfod pacio'n tents cyn 7 er mwyn gellu dreifio ar y traeth cyn i'r llanw ddod fewn! Afiach go iawn. Y sdop cynta y diwrnod yna oedd Champagne Pools, sef darn o'r môr oedd di cal ei gau off, efo tona'n sblasho fewn. Swnio'n neis dydi? Be oedd DDIM yn neis oedd gorfod cerddad awr ar hyd y traeth yn y tywydd boiling (a o'n i di anghofio dwr yn y car, ddim yn disgwl gorfod cerddad mor bell). Dyma Dan yn trio bod yn arty yn tynnu llun o olion traed fi:


Ar ôl cyradd, natha ni jysd deifio mewn i'r pwll yn syth - mor neis (er braidd yn hallt!). Doedd o'm cweit mor cwl a o'n i di ddisgwl chwaith (ond dwi'm yn meddwl bod na'm byd werth cerddad gymaint â huna!), a swn i di gneud rwbath i fod nôl yn Lake Maquearie eto:

Be o'n i ddim yn barod am oedd gorfod cerddad yn ôl. A do'n i dal heb ddwr. Ac erbyn hyn o'n i fwy sychedig a dehydrated na dwi rioed di bod - o'n i hyd yn oed yn rili tempted i yfad allan o'r tap, oedd efo sein mawr yn deud bod na wenwyn yn y dwr! Ma'n swnio'n ffyni rwan, ond oedd o'n afiach SLASH peryg. Dwi byth am fynd i nunlla heb ddigon o ddwr eto! Dyma lun o'na fi pan o'n i heb even cychwyn cerddad (yn reit sal yn barod!):

So cofiwch - yfwch ddigon o ddwr blant! (Dim jôc).

Eniwe, ar ôl cinio o botal fawr o ddwr, afal, ice lolly a slush puppie mawr, o'n i'n teimlo lot gwell!

Wedi dysgu gwers, gesh i noson ddistawach yr ail noson, a gwely cynnar am bod fi'n gwbod bod rhaid deffro'n gynnar bora wedyn i bacio fyny eto. Ar y trydydd diwrnod atha ni nôl i Lake Macquarie (dwi'n trio amrywio'r sillafu am bod fi'm yn gwbod pa un sy'n iawn - bownd o fod yn iawn unwaith!), cyn dal y fferi nôl am 2:30.

Natha ni dreulio'r noson yna yn ôl yn Hervey Bay, a gath pawb pizza i swpar (oedd o'n teimlo fel bod ni heb futa'n iawn ers lot mwy na dau ddiwrnod!). Bora wedyn, sef ddoe (dydd Iau), oedd gena ni ddreif mawr o'n blaena - yr holl ffor i Airlie Beach, sef tua 500 milltir - iaics! Fi nath ddreifio rhan fwya o'na fo (400 milltir), a o'n i'n lyfio fo - dreifio ar hyd lonydd hollol syth a hollol wag, efo tir hollol sych reit rownd - union be o'n i di ddychmygu o ddreifio drw Awstralia, a nath o neud fi feddwl bod ni deffinetly di gneud y peth iawn yn prynu car!

Eniwe, mai'n Australia Day heddiw, sy'n ddiwrnod HIWJ yma - so da ni am gal parti heno mashwr! Dydd Sul da ni'n mynd ar gwch rownd y Whitsunday Islands (natha ni fwcio hyn run pryd a'r Fraser Island), a fydda ni ffwr am 3 diwrnod eto, felly nai ddim sgwennu rwan tan ddown ni nôl o fana (dwi'n meddwl bod fi di sgwennu hen ddigon am un wsnos eniwe do?!) - gobeithio bod pawb yn iawn adra!

21/01/2007

"Crocs rule!"

Helo! Am frysho drw'r blog yma, achos ma amsar yn rhedag allan ar y cownter ar y top! Preshyr i fi sgwennu blog diddorol heb adal dim byd allan!

