31/01/2007

Hwyl yn hwylio (jôc wael)

I ddechra, fydd y llunia fyny fory! Ocê, gena fi dipyn i sôn am, a ma Dan di gneud o'n anodd i fi drw dynnu 300 llun mewn 3 diwrnod (dim exagerration), felly dwi'n trio mynd drwyddyn nhw i ffeindio y rhei da (sef tua 10 (jôc Dan!)), a cofio be natha ni yn y Whitsundays!

Ma raid i fi ddechra drw ddeud bod o'n hollol wahanol i Fraser Island, a bod o lot mwy fel gwylia reit foethus - oedda ni ddim yn gorfod campio, i ddechra, ac oedd na fwyd di paratoi i ni bob nos! Hefyd, oedda nw'n gwerthu dwr ar y cwch, felly doedd na ddim chans i fi fynd yn dehydrated eto!

Eniwe, yn syml, be oedda ni'n neud oedd hwylio rownd ynysoedd Whitsundays ar gwch efo 30 o bobol erill, am 3 diwrnod, ac aros mewn hostel ar un o'r ynysoedd. Oedd gena ni griw da fyd, a dwi'n meddwl nath huna neud lot o wahaniath - sa bod ar gwch drw dydd di bod yn boring fel arall! Dyma lun o'r criw i gyd:

Gatha ni snorclo dipyn hefyd, oedd yn reit cwl, ond am bod na stingers yn y dwr (fel jellyfish peryclach), oedd raid i ni wisgo stinger suits. Dyma lunia o'na ni'n modelu'r wisg hynod ffasiynol (Dan yn cymud o braidd rhy serious!):

Oedd y golygfeydd yn neis - dyma lunia (sori os oedd huna'n abrupt, ond ar ôl edrych drw 300 o lunia RILI TEBYG dwi'n meddwl sa chi run fath!):

Y peth gora i fi ddo oedd y nosweithia ar yr ynys - oedd pawb o'r cwch jysd yn cal parti bob nos! Dyma lun o'na ni efo'r ffrindia natha ni neud:

Yn ail i huna oedd hyn - amsar brecwast, oedd na lwyth o barots lliwgar yn dod i futa'r sgraps - as in LLWYTH. Oedda chi'n gellu bwydo nw a betha, rili cwl. Dwi rioed di gweld gymaint o barots gwyllt o blaen! (Newydd sylwi bod gen Dan ddim llun sy'n rili cyfleu faint oedd yna! (Negas i Dan - iwsha'r camera i dynnu llunia diddorol!)).

A dyna fo'r trip rili - ella bod o'n swnio fel bod Fraser Island di bod yn well a bod ni di gneud SLASH gweld mwy, dwi'n meddwl mai Whitsundays swn i'n dewis gneud gynta eto. Dwi'm rili'n ffan o orfod ryffio hi!

Eniwe, digon o huna - nath na rwbath EXCITING IAWN ddigwydd ar y ffor fyny i Mission Beach. Oedda ni jysd yn dreifio mlaen, yn eitha bored, pan natha ni weld sein yn deud "Giant Mango" - WAAAW! (Slash o'n i'm yn gwbod bod mangos yn edrych fel hyn):

So rwan da ni yn Mission Beach, a ma'r tywydd yn ofnadwy! Tresho bwrw drw dydd, felly yr unig beth oedda ni'n gellu gneud oedd white-water rafftio, oedd hyd yn oed fwy gwyllt achos y tywydd. Ar y rapid cynta un, nesh i ddisgyn off, a cal cyt reit impressive ar fy mhenelin! Mwynhewch y sequence yma o lunia (a ylwch ffrind da di Dan yn poeni tra bod pawb arall yn chwerthin!):

Ar wahan i huna, gatha ni ddim damwain fawr (ond am y cwch yn troi drosodd unwaith - sgeri!), ond dyma chydig o lunia cyffredinol o'r rafftio:

Lot o hwyl, fel da chi'n gweld. Fory, da ni'n gobeithio dreifio fyny i Cairns, ond os fydd y glaw ddim yn sdopio, ma'n edrych fel y bydda ni'n sdyc fama am dipyn! Ac os fydd hi'n bwrw yn Cairns, ella gawn ni beidio gneud y sky dive...!

10 comments:

Anonymous said...

Dwi'n rhedeg allan o betha diddorol i ddeud ar hwn hefyd, ella nai sdopio bod yn keen a comentio BOB tro!! Edrych mlaen i weld y llunia xxx

Anonymous said...

Banana mawr, afal pîn, mango... dwi'n mynd i agor llyfr i bobol gael betio pa ffrwyth anferthol welwch chi nesa. Mae mhres i ar passionfruit.

Anonymous said...

Ha ha! Oedd o werth aros am y llunia - da iawn pwy bynnag nath dynnu nhw! Ma'r dŵr yn edrych yn nyts - swni reit nyrfys os swni di dy weld di'n disgyn i mewn dwi'n meddwl!

Anonymous said...

Neshi chwerthin LOT efo heina Gruff! O bechod, shwr odd o reit sgeri! Edrych chydig gwell na raffdio yn Glan Llyn fyd, a oedd hwna'n superb!

Anonymous said...

Ma'r llunia newydd yn edrych yn rili sgeri! Nes di'm smasho dy ben ar y graig?!x

Anonymous said...

Waw - lluniau da!

Anonymous said...

Ha ha, dwi newydd chwerthin dors bob man efo'r llunia - ma'r un efo coesa chdi yn yr awyr yn class!!!! ( oni mond yn chwerthin achos bo fi'n gwbo bo chdi dal yn fyw ag yn ddi-anaf!!!)

Dwi reit jelys o'r daith de, a ma Lens yn mynd dechra mis nesa, pawb yn mynd a'n gadal ni!!

Reit haf ffyn, a cip yp dde gwd wyrc efo'r blog mae o yn hwyl!!

Lleucs xx

Anonymous said...

Neges gen Gruff mewn ebost-

Eniwe, mynd rwan - diolch am yr e-mail, licio cal rhei bob hyn a hyn (hint - deud wrth pawb).

So dyma fi yn deud wrth bawb!

Anonymous said...

Sorri bo v ddim yn rhoi sylwada fel arfer gruff ond ma pawb i weld yn cyfror pwyntiau a dwim rili isho ategu be ma pawb arall yn deud...

Gruff di troin adrenalin junkie ma rhaid cos swn i certainly wedi ****** fy hun yn disgyn backwards i fewn ir rapids!
ond gan bo tm yn gwynebu'r craig massive na odda tin disgyn fewn i ella doedd y perygl dim wedi registro efo t! lol

Anonymous said...

oh ia, dim random
spud