09/10/2006

Tiwbio yn Vang Vieng

Helo! Sori bod fi heb sgwennu ers hiiiir, ond dwi di bod yn trio ffeindio cyfrifiadur sy'n gadal i fi roi llunia fi fyny ar y blog dwytha (14/10/06 - ac wedi erbyn hyn o'r diwadd!). Dydd Gwenar natha ni adal Luang Prabang yn y bora, a cal taith 7 awr ar fys lawr i Vang Vieng. Oedda ni di trefnu cyfarfod y tair o Iwerddon SLASH yr Almaen y noson yna, felly gatha ni noson allan dda efo nw (a Mark o Canada).

Bora dydd Sadwrn wedyn, natha ni fynd yn syth i neud y tubing. Oedd y genod di neud o diwrnod cynt, felly oedd gena ni syniad reit dda be i ddisgwl. Be oedd o oedd tu fewn teiar tractor (sy union fel rubber ring mawr du), a mynd lawr yr afon yn slo bach ar gefn hwna. Oedd na dafarndai a llefydd i sdopio ar y ffordd hefyd, a'r ffor i fynd yn ol i'r afon oedd ar zip wire - digon hawdd, o'n i'n meddwl. Doedd o ddim. Nesh i drio, a methu, a disgyn yn syth bron! Wps. Esh i ddim trio unrw le ar ol huna chwaith, rhag ofn gneud ffwl o fy hun eto! Oedd mynd ar hyd yr afon yn rili braf, a oedd yr olygfa rownda ni yn amazing - dyma lun o'na fi yn bod yn wimp a neidio fewn i'r dwr yn lle:


Doedd na'm lot ar wahan i huna i neud yn Vang Vieng (yr highlight i fi oedd tafarn oedd yn dangos Friends ar repeat drw dydd!), felly natha ni benderfynu symud ymlaen eto ddoe i Vientiane, sef y brifddinas. Dio'n fawr o brifddinas rili chwaith, a da ni heb neud fawr o ddim yma! Jysd sdop ar y ffor i'r lle nesa ydio i ni, sef y Four Thousand Islands sy reit yng ngwaelod Laos ar y ffin efo Cambodia. Oes, ma gena ni siwrna bys 12 awr ar y ffor - afiach go iawn. Gobeithio fydd o ddim mor cramped ac anghyfforddus a'r rhei da ni di cal yn ddiweddar!

4 comments:

Anonymous said...

Helo! Dwi yn gwersi cyfrifiaduron yn ysgol wan! Swnio fel bo chi'n cal lot o hwyl! Welai di'n fuan!! :)

Anonymous said...

Newydd gal tecst gen Manon fy ffrind aka Maj - "Newydd fod ar blog gruff - diddorol iawn. Nesh i fwynhau o."

Dwi'n ei fwynhau o fyd gyda llaw!x

Anonymous said...

Meddwl sa chi'n licio gwbod bod Carl Potter ar Uned 5 fory (dll). Siarad am bel-droed neu rwbath!!

Gobeithio bo chi'n cadw'n iawn - odd hi'n od iawn heb weld chi'ch dau yn Gaerdydd penwythnos diwethaf... er neshi'm gweld hyw, catrin na manon chwaith - LLE ODDA CHI?! Fi odd yn y lle rong mashwr... x

Anonymous said...

A chdi Hywel!

Gruff, ti'n edrych fatha bo gen ti ddim pen yn y llun ohona chdi'n neidio mewn i'r dwr! Peeeeeeen