Iawn, ar y ffor i Brisbane oedda ni y tro dwytha natha chi glywad gena fi. Dinas reit normal rili, fel Sydney tawelach, a heb y traetha. Oedd hostel ni'n rili da ddo, efo bar lawr grisha oedd yn gwerthu peints! (Heb gal peint yn iawn ers bod ffwr, felly oedd huna yn exciting iawn i ni!). Doedd na'm lot i neud yn Brisbane ddo, felly dim ond 2 noson natha ni aros yna, cyn mynd ymlaen at Noosa. Dyma lunia o Brisbane:

Ar y ffor i Noosa, natha ni sdopio yn Australia Zoo, sef sw Steve "crocs rule" Irwin, y boi gwirion nath gal ei ladd flwyddyn dwytha am wylltio stingray (oedd o'n bownd o ddigwydd rwbryd!). Dwi'm yn ffan o zoos fel arfar, ond oedd yr un yma reit cwl ma raid i fi ddeud - y rhan ora oedd y rhan cangarws, lle oedd y cangarws jysd yn rhedag rownd yn rhydd, ac oedda chi'n gellu mynd ata nw i roi mwytha idda nw a betha.

Hefyd, gesh i jans i roi mwytha i koala:

Ar wahân i huna, oedd o reit debyg i unryw sw arall (ond am y ffaith bod na fasgot cartwnaidd o Steve Irwin rownd y lle - anaddas SLASH rhy gynnar!!).

Dyma lun o Dan yn cal ei futa gen grocodeil!! (Lwcus, nath o ddod allan ohoni'n fyw, ond dim ond un fraich sy gena fo rwan).

A dyma lun o'na fi wedyn ar gefn yr un crocodeil! (Ocê, dwi'n cyfadda - un fake oedd o).


O ia, peth arall ECSAITING nath ddigwydd ar y ffor i Noosa - tro dwytha, nesh i sôn bod ni di gweld banana mawr, ond troma, natha ni weld pin-afal MAWR. Oedda ni wedi gwirioni. Dyma lun o Dan wedi gwirioni:


Oedd Noosa'n le rili braf, un o llefydd gora fi yn Awstralia so far. Nath o helpu hefyd bod ni di cyfarfod loads o bobol o Gymru yn yr hostel (Caerdydd, Port Talbot, a dwy o'r canolbarth rwla!). Hostel rili cymdeithasol, sy'n brin braidd yn Awstralia, achos mae o'n teimlo fel bod pawb fwy neu lai'n hapus yn eu grwps, a neb rili'n gneud ymdrech i gymysgu. So oedd Noosa'n teimlo chydig fel bod nôl yn Thailand!

Eniwe, bora ma natha ni adal Noosa i ddod i Hervey Bay, lle da ni'n aros heno cyn dal fferi bora fory i Fraser Island. Dwi'm yn meddwl bod fi di sôn am hyn naddo - yn Fraser Island, fydda ni mewn grwp o 11, a fydda ni'n cal menthyg 4x4 i ddreifio rownd yr ynys (ar y traeth a bob dim!) - mae o fod yn rili neis, a lot fawr o hwyl - campio ar y traeth a ballu! Da ni'm yn cal nofio yn y môr ddo, achos bod na siarcod yna, a ma na lwyth o dingoes (cwn gwyllt peryg) rownd hefyd - yn y fideo oedd yn introducio'r peth i ni, nath y lein yma ddychryn fi:

"If attacked, defend yourself aggressively."

Iaics! Da ni yna am dri diwrnod, felly os fyddwch chi heb glywad gena ni mewn wsnos, dwi'n meddwl bod o'n amsar dechra panicio...! (Jôc, peidiwch a poeni gormod plis). Traaa!

O.N. Mwya fyny'r Gogledd da ni'n mynd, gora di'r golygfeydd da ni'n gal wrth ddreifio drw'r wlad - dyma chydig o lunia!

O.O.N. Waw, wedi gellu sgwennu hwn yn ffasd iawn.

15/01/2007

Hippies, reids, ond dal heb syrffio!

Helo ers hir! Fel nesh i ddeud tro dwytha, ar y ffor i Byron Bay, natha ni sdopio i weld y Big Banana. Do'n i'm yn siwr iawn be i ddisgwl i ddeud y gwir, ond o'r holl hype, ma raid i fi gyfadda bod fi wedi disgwl rwbath gwell na hyn:


Ar ôl y siom yna, natha ni ddreifio mlaen i Byron Bay - lle rili chilled out, er braidd yn llawn o hippies (no offence i unryw hippies sy'n darllan y blog yma). Oedd y traeth yn rili neis yna, a nesh i neud chydig mwy o bodyboardio (y cerynt rhy gry i ddysgu syrffio yna! A ma bodyboardio yn fwy o hwyl na ma'n swnio os da chi'n dal ton yn iawn!). Ar y noson gynta, natha ni gyfarfod fyny efo Anna a Niall, oedd wedi bod yna ers wsos ac yn rili licio'r lle!

