
Ar ol fana, atha ni i weld y jel lle oedda nw'n cal eu cadw, oedd yn arfar bod yn ysgol cyn i Pol Pot droi o'n garchar - i roi syniad i chi o pa mor serious oedd y lle, dyma'r sein oedd wrth y fynedfa:
Dwi'n teimlo'n ddrwg wan am neud joc o'r peth! Ond na, oedd y lle yn rili trist, a oedda ni'n gellu gweld celloedd tiny y bobol, ac mewn un sdafall oedd na jysd miloedd o headshots y bobol gafodd eu cadw yn y carchar, cyn mynd ymlaen i gael eu lladd.
Eniwe, dyna ddiwadd y sdwff depressing - ar nodyn mwy ysgafn, yn syth ar ol bod yn y killing fields a'r jel, nath Dan feddwl sa fo'n syniad da mynd i'r shooting range i gal go ar saethu gwn (do, dwi wedi sbotio'r eironi). Do'n i ddim isho go, achos nabod fi, sw'n i di endio fyny yn saethu fy hun, neu rywun arall, neu fy hun A rywun arall. Ond gath Dan saethu AK-47 am $30! (Con). Er bod fi heb gal saethu, gesh i dynu llun efo gwn (a Dan fyd - sbotiwch pwy sy'n stiff efo gwn a pwy sy'n sgeri o naturiol efo DAU):
Oedd y lle oedda ni'n aros yn Phnom Penh yn rili neis, ac yn cal ei redag gen deulu rili neis. Dyna pam natha ni endio fyny yn aros tan ddoe! Oedd y gwesty reit ar lan llyn, a dyma'r olygfa oedd gena ni o le buta'r gwesty:
Un peth annoying ddo, ar y diwrnod ola, nath Dan ffeindio trap llygodan o dan ei wely, efo llygodan arna fo! Eitha afiach meddwl bod ni di bod yn rhannu sdafall am 4 noson efo llygodan. Oedd o dal yn fyw fyd! (Dwi'n teimlo'n tait ar y cockroach, achos oedd o jysd yn y lle rong ar yr amsar rong):
Iawn, dwi'n gorfod mynd rwan - da ni yn Siem Reap ers neithiwr i weld y temla amazing ma (nai son mwy fory gobeithio!), a ma na night life rili da yma! Hefyd, da ni'n cychwyn nol am Bangkok yn gynnar fory, felly gena fi waith pacio i neud. Taaa!
O.N. Gobeithio bod chi'n licio cal loads o lunia, di ffeindio cyfrifiadur efo connection da o'r diwadd!
3 comments:
Ha ha!! Llun o chdi Gruff hefo'r gwn!!! Best yet!! Golwg MOR smyg (fatha "Sbiwch calad dwi") ond hefyd mor anghyfforddus!! Sa chdi methu actio hyna!!
Llunia da iawn...tan pryd da chi yn Thailand??
Edrach fatha bod chi yn cal amsar da iawn yna...ti methu postio video clips na??
iawn bois-
Mwynhau'r blog, syniad da. Dan yn edrych bach yn rhy gyfforddus efo AK-47s! Dwi'n siwr bo chi di aros union 'run lle a fi yn Pnomh Penh, dim Simon's oedd enw'e lle?
eniwe- enjoiwch eich hunain
Huw Ger
Rhaid i chi weld y ffilm "The Killing Fields" ar ol dod adre.
Post a Comment