07/11/2006

Un parti mawr

Dwi'n gwbod. Dwi'n rili slacio efo'r blog ma! Ond i fod yn deg, da ni heb neud fawr o ddim dros yr wsos a hannar dwytha. Gan bod fi dal methu rhoi llunia fyny ar y funud, nai gadw'r blog ma reit fyr. Da ni di bod yn Kho Panghan, sy jysd yn ynys fach sy'n enwog am y Full Moon Parties, sy'n denu hyd at 12,000 o bobol bob mis (gormod o "sy'n"s fanna!). Da ni di bod yn hangio allan efo gang mawr o Loegr, sy jysd yn lot o bobol yn trafeilio ar ben eu hunain a sy'n digwydd aros yn yr un lle. Ma nw i gyd yn hileriys, a dwi a Dan jysd di bod yn chwerthin drw dydd bob dydd am wsnos! Heddiw, da ni'n symud mlaen efo nw i Kho Samui, sef y trydydd o'r ynysoedd ar yr ochor yma o Thailand. Dwi'n gweld ni'n aros efo'n gilydd drw gweddill Thailand, a ma'n swnio fel bod pawb yn mynd i Awstralia nesa hefyd, felly da ni am drefnu cyfarfod fyny ar ddiwrnod Dolig!

So ia, da ni jysd di bod yn gorwadd wrth y pwll nofio drw dydd a mynd allan bob nos - ma bywyd yn dda!


1 comment:

Anonymous said...

Ia, annoying bod "trafeilwyr" yn cael gymaint o barch am ehangu eu gorwelion bla bla bla - un parti mawr dio de! Gwilia hir ofnadwy!! Dwi mor jelys!xxx