Un peth annoying am y lle oedda ni'n aros - campio oedda ni eto, ac oedd na dwrcwn gwyllt yn cerddad rownd y lle yn trio torri fewn i dents pobol. Nath na un lwyddo i ddwyn dau bacad o grisps a pacad o super noodles gena fi!! O'n i'n flin!

Ar un o'n diwrnoda yn Byron Bay atha ni am drip i Nimbin - y lle mwya rhyfadd dwi rioed di bod yn! Oedd o'n dre tiny, ond mae o'n llawn pobol yn trio gwerthu drygs, hyd yn oed yn y siopa a'r caffis! Gena nw hyd yn oed amgueddfa sy'n sôn am hanas cannabis! Dwi'n meddwl mai ni di'r pobol cynta erioed i adal y lle heb brynu dim byd! (Ond dwi'n gweld pam bod yr holl hippies di argymell y lle i ni....)

Ar ôl aros yn Byron Bay am 6 noson yn gneud fawr o ddim, oedd hi'n hen bryd i ni symud ymlaen i'r lle nesa' - Surfer's Paradise! O'n i'n meddwl sa fama'n le aidial i fi ddysgu syrffio, ond ar ôl cyradd, nesh i sylwi bod syrffio ddim mor dda a huna yma am bod na ddim digon o dona! Grr! False advertisement ta be?! Nath y siom yma ddim para rhy hir ddo, achos nesh i ffeindio allan be oedd yna i neud yn Surfer's Paradise - theme park hiwj a water park hiwj! Iahww!


Gynta atha ni i Wet'n'Wild, oedd yn lot fawr o hwyl - dwi'n rili mwynhau parcia dwr fel mai, felly o'n i wrth fy modd! Lot o sleids, rhei o'na nw reit sgeri - yr un gora i fi oedd yr un 'ma oedd fel ras rhwng wyth person, ac oedd o'n dangos y results ar y gwulod - nath y pedwar o'na ni neud bet pwy sa'n ennill cyn cychwyn - oedd raid i'r 3 oedd yn colli brynu peint i'r enillydd, sef.......FI!! Felly hwna oedd y sleid gora i fi! (Ddoth Dan yn ola - shoc!!)

Ddoe wedyn, atha ni i Dreamworld, sy'n llawn o reids sgeri. Nai'm bod yn boring a sôn am bob un, ond yr un mwya sgeri (a'r peth mwya sgeri dwi rioed di neud) oedd y Giant Drop. Da chi'n isda mewn rhes, cal eich codi fyny tua 100 medr yn yr awyr, lle da chi jysd yn aros yn hongian yn yr awyr am tua munud, yn gwbod be sy ar ei ffor - afiach o deimlad! Wedyn, mwya sydyn, da chi jysd yn disgyn am y llawr full speed! Dwi rioed di sgrechian gymaint! Dyma lun o Dan ar y reid.... (.........be?!):


Un peth da am y reid - mae o di sort of paratoi fi am neud sky dive! Ella bod ni am neud o'n Awstralia rwan fyd, am bod y pedwar o'na ni "isho" neud o. Sy'n golygu bod gena fi mond tua pythefnos i baratoi! Gylp!

Eniwe, blog hir arall, felly sa well i fi gau ngheg rwan. Da ni off i Brisbane heddiw, dinas reit fawr, felly dwi'n siwr fydda i'n gellu sortio allan y llunia ar ôl cyradd! (Ypdêt - wedi llwyddo - ewch i jecio'r holl hen flogs!!)

04/01/2007

Blwyddyn Newydd Dda!

Helo! Gobeithio gatha chi gyd noson flwyddyn newydd dda! Oedd un ni reit random i ddeud y gwir, ond mwy am huna wedyn - gena fi lot o ddal fyny i neud efo'r blog 'ma!

