27/11/2006

G'day mate!

Helo o Sydney! Natha ni gyradd tua 9pm nos Sadwrn, a'r peth cynta natha ni oedd cysylltu efo gweddill y criw (sef Ade, Marcus a James) i weld pa hostel oedda nw'n aros yn. Mae o'n hostel reit neis, a ma na gegin a stafall fyw yma hefyd, felly ma'n teimlo yn union fel bod nol yn coleg rili. Mae o mor braf gellu cwcio i ni'n hunan eto, a peidio gorfod buta allan bob tro! Ma na Gymro arall yn aros yn yr hostel hefyd, sef Lee (ond mae o'n hwntw!).

Da ni heb neud lot o ddim byd ers cyradd, achos da ni isho ffeindio job a fflat neu dy i rentio cyn gynted a phosib rili. Methu disgwl i gal ty! Dwi'n ystyried gneud cwrs i fod yn barman hefyd, ond dibynnu os oes na alw am barmen neu beidio.

Gobeithio bod chi'n licio'r llunia nesh i roi fyny ar un o'r hen flogs - sori bod na'm llunia ar hwn, ond dydi chwilio am waith a siopa mewn supermarket ddim yn destun llunia rhy ddiddorol nadi?!

6 comments:

Anonymous said...

O mai God, ma'r llunia'n AMAZING! Ma'n rili od gweld chi efo llwyth o bobl diarth! Dachi'ch dau'n edrych yn cwl iawn efo'ch lliw haul. Ma'r tywydd yn AFIACH yn fama gyda llaw.

Anonymous said...

Helo ers hir - yndw, dwi'n dal yn darllan y blog yn rheolaidd! Cŵl bo chi di cyrradd Awstralia rŵan - dwi'n nabod dipyn (wel, 3 boi) sydd allan yna fyd - sa'n cŵl os fysa chi'n gweld eich gilydd! Eniwe, mynd yn ôl i weithio rŵan ac i sbio ar y glaw afiach sy'n hitio'r ffenast! Ta ta

Anonymous said...

Haia Gruff a Dan, o'r diwadd dwi di dalld sut i adal neges!!dwi di trio llwyth o weithia ond methu dalld sut, ag oni yn gal jaman gofyn i riwyn achos ma pawb arall di gallu gneud es tri mis! eniwe dwi wedi bod yn darllan y blog yn rheolaidd, da gruff... dwi falch o weld bo chdi ddim wedi newid, ma bod yn cin yn laff!! Falch bo chi'n joio...edrych ymlaen i glwad sut swyddi gewch chi!! Lleucs xx

Anonymous said...

Ma'n weird gweld lliw newydd ar y cloc ar dop y dudalen! Da chi di mynd ers faint rwan - tri mis?? O'n in meddwl sa chdi'n licio gwbod gruff bod endaf wedi cal job yn run swyddfa a fi yn gnarfon, so ma siwr bydda ni yn symud i gnarfon rhywbryd rol dolig!! Nuts ta be!!

Da bod chi di symud - dwi'n edrach mlaen i weld llunia o Awstralia wan!! Da chi'n edrach rel traflars wan!

Gan bod mari yn darllan hwn yn amal ma raid fi ddeud bod chdi yn hileriys ar y briodas fawr!! Ffyni pan odda chdi yn aberaeron a gwynab pwd hwij arna chdi!! O'n i'n weld o'n ffyni iawn!!

Cariwch mlaen i sgwennu i gadw pawb su hefo bywyd normal (h.y. ddim hefo ffrindia trendy a lifestyle rock n roll) yn entertained!

Anonymous said...

" Ma'n weird gweld lliw newydd ar y cloc ar dop y dudalen! "
Dwi'n poeni bod Robin ddim yn cael digon o gyffro yn ei fywyd.

Anonymous said...

Diolch am y comment yna Robin! A dwi'n cytuno efo dad am y pwynt uchod!