27/10/2006

Deifwyr Trwyddedig

Sori bod hwn mor hir yn cal ei sgwennu! Di cal e-mail yn rhoi row i fi gen Mari a bob dim! Ond yr unig reswm dwi heb sgwennu ydi am bod fi ddim di bod efo dim byd i ddeud tan bod ni wedi gorffan y cwrs deifio...

...Da ni yn Koh Tao ers dydd Llun, sef un o'r llefydd gora (a rhata) yn y byd i ddysgu scuba divio. Cwrs 4 diwrnod oedd o, ac oedd diwrnod 1 reit boring - gwers 2 awr mewn dosbarth, a cal gwaith adolygu cyn arholiad ar ddiwadd y cwrs! Do'n i'm yn disgwl sefyll arholiad arall mor fuan i ddeud y gwir, ond ma raid i fi gyfadda mai'r arholiad hawsa dwi rioed di gal oedd o (gen foi oedd yn gneud Ffilm a Theledu yn coleg)!

Ymlaen at y deifio ddo - mae o'n AMAZING. Y peth gora dwi rioed di neud, o bell ffor. Nath o gymyd dipyn i fi ddod i arfar efo anadlu'n normal dan y dwr, ond rwan mae o mor hawdd (er bod fi'n cal row weithia am iwsho gormod o aer - oedd raid i fi neud signal llaw keen heddiw i ddeud bod aer fi'n isal, tra oedd Dan yn panicio fwy na fi am y peth). Y diwrnod cynta o ddeifio, dim ond dysgu chydig o sgilia sylfaenol a chydig o ddeifio natha ni, ond nath Dan lwyddo i dwtchad y coral (sy'n ofnadwy o finiog), a oedd raid idda fo gal 5 stitch yn ei fys! Aw!

Heddiw, sef diwrnod ola'r cwrs, oedda ni'n nofio efo sharcod (oce, natha ni'm actually GWELD nw am bod y visibility'n wael, ond oedda nw yna - nath yr instructors weld nw). A natha ni fynd lawr tua 25 medr yn y dwr, oedd reit nyts. Os fysa chi di panicio, sa na'm chans i chi gyradd y lan mewn pryd! Ma Dan a fi am neud cwrs dau ddiwrnod o ddeifio Advanced hefyd, tra bod ni yma, a ma nw'n gaddo gawn ni nofio'n agosach efo siarcod troma - nai adal chi wbod sud oedd huna!

Eniwe, i orffan, jysd gair am y lle da ni'n aros. Y lle neisha da ni di bod yna fo (i fi, eniwe). Ynys fach iawn, efo traeth reit ar sdepan ein byngalo ni (literally). Ma'r môr mor gynnas hefyd, ond ar y funud ma deifio'n cymyd lot o'r dydd, a da ni'm rili isho mynd i fewn i'r môr syth ar ol bod yn deifio byth! Dyma ychydig o lunia o'r olygfa a ballu:

4 comments:

Anonymous said...

Edrych ymlaen at weld y lluniau!

Anonymous said...

Heyia Gruff,

Lluniau yn impressive iawn. Gwaith da efo'r blog by the way - keep it up!
(ond oedd yr hanes scuba diving braidd yn hir a dim lluniau - row).

Er nad wyf yn addio llawer o sylwadau, dwi dal yn ddilyn eich taith.

Anyway, Blogio'n fuan - tra.

Anonymous said...

S'mai Gruff (iawn Dan?)
Blog diddorol 'gia. Llunia da.
Ma Amlyn yn Awstralia ar y funud. Oni'n siarad efo Mari wthnos dwytha, o'dd hi'n deud bo chi'n mynd yno'n fuan. Rhowch ebost i Ami cyn mynd ichi gael cyfarfod.

amlyn_p@hotmail.co.uk

Hwyl ichi!

Meic

Anonymous said...

Newydd gal cyfle i ddarllen y blog ma - dwi yn Machu Picchu ar y funud a ma blog fi´n cynnig dipyn o gystadleuaeth i un chi bellach (gweler y linc i´r wefan!).

Ffyni bo chdi´n cael gymaint o rows gruff!

Nai drio dilyn y blog gymaint o fedrai yma x