Rhwng 'Dolig a flwyddyn newydd, natha ni'm g'neud lot o'm byd rili, dim ond mynd rownd Sydney a gweld mwy o'r ddinas. Atha ni fyny'r Sky Tower, oedd reit cwl (er bod raid witchad 3 awr am bod y liffds di torri!) - oedd yr olygfa o'r top werth o ddo!

Eniwe, ar ein trafyls rownd Sydney, natha ni ffeindio sbot ideal ar gyfar nos Calan, felly am 9 yn bora ar y 31ain(!), dyna lle atha ni ar y trên. Lwcus bod ni di bod mor keen i ddeud y gwir, achos natha ni lwyddo i gal lle da yn y parc, efo bench a bob dim - ath hi'n afiach o packed yna erbyn diwadd nos! Gath pawb noson rili da, ac oedd y tân gwyllt am hannar nos yn amazing! Gesh i'm llunia rhy dda yn anffodus (dwi'n beio'r camera, dim yr alcohol!). Lwcus, nesh i dynnu llunia o'r view oedd gena ni yn y pnawn.

Dan newydd helpu fi allan - nath o lwyddo i gal llunia o'r tân gwyllt - camera gwell, ma raid...!

Ar yr 2il o Ionawr wedyn, nath James, Marcus, Dan a fi gychwyn ar ein taith fyny'r east coast! Y stop cynta oedd Palm Beach, sef y traeth lle ma Home and Away yn cal ei ffilmio (pa mor sad da ni?!). Doedd o'm yn edrych cweit fel o'n i'n disgwl, ond dwnim be o'n i'n ddisgwl chwaith, achos dwi heb watchad Home and Away ers o'n i'n tua 10 (gaddo!).

Noson yna, natha ni aros mewn lle o'r enw Port Stephens, a campio am y tro cynta (ma Dan a Marcus efo tent dda, a ma James a fi yn gorfod rhannu'r freebie crap!).

Oedd na lot o fywyd gwyllt weird rownd ddo, ond dyna be sy'n dda am Awstralia - am bod y cyfandir di bod ar wahân i bob cyfandir arall am 90 miliwn o flynyddoedd, ma pob dim di dilyn evolutionary cycle gwahanol - er enghraifft, yn fama, di'r coed byth yn colli eu dail, ond ma nw'n colli'r bark bob blwyddyn (newydd sylwi bod hwn newydd droi'n ormod o ddarlith - nai sdopio rwan!). Eniwe, dyma lun o forgrugyn massive natha ni weld:

Y bora wedyn, natha ni ddeffro'n gynnar i fynd i'r moving sand dunes mwya yn y Southern Hemisphere - oedd o reit cwl cal liffd wylld mewn jeep dros yr anialwch - teimlo fel bod ni yn y Sahara i ddeud y gwir!

Gatha ni hefyd go ar sandboardio, sy basically fel slejo ar dywod - swnio'n weird ond oedd o'n hwyl. Heblaw am y ffaith bod rhaid cerddad nol fyny'r allt o dywod ar y diwadd bob tro - afiach! Ar ôl huna natha ni fynd fyny ryw fynydd SLASH bryn i weld yr olygfa'n iawn - amazing.

Mwy o lunia natur rwan - natha ni weld lot o bryfaid cop afiach o fawr!!

Heddiw wedyn, natha ni ddeffro'n reit gynnar i ddreifio 'mlaen i'r lle nesa, sef Coffs Harbor (sy'n enwog am gal cerflun enfawr o fanana...!). Ar y ffor, natha ni sdopio yn Seal Rocks, sef traeth arall neis (bywyd anodd de!). Gatha ni lunia da! (Ma Dan a fi di troi'n keen am dynnu llunia, a da ni wastad mewn cystadleuaeth efo'n gilydd!).

A dyna ni! Natha ni gyradd Coffs Harbor tua 8, felly dim lot o amsar i neud dim heno. Fory awn ni i weld y banana(!), cyn dreifio 'mlaen i Byron Bay, sy fod yn le da - 'da ni am aros fana am tua 4 diwrnod mashwr! 'Da ni'n gobeithio cyfarfod Anna a Niall oedd yn Thailand/Malaysia/Singapore efo ni hefyd!!

Newydd sylwi pa mor hiiiiwj di'r blog yma, felly da iawn chi am gyradd y diwadd yn fyw! Nai gadw fo'n fyrach tro nesa'!