14/10/2006

"Row, row, row!!!"

Helo! Cal gwell lwc efo rhoi llunia fyny erbyn rwan felly o'n i'n meddwl sa well i fi sgwennu chydig! Tro dwytha i fi sgwennu oedda ni'n bwriadu cal bys nos i lawr i'r Four Thousand Islands am 12 awr, felly ar y diwrnod yna, atha ni i'r bus station yn ddigon buan (tua 1) efo'r bwriad o fwcio tocyn ar gyfar bys VIP yn y nos. Ond pan natha ni gyradd, a deud lle oedda ni isho mynd, nath na gang o ddynion amgylchynu ni, cymyd ein bagia, a'r peth nesa dwi'n cofio ydi bod ni'n isda ar fys cyhoeddus, oedd yn cymyd 5 awr yn hirach na'r un VIP! Nath o i gyd ddigwydd mor sydyn, a mae o jysd yn un blur mawr! Eniwe, doedd y daith ddim yn ddrwg digwydd bod, ac os fysa ni di mynd yn y nos, sa ni di colli allan ar olygfeydd fel hyn:


Oedd na foi lleol reit glên ar y bys hefyd, a oedd o'n despret braidd i neud ffrindia. Ar ol i ni roi ein e-mails idda fo (ar ol idda FO ofyn amdanyn nhw!), nath o droi rownd a deud "Thank you! I have no e-mail." Bechod!

Oedd y Four Thousand Islands (neu Si Pha Don yn Laos) yn reit amazing, ac oedda ni'n aros ar ynys fach yn y gwaelod o'r enw Don Det. Y lle mwya random dani di bod o bell ffor. Doedd na ddim trydan, dim siopa iawn, a dim lot o ddim byd! Oedd huts ni reit ar lan yr afon, ac oedd gena ni hamoc yr un! Oedd raid i ni fynd a torch allan efo ni bob nos (torch sy ddim angan batris, sy wedi bod yn handi iawn! Diolch i Gwenno, Huw, Tomos ac Anna eto). Ar y diwrnod cynta, natha ni neud tubing eto, am bod o wedi bod mor relaxing tro cynta rownd. Doedd o ddim cweit mor relaxing tro'ma. Nath o ddechra off yn iawn, jysd gorwadd nol ar y tiwb, ond ar ol yr hannar awr cynta, ddoth y boi ata fi ar ei gwch a deutha fi am ddechra rhwyfo fel nytar tuag at ochor chwith yr afon - "row, row, row!" oedd o'n weiddi, a doedd o ddim yn hapus efo faint o ymdrech o'n i'n rhoi mewn i'r rhwyfo chwaith! Ath o at Dan wedyn i weiddi'r un fath, ond yn lle gweld Dan yn rhwyfo at ochor chwith y lan, nesh i weld o'n nofio at yr ochor dde, lle oedd yr afon yn sblitio'n ddau efo current cry. O'n i'n cymyd mai fi oedd di camddalld, felly dilyn Dan nesh i. Misdec. Oedd Dan di meddwl bod y boi yn pwyntio at ochor chwith y lan ac yn gweiddi "no, no, no!"! Felly atha ni'n dau lawr rhan beryg yr afon, yn trio gweithio'n galad yn erbyn y lli, ond methu - oedd raid i'r boi achub ni ar y cwch yn diwadd!

Yn y nos wedyn, atha ni i'r dafarn leol, lle oedd na fwnci yn byw. Oedd y mwnci bach ma yn byw ar steps pren yng nghefn y dafarn (y math o sdeps lle does na ddim cefn idda nw, jysd slabs o bren math o beth, a oedd y mwnci ar y sdeps, a ni o dan y sdeps, a chaen o'i wddw at waelod y grisia - detail pwysig at nes ymlaen!). Eniwe, bob tro oedd Dan yn mynd at y mwnci ma, oedd o'n neidio ar ei ysgwydd o ac yn gafal rownda fo. O'n i'n trio profi mai ffliwc oedd o bob tro, drw fynd ata fo fy hun, ond doedd o byth yn dod ata fi. OND, ar y tua degfed tro, ar ol chydig o tips gen Dan Dolittle, nath y mwnci neidio ar ysgwydd fi. Wel, bron. Nath o neidio mor wyllt, nesh i ddychryn, a nesh i ollwng fo - rhwng y sdeps. So rwan oedd y mwnci yn hongian gerfydd ei wddw ar y chaen oedd yn sownd i'r sdeps! Mi fysa lladd mwnci'r dafarn wedi bod yn eitha drwg, felly wrth reswm, o'n i'n panicio'n lan. O'n i'n trio pigo fo fyny o hyd, ond oedd o'n mynd yn wyllt ei hun! Oedd Dan yna efo ei law dros ei lygid, tra o'n i'n cal scuffle efo'r mwnci bach ma (oedd erbyn rwan yn sgrechian). Yn diwadd, nesh i lwyddo i godi fo ac achub ei fywyd, ond esh i ddim yn ol ata fo ar ol huna. O diar! Yn anffodus, gatha ni ddim llun o'r mwnci, felly da chi di darllan chunk mawr o sgwennu heb ddim byd i weld! I neud fyny am hyn, dyma lun (reit hen) o Dan a fi:

4 comments:

Anonymous said...

Ma mor cwl gweld llunia ohona chi, a clywad yr hanes sy'n nyts ar adega! Row!

Ma Ed yn deud "helo, ta-ta" wrtha chi. Dyna'r unig neges oedd gena fo i ddeud - annoying. Fydd geno fo fwy i ddeud pan fyddwch chi'n Seland Newydd!

Ed newydd ddarllen hwna a deud "Paid a deud bo fi'n deud hunna, ma'n cheeky braidd yndi o?".

Yndi Ed.

Methu chi!!!

Anonymous said...

Ma dy storis di yn hileriys Gruff! Oni literally yn chwerthin allan yn uchel gynna ar ben fy hun am y stori mwnci! Keep up the good work.
Dwi'n sori na dyma'r tro cyntaf i fi sgwennu ond dwi di bod yn ddiog slash ddim yn dallt y petha technolegol ma. Dwi'n gaddo wnai wneud mwy. Swnio fatha bo chi'n cal amser BRILL. Dwi'n jelys dros ben.
Hwyl a fflag!

Anonymous said...

Dwi'n meddwl bod stori'r mwnci'n curo stori'r massage anghyffredin/sgeri ges di Gruff! Dwi newydd chwerthin yn uchal yn gwaith - dwi'n meddwl bod yr hogan dros ffor' i fi'n meddwl bo fi'n cyfieithu rwbath ffyni.

Neis gweld llunia ohona chi eto!

Anonymous said...

hahaha! Bechod ar y mwnci bach! Be di cân Euros Childs am fwnci eto?