26/01/2007

Dim dingoes, dim dwr, lot o hwyl!

Wel, da ni dal yn fyw ar ôl Fraser Island! Nath na run dingo futa ni (natha ni ddim hyd yn oed gweld UN, oedd yn gytud braidd.). Oedd o'n lot o hwyl, ond oedd 3 diwrnod yn ddigon deffinet! Dyma be natha ni...

Y diwrnod cynta, oedd raid i ni ddeffro am 6 i bacio'r 4x4 yn barod i fynd. Oedd hi'n afiach o boeth i feddwl pa mor gynnar oedd hi, a'r peth ola o'n isho gneud oedd pacio fan efo 10 person arall - sdres! Dyma lun o'r fan:

Natha ni ddal y fferi drosodd i Fraser Island am 9:30 yn y bora, a cyradd Fraser Island tua 11! Oedd na 5 fan di teithio drosodd efo'i gilydd, sef tua 50 o bobol, a natha ni benderfynu sa ni'n mynd rownd yr un llefydd ar yr ynys i sdicio efo'n gilydd. Yn fan ni oedd y 4 o'na ni, dwy o Norwy, cwpwl o Birmingham a cwpwl arall (hi o Loegr, fo o'r Almaen) - pobol hwyl, lwcus!

Sdop cynta ni ar yr ynys oedd Lake Maquairie, sef y llyn gora, a'r tywod gora, dwi rioed di weld - oedd o'n union fel bod ar draeth, mond bod y dwr ddim yn hallt - oedd o mor lân hefyd, oedda ni'n gellu yfad y dwr - neis iawn yn yr haul boiling!

Ar ôl fforsho'n hunan i adal fana, natha ni ddreifio chydig mwy i weld shipwreck. Cyn hyn, di bod yn dreifio ar lonydd cul oddi ar y traeth oedda ni, ond rwan gatha ni jans i ddreifio ar y traeth ei hun - reit cwl! Oedd y shipwreck ei hun ddim yn ddrwg chwaith!


Sôn am shipwrecks, unryw ffans o'r rhaglan Shipwrecked yma? Wel, o'n i'n ffan o'r ail series nôl yn 2000, a oedd na hogan off hwna ar y trip efo ni! Oedda ni'n hapus iawn i fod mewn cwmni seleb(!) - dyma lun gath Dan ohoni ar y slei (na, doedda ni ddim yn gymaint a huna o ffrindia efo hi!!):


Noson gynta wedyn, natha ni jysd ffeindio lle i gampio ar y traeth a cal noson o yfad rownd tân - lot o hwyl...

...Neu dyna be oedda ni'n meddwl cyn deffro bora wedyn am 6 yn yr haul cry, a gorfod pacio'n tents cyn 7 er mwyn gellu dreifio ar y traeth cyn i'r llanw ddod fewn! Afiach go iawn. Y sdop cynta y diwrnod yna oedd Champagne Pools, sef darn o'r môr oedd di cal ei gau off, efo tona'n sblasho fewn. Swnio'n neis dydi? Be oedd DDIM yn neis oedd gorfod cerddad awr ar hyd y traeth yn y tywydd boiling (a o'n i di anghofio dwr yn y car, ddim yn disgwl gorfod cerddad mor bell). Dyma Dan yn trio bod yn arty yn tynnu llun o olion traed fi:


Ar ôl cyradd, natha ni jysd deifio mewn i'r pwll yn syth - mor neis (er braidd yn hallt!). Doedd o'm cweit mor cwl a o'n i di ddisgwl chwaith (ond dwi'm yn meddwl bod na'm byd werth cerddad gymaint â huna!), a swn i di gneud rwbath i fod nôl yn Lake Maquearie eto:

Be o'n i ddim yn barod am oedd gorfod cerddad yn ôl. A do'n i dal heb ddwr. Ac erbyn hyn o'n i fwy sychedig a dehydrated na dwi rioed di bod - o'n i hyd yn oed yn rili tempted i yfad allan o'r tap, oedd efo sein mawr yn deud bod na wenwyn yn y dwr! Ma'n swnio'n ffyni rwan, ond oedd o'n afiach SLASH peryg. Dwi byth am fynd i nunlla heb ddigon o ddwr eto! Dyma lun o'na fi pan o'n i heb even cychwyn cerddad (yn reit sal yn barod!):

So cofiwch - yfwch ddigon o ddwr blant! (Dim jôc).

