27/11/2006

G'day mate!

Helo o Sydney! Natha ni gyradd tua 9pm nos Sadwrn, a'r peth cynta natha ni oedd cysylltu efo gweddill y criw (sef Ade, Marcus a James) i weld pa hostel oedda nw'n aros yn. Mae o'n hostel reit neis, a ma na gegin a stafall fyw yma hefyd, felly ma'n teimlo yn union fel bod nol yn coleg rili. Mae o mor braf gellu cwcio i ni'n hunan eto, a peidio gorfod buta allan bob tro! Ma na Gymro arall yn aros yn yr hostel hefyd, sef Lee (ond mae o'n hwntw!).

Da ni heb neud lot o ddim byd ers cyradd, achos da ni isho ffeindio job a fflat neu dy i rentio cyn gynted a phosib rili. Methu disgwl i gal ty! Dwi'n ystyried gneud cwrs i fod yn barman hefyd, ond dibynnu os oes na alw am barmen neu beidio.

Gobeithio bod chi'n licio'r llunia nesh i roi fyny ar un o'r hen flogs - sori bod na'm llunia ar hwn, ond dydi chwilio am waith a siopa mewn supermarket ddim yn destun llunia rhy ddiddorol nadi?!

23/11/2006

Malaysia a Singapore mewn wsnos

Gai jysd ddechra drw ddeud - LLUNIA!! Ma nw'n ol! Relief i chi ac i fi. Ac yn ail, sori bod fi (eto) heb sgwennu ers hir, ond rwan bod y llunia nol on track, dwi'n gaddo nai updatio yn amlach! (O ia, dwi methu rhoi llunia ar yr hen flogs ar y funud, achos ar camera fi ma nw, a ma batri hwna'n fflat...wps!). Eniwe, ma taith ni yn Asia bron drosodd rwan, a ma raid i fi ddeud, dwi'n eitha parod i adal - dwi methu disgwl i fod yn Awstralia yn ol mewn ryw fath o le "normal" eto, heb ddim traffarth na sdress yn nunlla! Ond cyn huna i gyd, da ni di bod yn brysur iawn dros yr wsos dwytha...


...I ddechra, natha ni adal Thailand ar fys 19 awr syth lawr i Kuala Lumpur, sef prifddinas Malaysia. Oedd o'n le reit braf, ond dim lot i neud yna chwaith. Natha ni fod reit ddiwylliedig a mynd i weld cwpwl o betha fel y twin towers mwya yn y byd, ond ar ol huna natha ni fynd i'r sinema i weld ffilm James Bond newydd, felly oedd huna'n canslo'r gwaith da allan! (O.N. Ma'r ffilm yn dda iawn).


Da ni dal efo'r un gang, ond mae o di mynd lawr i wyth ona ni rwan. Dyma lun o'na ni ar y bont sy'n cysylltu'r ddau dwr:


A dyma lun o Dan ar ben ei hun ar y bont (yn gneud gwynab coci):

Mond Kuala Lumpur atha ni i yn Malaysia, cyn mynd lawr i Singapore (yndi, ma'n wlad wahanol apparently). Ma'n le eitha bizarre, achos mae o jysd fel prifddinas hollol fodern a clinical, ond does na'm byd am y lle yn gneud o'n arbennig i Asia, os da chi'n dalld. Sa ni'n gellu bod yn rwla yn y byd i ddeud y gwir.

Neithiwr wedyn, i ddathlu noson ola pawb efo'i gilydd, atha ni allan i le posh iawn i drio'r Singapore Sling, diod enwog iawn (a reit neis hefyd). Dyma Dan a fi yn trio'r diod merchetaidd!

A dyna ni! Mae o mor braf gellu rhoi llunia fyny i ddangos i chi'n iawn be da ni'n neud! Syth pan nai gyradd Awstralia dwi am roi llunia fyny ar y blogs dwytha hefyd! Tan Awstralia felly, traaaa!

13/11/2006

Mwnciod gwyllt a traeth enwog

Helo! Tro dwytha nesh i sgwennu oedda ni yn Kho Pha Ngan, ac o fana atha ni lawr i'r ynys ola o'r tair, sef Kho Samui - nath y gang i gyd sdicio efo'i gilydd, a natha ni rentio 3 jeep i ddreifio rownd yr ynys - lot o hwyl! Dim ond am ddwy noson oedda ni yna, a wedyn natha ni gyd symud i ochor arall y wlad i Kho Phi Phi (pi-pi!! - sori).

