Ma'r lle yma yn riiiiili neis, ac ar y noson gynta, oedda ni'n aros mewn lle rili posh. I Dan a fi, sy di arfar efo cysgu mewn llefydd reit afiach, oedd o'n nefoedd i gal cawod boeth ac air-con yn y sdafall! Dwi'n meddwl mai un o'r llefydd neisha dwi rioed di aros yn! Oedd raid i ni symud ar yr ail ddiwrnod ddo, a rwan da ni reit ar y traeth, nol i'r math o sdafall da ni wedi hen arfar efo!


Diwrnod o blaen, natha ni fynd am drip cwch am y diwrnod, i weld lot o wahanol betha rownd yr ynys, gan gynnwys y traeth enwog lle gath The Beach ei ffilmio. Oedd o'n draeth amazing, a'r tywod neisha dwi rioed di sefyll arna fo. Oedd o'n biti braidd bod y lle di troi'n tourist attraction erbyn rwan, achos swn i di licio gweld o heb fawr o neb yna. Highlight arall y trip oedd Monkey Beach, sef traeth llawn o fwnciod (shoc). Oedd o reit nyts bod mor agos i fwnciod gwyllt, ac oedd na rei mawr yn gwarchod y rhei bach os oedda chi'n mynd yn agos atyn nhw!
O, ia, dwi di anghofio am y thing mwya ffyni - oedda ni'n snorclo efo pysgod ar y trip hefyd, ac oedd na rei o'r gang oedd di aros ar y cwch yn taflu darna o fara ata ni, oedd yn denu cannoedd o bysgod bach! Eitha ffyni tan bod nw'n dechra brathu! Oedd o'n lot mwy o hwyl chwara'r gem oddi ar y cwch, ac aimio'r bara at y snorclwyr! O'n i methu sdopio chwerthin!
Eniwe, sa well i fi fynd rwan, achos ma'n boring cal blog hir heb lunia. Da ni off i Malaysia dydd Gwenar, a be sy'n dda ydi bod lot o'r gang di newid eu plans i ddod lawr efo fi a Dan! Poblogaidd da ni! Pawb yn mynd i Awstralia wedyn hefyd, felly ma'n edrych fel fydda ni efo'r gang ma am reit hir!
O.N. Nesh i bympio fewn i Sion Ifan a Sioned (o coleg) yn Phi Phi - pa mor random di huna?! Do'n i heb weld neb Cymraeg am dros ddau fis, a mwya sydyn dwi'n bympio fewn i rywun dwi'n NABOD!
3 comments:
Dwi di bod ar traeth y beach fyd Gruff! A nyts di'r pysgod yn brathu de! Odd y ddynas fach thai oedd yn helpu ni pan oni draw yna, yn taflu llwyth o fara ata fi pan oni'n y dwr. Cas.
Dydi blog hir heb lunia ddim yn boring o gwbl gyda llaw. Neis clywad gena chdi. Mynd am fwyd ar gyfer pen-blwydd mam heno, fydd hi'n od hebdda chdi.
Hei hogia! Braf arna chi mewn le mor neis a tywydd mor braf, mai'n afiach adra! Dachi'n mund i Indonesia hefyd? Ma'n superb, Bali a Lombok. Have fun! Leah.xxx
Ma'r blog ma di dechra mynd yn wael iawn Gruff, dwi ddim yn enjoio fo heb lynia!!!
Post a Comment