04/10/2006

Y Car Gwyn yn Laos

Helo! Da ni di cyradd Laos o'r diwadd! I'r rhei o'na chi sy'n keen yn dilyn ein taith efo map, natha ni gal cwch o Chiang Khong ar hyd ar afon Mekong yr holl ffor i Luang Prabang, a nath o gymyd dau ddiwrnod, oedd ddim yn lot o hwyl - lot gwell na bod ar fys ddo!

Oedda ni'n aros mewn pentra random ar y noson gynta, oedd yn llawn o bobol yn trio gwerthu drygs i ni, drw smalio trio gneud sgwrs gynta. Oedda ni efo boi o Canada ar y pryd, a dyma oedd y "sgwrs":

Dryg dealer: Hi! Where you from?
Ni: Wales.
Fo: Canada.
Dryg dealer: England is good Canada is good do you smoke?

Chwara teg idda fo am neud ymdrech ddo(!)

Da ni dal yn Luang Prabang rwan. Ma'n eitha anodd cofio bod ni mewn gwlad wahanol weithia, achos ma nw'n reit debyg, ond ma'r currency yma'n od iawn - dwi bron yn millionaire efo gwerth tri deg punt! Eitha cwl dal wads mawr o notes, teimlo fatha pres Monopoly!

Neithiwr, atha ni allan efo tair oedda ni di dod i nabod ar y cwch (dwy o Iwerddon, un posh o'r Almaen sy'n trio sharad Saesneg posh ond yr acen Almaeneg yn dod nol pan mai di meddwi), a newch chi byth gesho be nesh i weld - y CAR GWYN!! Dyma lun i brofi'r peth:

Un peth ffyni arall oedd ryw begar hen yn gwisgo dim ond sarong (oce ma'n swnio fwy tait na ffyni, ond daliwch efo fi) oedd yn dod rownd bwr ni tua literally pump gwaith yn begio. Ond dim begio cyffredin, ond ryw ddawns begio bizarre efo'i geg ar agor, ac oedd o'n dewis un person i stario arnyn nhw, ac aros yna am tua munud. Mae o fod yn enwog rownd Luang Prabang, a weithia ma'n newid ei gostume a dod a props allan hefyd, felly edrych mlaen i weld o heno!

Heddiw da ni am fynd i weld rhaeadr (waterfall i'r rhei thic), sy fod yn LOT gwell na'r un natha ni weld yn Pai. Nai adal chi wbod fory os di huna'n wir!

Pawb oedd yn Aber nos Sadwrn - Diolch am feddwl amdana fi, ond lwcus i chi bod batri ffon fi'n fflat, achos a) sa fo di bod yn ddrud i chi a fi, a b) sa chi di deffro fi am tua 5 yn bora, a swn i heb fod yn rhy hapus! Na, gobeithio gatha chi gyd laff, nesh i feddwl amdana chi nos Sadwrn efo dagra yn fy llygaid!

3 comments:

Anonymous said...

Ma'r car gwyn go iawn (ddim yr imposter yna!) yn genfigennus ac yn gofyn i fi o hyd - "pam bod o wedi ca'l drws newydd a fi ddim?"

Anonymous said...

Ffyni di'r car!! Tria gal llun o'r boi begio (efo'i geg yn gorad) - swnio'n ffyni!

So, ti ddim am wrando ar y voicemails o Aber?! Aniolchgar dwi'n galw hyn!

Am edrych ar fap rwan i drio gweld yn union lle yda chi xxx

Anonymous said...

heyia bechgyn. Neis gweld dach chi dal yn fyw (er y 75% siawns o farw o fewn y mis gyntaf - yn ol gruff!)

Edrych fel eich bod chi'n cael amser fab or lluniau a'r straeon ffyni. Oedd y stori begar yn ticlo fi'r mwya (ond cytuno efo mari - dwi eisiau llun ona fe efo'i geg ar agor).
Anyway, joio bechgyn, hwyl am nawr.