
Wedyn atha ni i'r rhaeadr na nesh i son am, a oedd o looooads gwell na'r un natha ni weld yn Pai. Oedda ni'n nofio yna fo, a deifio fewn o un tier i'r llall a betha - lot o hwyl, ac un o'r petha gora dwi di neud ers bod yma dwi'n meddwl.
Heddiw wedyn natha ni fynd i raeadr arall efo dwy hogan natha ni gyfarfod neithiwr. Anna di enw un, o Iwerddon, a Whitney di'r llall o America.
Ma Whitney yn hilarious (mai'n atgoffa fi o Heulwen Ffrind Gwerfyl - sy'n golygu dim byd i'r rhan fwya o'na chi!), a mai'n deud 'honey' weithia i fod yn patronising (ond ma'n ffyni). Er enghraifft:

Fi: Do you eat turkey at Christmas?
Hi: No, that's Thanksgiving honey.
So ma hi di bod yn crackio Dan a fi fyny drw dydd, a heno da ni'n cyfarfod nw am fwyd. Gath Anna ei brathu gen neidr ar y ffor fyny i'r rhaeadr, oedd reit sgeri, achos doedda ni'm yn gwbod os oedd o'n wenwynig neu beidio! Mai dal yn fyw, felly dwi'n cymyd bod o ddim! Dyma lun o'na fo:
Oedd na le i weld teigr yna fyd, a oedd o'n nyts pa mor agos oedda ni'n gellu mynd ata fo - gatha ni hyd yn oed twtchad fo! Oedd o reit sgeri mynd reit ata fo a gneud eye contact! Dyma lun o Dan yn rhoi o bach idda fo (slash ddim hyd yn oed yn twtchad am bod o ofn):
Da ni'n gadal Luang Prabang fory a mynd i Vang Vieng (neu rwbath felna!), lle gawn ni neud 'tubing', sy'n swnio'n hwyl. Bedio ydi mynd lawr yr afon ar olwyn fawr. Nai adal chi wbod sut ath o!
O.N. Mis di mynd yn barod, wedi fflio! Mond deg i fynd!
7 comments:
Ma' lle dachi rŵan yn swnio'n neis.
Swni ofn neud y thing tubing na ddo - mae o'n swnio reit claustrophobic, lwcus bo chdi'm yn meindio llefydd bach, cyfyng caeedig de Gruff!
Dwi'm yn coelio bo chi ffwrdd ers mis!
Dwi'm yn meddwl bod y llunia wedi gweithio. Neu bo fi'n ddall.
Mond pobl galluog sy'n gellu gweld nhw manon fel y brenin yn ei ddillad aur de.... joc, dydy nhw ddim yna Gruff - sortiai!
Ma "Heulwen" yn swnio'n hwyl! Faint oed di hi? Ma na ryw ring bach i Whitney Lovgreen does...x
"...cwympo allan a marw a'r pobl yn y cwch yn gadael nhw.... "
BE ??? Diolch am rannu hwnne efo ni, Leri!
Dwi isio gweld y llun o Dan efo'r teigr, Gruff!
Laos yn swnio'n lot o hwyl, ond sortia'r llunia ma allan ia gruff?!
Ti'n gallu gweld y llunia efo dy sbectol newydd Mari?
Hi hi
Dwi'm yn licio bo pobl Peru yn bwyta moch cwta - ti'n cofio'r hen Mici a Mini Mari? Heddwch i'w llwch.
Sori Gruff, dydi'r blog yma'n ddim byd i neud efo'ch taith chi.
Sori am yr helynt efo'r llunia bobol - do'n i methu rhoi nw ar yn y lle nesh i sgwennu'r blog, a heb fod online ers huna!
Mici a Mini!
A cytuno efo dad - dyfyniad Leri am bobl yn marw?!?! Sgeri!
Post a Comment