...I ddechra, natha ni adal Thailand ar fys 19 awr syth lawr i Kuala Lumpur, sef prifddinas Malaysia. Oedd o'n le reit braf, ond dim lot i neud yna chwaith. Natha ni fod reit ddiwylliedig a mynd i weld cwpwl o betha fel y twin towers mwya yn y byd, ond ar ol huna natha ni fynd i'r sinema i weld ffilm James Bond newydd, felly oedd huna'n canslo'r gwaith da allan! (O.N. Ma'r ffilm yn dda iawn).

Da ni dal efo'r un gang, ond mae o di mynd lawr i wyth ona ni rwan. Dyma lun o'na ni ar y bont sy'n cysylltu'r ddau dwr:

A dyma lun o Dan ar ben ei hun ar y bont (yn gneud gwynab coci):
Mond Kuala Lumpur atha ni i yn Malaysia, cyn mynd lawr i Singapore (yndi, ma'n wlad wahanol apparently). Ma'n le eitha bizarre, achos mae o jysd fel prifddinas hollol fodern a clinical, ond does na'm byd am y lle yn gneud o'n arbennig i Asia, os da chi'n dalld. Sa ni'n gellu bod yn rwla yn y byd i ddeud y gwir.
Neithiwr wedyn, i ddathlu noson ola pawb efo'i gilydd, atha ni allan i le posh iawn i drio'r Singapore Sling, diod enwog iawn (a reit neis hefyd). Dyma Dan a fi yn trio'r diod merchetaidd!
A dyna ni! Mae o mor braf gellu rhoi llunia fyny i ddangos i chi'n iawn be da ni'n neud! Syth pan nai gyradd Awstralia dwi am roi llunia fyny ar y blogs dwytha hefyd! Tan Awstralia felly, traaaa!
4 comments:
Ia, tybed gen pwy mae o'n cael hwnna mam?!
Da chi'n edrych fel trafeilwyr go iawn rwan efo'ch lliw haul a'ch breichledau ffynci!!
Odd o mor cwl gweld chdi ar web cam rwan Gruff! Dwisho gweld Dan hefyd tro nesa!
Nyts bo chi'n mynd i awstralia'n barod... ma amser yn mynd mor sydyn xxx
O ia, tra dwi'n cofio - cytuno am y James Bond newydd - superb!
Helo. Dwi dal i ddarllen y blog, ond byth efo comments diddorol i roi. Tomos syma - wedi ffeindio anagram awesome o "Tomos Roberts".
Pob hwyl yn Awstralia, lads!
ps- ma Lost series 3 yn dda.
Mobster Torso!!! Da rwan.
Post a Comment