Eniwe, ar ôl cinio o botal fawr o ddwr, afal, ice lolly a slush puppie mawr, o'n i'n teimlo lot gwell!

Wedi dysgu gwers, gesh i noson ddistawach yr ail noson, a gwely cynnar am bod fi'n gwbod bod rhaid deffro'n gynnar bora wedyn i bacio fyny eto. Ar y trydydd diwrnod atha ni nôl i Lake Macquarie (dwi'n trio amrywio'r sillafu am bod fi'm yn gwbod pa un sy'n iawn - bownd o fod yn iawn unwaith!), cyn dal y fferi nôl am 2:30.

Natha ni dreulio'r noson yna yn ôl yn Hervey Bay, a gath pawb pizza i swpar (oedd o'n teimlo fel bod ni heb futa'n iawn ers lot mwy na dau ddiwrnod!). Bora wedyn, sef ddoe (dydd Iau), oedd gena ni ddreif mawr o'n blaena - yr holl ffor i Airlie Beach, sef tua 500 milltir - iaics! Fi nath ddreifio rhan fwya o'na fo (400 milltir), a o'n i'n lyfio fo - dreifio ar hyd lonydd hollol syth a hollol wag, efo tir hollol sych reit rownd - union be o'n i di ddychmygu o ddreifio drw Awstralia, a nath o neud fi feddwl bod ni deffinetly di gneud y peth iawn yn prynu car!

Eniwe, mai'n Australia Day heddiw, sy'n ddiwrnod HIWJ yma - so da ni am gal parti heno mashwr! Dydd Sul da ni'n mynd ar gwch rownd y Whitsunday Islands (natha ni fwcio hyn run pryd a'r Fraser Island), a fydda ni ffwr am 3 diwrnod eto, felly nai ddim sgwennu rwan tan ddown ni nôl o fana (dwi'n meddwl bod fi di sgwennu hen ddigon am un wsnos eniwe do?!) - gobeithio bod pawb yn iawn adra!

5 comments:

Anonymous said...

Ma'r lle 'na'n edrych mor neis - jelys iawn a finna'n gorfod gweithio! Ti'n edrych yn ofnadwy o frown yn llun 'artistig' Dan ohona chdi - oni'm yn meddwl ma chdi oedd o ar y dechra! Sori eto am neithiwr hefyd, dwi dal yn gyttud am y peth! Mwynhewch!

Anonymous said...

Ydan, ma pawb yn iawn adre. Diolch am y wers am yfed dwr.

Anonymous said...

Ffion-sy-ddim-yn gwbod-be-odd-twrcwn sy ma.(By the way Mari- dwi rioed wedi gwneud lefel A Cymraeg!)Natho ni rioed weld Dingo n Fraser Island chwaith Gruff...er oddan ni'n trio perswadio'n hunan weithia bo ni di gweld un yn bell i ffwrdd wedi wedi cuddio yn y sand......Ma Whitsundays yn well na Fraser Island-mae o'n AMAZING! Mwynhewch!!

Anonymous said...

helo!! ffion arall su ma- aka ffloyd! waw- mar llunia yn edrych yn wych!!! dwin cytuno hefo comment manon, tin edrych yn eithriadol o frown yn y llun artistig, slash galaxy bar!! dwim yn jelys at all. (!) gobeithio bod y ddau ohona chin iawn, hwyl a fflag am y tro.

o.n 26 wsos tan sdeddfod!!!!

Anonymous said...

...please where can I buy a unicorn?