22/10/2006

Nôl yn Thailand

Da ni nol yn Bangkok! Ar ol pythefnos mewn llefydd reit dlawd, oedd o'n eitha neis cyradd nol i ddinas fawr. Eniwe, ma raid i fi ddechra drw son am be natha ni yn Siem Reap yn Cambodia. Oedd o'n le reit neis, ond yr unig reswm oedda ni yna rili oedd er mwyn gweld Angkor Wat, sef llwythi o demla wrth ymyl ei gilydd. Oedd o reit amazing, hyd yn oed i ni, sy ddim yn ffans mawr o demla i ddeud y lleia. Yr un gora i fi oedd yr un ma lle gafodd Tomb Raider a Indiana Jones eu ffilmio - oedd o reit cwl:


Oedd y gweddill reit dda fyd, ond ar ol chydig o oria, oedda ni braidd yn fed up! Ma rhan fwya o bobol yn prynu tocyn tri diwrnod neu wsnos i ellu gweld bob un, ond oedda ni methu hyd yn oed para diwrnod llawn! Dyma chydig mwy o lunia eniwe:




So ar ol dau ddiwrnod yn Siem Reap, gatha ni fys 13 awr yn ol i Bangkok, a troma, natha ni lwyddo i ffeindio'r stryd lle ma'r trafeilwyr i gyd yn mynd, sef Khao San Road. Dwi'n falch bod ni di dod nol i Bangkok, achos do'n i'm yn keen ar y lle tro cynta rownd, ond dwi'n rili licio fo rwan. Dyma lun o Dan ar Khao San Road:


Eniwe, natha ni hefyd fynd i weld y Grand Palace tro'ma, ac oedd hwna reit cwl. Ma na bobol yn sgamio ni'n bob man ddo, yn trio cal ni i fynd i weld teml arall (sy ddim even yn un go iawn), gan ddeud bod y Grand Palace di cau - annoying ar ol dipyn. Ar ol bod yna, natha ni weld un boi oedd di deutha ni bod o di cau jysd cyn i ni fynd fewn, a nath o smalio darllan papur newydd i guddio ei wynab - jaman. Un peth ffyni yn y palas - am bod Dan yn gwisgo shorts (sy'n ddrwg mewn unrw demla), oedd raid idda fo gal menthyg par o drwsus arbennig. Dwi rioed di gweld gwisg mor afiach. Oedd o'n edrych fel bod o newydd ddianc o mental hospital:


Di'r sgidia ddim yn help chwaith! Oedd y palas yn amazing, aur yn bob man. Dyma lunia o'na fo:




Fel da chi gyd yn gwbod (tait os da chi ddim), oedd penblwydd Dan ddoe, felly atha ni allan efo tri boi o Sweden da ni di bod yn hangio rownd efo i ddathlu. Noson dda iawn, ond ma meddwl am fod ar fys am 16 awr heno yn gneud fi'n sal. O, ia, da ni'n mynd ar fys am 16 awr heno i lawr i'r ynysoedd - Ko Tao di'r stop cynta, lle da ni am neud cwrs deifio 4 diwrnod, fydd yn lot o hwyl gobeithio. Dwi methu disgwl i fod ar yr ynysoedd - ar ol y gwaith calad o drafeilio yn ddiweddar, dwi'n meddwl bod ni'n haeddu brêc...!

Huw - Dim Simon's oedd enw'r lle oedda ni'n aros, ond ma na loads o guest houses yn sbio dros y llyn does, so mashwr bod chdi'n aros yn agos i lle oedda ni!
Robin - Dim jysd Thailand da ni di bod, os sa chdi'n cymyd sylw! Ma Laos a Cambodia yn wledydd ar wahan - ignorant. Da ni nol yn Thailand rwan ddo tan diwadd Tachwedd!

8 comments:

Anonymous said...

Afiach o drwsus!! Neshi chwerthin yn uchal. Y math o drwsus sa chdi'n cael yn dosbarth mrs mena ar ol pi pi yn dy drwsus ysgol.

PENBLWYDD HAPUS DAN!! Don i ddim yn cofio wps, sori. Gobeithio ges di noson dda.

Llunia superb xxx

Anonymous said...

Penblwydd hapus ddoe, Dan!
Weles i nain a taid sir Fôn yn sir Fôn (dy!) nos Wener lle o'n i'n neud noson Tad a'r Mab yng Nghyfraith efo Taid. Maen nhwthau'n mwynhau darllen y blog yma'n fawr.
Yn y palas aur yna fuodd Mari ie?

Anonymous said...

Ar ôl cal row, dwi wedi bod ar Google Earth a sylwi mor bell da chi di bod!! Sori!

On in mynd i drio ffonio chdi ddoe achos don i ddim yn cofio be odd rhif AQA - dodd gin i ddim signal ddo! Meddwl sa fo yn ddoniol ffonio Thailand am reswm mor ddibwys!!

Siwr bod trwsus Dan yn drewi fatha menyg ti'n cal fenthyg pan ti'n mynd i sgio!! Ycha fi!

Ma llun gwreiddia y goedan na yn nuts!!! Edrach fatha set ffilm!!

Dwi heb ofyn hyn eto - oes na ffasiwn beth a gym's yn fana? Ti'n cario mlaen hefo dy weights Gruff???

Anonymous said...

Robin - rhif AQA neu wiz kid fel dwi'n nabod o - 63336, ond cofia, ma'n ddrud!

Neshi angofio deud Gruff - odd ffrindia chdi I GYD bron ar Popeth yn Gymraeg nos Sul a odda nhw'n dda fyd! Ioan, Lleucu, Adam, Deio, Aled... a'r darn fwya ffyni oedd Ioan yn gofyn am frechdan cyw iar tra'n gneud motions chicken efo'i freichia. Ffyni iawn!

Anonymous said...

Fi bia'r neges uchod gyda llaw, wpz x

Anonymous said...

Helo hogia! Edrych fatha bo chi'n mwynhau - o'n i'n meddwl bod o'n warth bod hyw ddim yn cyfrannu i'r peth ma o gwbwl a fo i fod yn ffrind gora i chi, so dyma fi'n trio cynrychioli'r teulu yn lle. Blog da iawn gruff, dwi'n checio'n 'keen' am neges newydd bob dydd! A dan, os ti'n darllan hwn, ti di dewis tymor da i fynd rownd y byd, ma lerpwl yn neud yn blydi hopeless - ti'm yn colli llawer. Eniwe na i gael gair efo hyw ar eich rhan am ei ddiffyg brwdfrydedd. Yn y cyfamser, gruff dal ati efo'r blog (a'r llunia) a dan - byhafia.

Rhys

Anonymous said...

Dwi'n cytuno efo Rhys - dydi Hyw ddim chwartar digon keen - 'out of sight out of mind' ta be. Un o ecseitments y dydd i fi ydi gweld neges newydd ar fama. Ond dyna fo, dydy'r Dr. Hywel Iorwerth ddim yn cael amser i checio pethau fel hyn ma'n siwr (!)

Gruff - ti reit hir yn rhoi stori fach arall i ni - tyd 'laen wan ;)

Anonymous said...

dwi yn checio hwn bob dydd by the way. a dwi yn siarad efo gruff a dan tua dau waith yr wthos ar msn so dwim yn gweld point deud dim arall!!!!

hyw