07/02/2007

Paratoi am yr Outback!!

Helo, sori bod y blog ma mor hwyr yn dod, ond oni di cal writers block SLASH!!! di bod rhy ddiog i sgwennu un!! Ma Gruff allan yn meddwi so mae o fyny i fi i informio pawb o be sy'n digwydd ar ein anturiaethau, cyn i ni adal am yr outback PERYG!! Aparyntli ma 1/10 o bobl sy'n mynd allan na byth yn dod yn nol!!!

Wel, dani di bod yn Cairns am wthnos wan yn paratoi yn ddilys am y daith anfarth PERYG o'n blaena!! Ma'r paratoi di cynnwys cyfarfod loads o bobl, jysd dipyn bach o yfad a loads gormod o ddiogi!! Dwi meddwl bod ni'n haeddu brek ddo, ma'r hollol drafeilio ma yn rili stressful!!

Odda ni wedi planio skydivio, ond mai di bwrw non-stop am wthnos yma, gytud!!! Aparyntli mai'n y wet season yma, a fory mana ddau Cyclone yn cyrradd yma, be bynnag ma hynna yn feddyl, dos na neb yn ymweld yn rhy stressed am y peth so ma raid dio ddim rhy beryg!!

Dani hefyd di bod yn deifio ar y Great Barrier Reef, oedd eitha cwl, ddim mor cwl a oni di diswgl ddo!! Er natha ni weld siarc, ath marcus a fi tua 5 meter ata fo, odd Gruff yn ciddiad tu nol i garrag!! Gatha ni hefyd fynd i ddeifio ar ben yn hunnan heb instructor, eitha scary, especially pan oedd marcus yn rili isal ar aer a dodda ni ddim yn gwbo lle uffar odda ni!! Natha ni weld stingray fyd sef un o'r petha nath ladd Steve Irwin (RIP) odd marcus isho pokio fo!!!

Wel, dani off fory i'r outback. Di chargio'r ipod fel bod ginna Geraint Lovgreen ar y radio, ma Marcus a James yn licio un can sef yr un efo 'I couldn't speak a word of english until I was ten years old!!' heblaw am hwnna manw rili annoyed pan dani n gwrado arna fo. Sori Geraint!!

Jysd gobeithio fydda ni ddim yn yr 1/10 sydd ddim yn dod yn nol!! Ffarwel am y tro SLASH am byth (ella)!!!

O.N. os dachi ddim yn clywad ginna ni mewn 2 wthnos plis ffoniwch yr heddlu!!

O.N.Arall. JOC, peidiwch a poeni dio ddim yn beryg o gwbl!! Ma nain yn darllan hwn so dwi'm isho dychryn hi!! Helo Nain!

11 comments:

Anonymous said...

Wow, licio'r blog, keep it up Dan. Gnewch siwr bod chi'n saff yn yr outback. Ddylia chdi definetly sgwennu mwy o flogs!!

Anonymous said...

neis clywad gin t dan, tn natural efo y busnas blog yma, a efo cymraeg da. siwr bod gruff d bod yn hamro y rain dance fel bod o ddim yn gorfod gneud sky dive. mwy o blogs gin t dan

Anonymous said...

gna siwr bod chi'n dod nol yn fyw, dwi'm isho bod yn brawd-less!! neis clywad ginna chdi ers oes!!!
Pob hwyl ar y trip!!

Anonymous said...

Fyswn i'n licio adio ma dim fi nath roid y comment na gen 'Lisa Pyrs' uchod - random, haha!! Ond ia, plis tud nol yn saff, ag enjoiwch!! :)

Anonymous said...

Blog hwyl Dan..da, fydd Gruff yn jelys o'r holl glod ti'n gal!! (ma rei chdi yn rili da fyd Gruff!!)

Lleucs x

P.S Byddwch yn ofalus a haf ffyn....Dan ti di dychrun fi yn defnyddio'r gair 'Peryg' gymaint mewn un blog!!

Anonymous said...

Da iawn Dan, hen bryd i Gruff gael brec cyn iddo fo gael repetitive strain syndrome.
Biti bod gen Marcus a James ddim chwaeth gerddorol de.
Dreifiwch yn saff drwy'r outback! Mae hi'n eira mawr yng Nghymru! (Wel, ddim llawer yn Dre, ond yn llefydd fel Drenewydd...)

Anonymous said...

Fedrai weld Gruff yn gytud bod Dan yn cal gymaint o sylw am y blog! Ffyni!!

Neis iawn clywad gena chdi Dan, a dwi'n cytuno - Cymraeg da a difyr!

Pob lwc i chi yn y llefydd PERYG!X

Anonymous said...

Gai jysd deud bod Dan di rhoi dau gomment fyny idda fo ei hun er mwyn edrych yn fwy poblogaidd - jysd gofynnwch i Lisa!

..Na dwi ddim yn bitter o gwbwl bod blog DI-LUNIA Dan yn cal lot mwy o sylw na rhei RILI LLIWGAR A DIDDOROL fi...

Anonymous said...

Ha ha - diolch am godi fy nghalon ar fora diflas a blinedig yn gwaith ar ôl penwsos yn yr Alban! Blog da Dan, dwi di chwerthin lot bo chdi wedi rhoi dau gomment dy hun er mwyn edrych yn fwy poblogaidd! Gobeithio fyddwch chi'n iawn...

Anonymous said...

Gruff, dangos i Dan lle ma'r botwm full stop.

Anonymous said...

Haha, ie, a cuddia'r botwm Ebychnod.
!!!!!!!!!