Ma'r lle yma yn riiiiili neis, ac ar y noson gynta, oedda ni'n aros mewn lle rili posh. I Dan a fi, sy di arfar efo cysgu mewn llefydd reit afiach, oedd o'n nefoedd i gal cawod boeth ac air-con yn y sdafall! Dwi'n meddwl mai un o'r llefydd neisha dwi rioed di aros yn! Oedd raid i ni symud ar yr ail ddiwrnod ddo, a rwan da ni reit ar y traeth, nol i'r math o sdafall da ni wedi hen arfar efo!


Diwrnod o blaen, natha ni fynd am drip cwch am y diwrnod, i weld lot o wahanol betha rownd yr ynys, gan gynnwys y traeth enwog lle gath The Beach ei ffilmio. Oedd o'n draeth amazing, a'r tywod neisha dwi rioed di sefyll arna fo. Oedd o'n biti braidd bod y lle di troi'n tourist attraction erbyn rwan, achos swn i di licio gweld o heb fawr o neb yna. Highlight arall y trip oedd Monkey Beach, sef traeth llawn o fwnciod (shoc). Oedd o reit nyts bod mor agos i fwnciod gwyllt, ac oedd na rei mawr yn gwarchod y rhei bach os oedda chi'n mynd yn agos atyn nhw!

O, ia, dwi di anghofio am y thing mwya ffyni - oedda ni'n snorclo efo pysgod ar y trip hefyd, ac oedd na rei o'r gang oedd di aros ar y cwch yn taflu darna o fara ata ni, oedd yn denu cannoedd o bysgod bach! Eitha ffyni tan bod nw'n dechra brathu! Oedd o'n lot mwy o hwyl chwara'r gem oddi ar y cwch, ac aimio'r bara at y snorclwyr! O'n i methu sdopio chwerthin!

Eniwe, sa well i fi fynd rwan, achos ma'n boring cal blog hir heb lunia. Da ni off i Malaysia dydd Gwenar, a be sy'n dda ydi bod lot o'r gang di newid eu plans i ddod lawr efo fi a Dan! Poblogaidd da ni! Pawb yn mynd i Awstralia wedyn hefyd, felly ma'n edrych fel fydda ni efo'r gang ma am reit hir!

O.N. Nesh i bympio fewn i Sion Ifan a Sioned (o coleg) yn Phi Phi - pa mor random di huna?! Do'n i heb weld neb Cymraeg am dros ddau fis, a mwya sydyn dwi'n bympio fewn i rywun dwi'n NABOD!

07/11/2006

Un parti mawr

Dwi'n gwbod. Dwi'n rili slacio efo'r blog ma! Ond i fod yn deg, da ni heb neud fawr o ddim dros yr wsos a hannar dwytha. Gan bod fi dal methu rhoi llunia fyny ar y funud, nai gadw'r blog ma reit fyr. Da ni di bod yn Kho Panghan, sy jysd yn ynys fach sy'n enwog am y Full Moon Parties, sy'n denu hyd at 12,000 o bobol bob mis (gormod o "sy'n"s fanna!). Da ni di bod yn hangio allan efo gang mawr o Loegr, sy jysd yn lot o bobol yn trafeilio ar ben eu hunain a sy'n digwydd aros yn yr un lle. Ma nw i gyd yn hileriys, a dwi a Dan jysd di bod yn chwerthin drw dydd bob dydd am wsnos! Heddiw, da ni'n symud mlaen efo nw i Kho Samui, sef y trydydd o'r ynysoedd ar yr ochor yma o Thailand. Dwi'n gweld ni'n aros efo'n gilydd drw gweddill Thailand, a ma'n swnio fel bod pawb yn mynd i Awstralia nesa hefyd, felly da ni am drefnu cyfarfod fyny ar ddiwrnod Dolig!

So ia, da ni jysd di bod yn gorwadd wrth y pwll nofio drw dydd a mynd allan bob nos - ma bywyd yn dda!