01/10/2006

Chiang Mai, Chiang Rai, a Chiang Khong

Helo! Dim ond wedi meddwl swn i'n gadal negas fach yn deud lle da ni ar y funud. Ar ol noson ola yn Pai efo Dom "fi, fi, fi", y boi oedd, yng ngeiria Dan, yn "gneud i calon fi frifo", natha ni adal ar fys 12 o gloch pnawn. Un broblem ddo, oedd raid i ni fynd yn ol i Chiang Mai cyn gellu mynd unryw faint uwch. Am bod ni di cal gymaint o draffarth gadal Chiang Mai tro cynta, natha ni benderfynu sa hi'n well i ni ddal bys yn syth o fana fyny i Chiang Rai. Dyna lle natha ni aros neithiwr (nos Sadwrn), a ben bora ma, gatha ni fys arall fyny at y bordor, sef lle o'r enw Chiang Khong (confusing, dwi'n gwbod). Oedda ni di bwriadu croesi drosodd i Laos heddiw, ond be natha ni ddim rhagweld oedd y bysa'r bancs i gyd di cau ar ddydd Sul, ac felly da ni methu newid pres tan fory! O, wel, da ni di bwcio fo rwan, ac yn gadal bora fory - so'r tro nesa fydda i'n sgwennu, fydda i yn Laos go iawn!

O.N. Sori am beidio rhoi llunia, ond di llunia o Dan a fi yn cysgu ar wahanol fysus ddim yn ddiddorol iawn nadi?!

5 comments:

Anonymous said...

Oedd raid i fi edrych ar Wicipedia i ffeindio bod Laos yn wlad!

Anonymous said...

Gruff - odd hi'n od iawn hebdda chdi'n Aber! Neshi adal dau voicemail i chdi os dwi'n cofio'n iawn - un efo Lisa Pyrs a Endaf a'r llall efo Robin. Odd Robin yn smyg fatha - neith o deffynytli atab y ffon i fi sdi, nai ffonio fo!

Geshi'm Hollywood chwaith - gytud!

Gena fi ryw go o bondio (eto) efo Ioan fyd...

Edrych mlaen am y blog nesa!

Anonymous said...

Hei - mi fysa fo wedi atab i fi os fysa ffon fo mlaen!!

Nath Mari fod yn rude iawn wedyn a ffendio ffrindia gwell na fi a gadal fi ben yn hun!!

Homar o wicend da Gruff!! Siwr bod chdi'n smug bod ni wedi meddwl amdana chdi a di trio ffonio!

Dwin bod yn hogyn drwg wan yn sgwennu hwn yn gwaith...wps bos yn dod!

Anonymous said...

Dwi'n cofio bod fi wedi siarad efo Mari yn Llew, ond dwim yn cofio am faint nag am be...Mari - sori os o'n i'n offensive a/neu annoying. O..actually dwin cofio deud wbath fatha 'Da ni'n bondio eto!!' Fedri di plis dystio bod fi'n effro ar ol 10.00 ddo...terrible rumours...

Nesh i chwerthin yn uchal wrth ddarllan yn negas Heledd am dy wynab coch a sdaens pasd dannadd yn cyrradd darlith Gruff, fedrai ddychmygu!

Oedd hi yn od yn Aber hebdda chdi yna...o be dwi'n gofio - PEN! Blogia'n fuan...rwbath diddorol tro 'ma plis. Joc...(dim jôc).

Anonymous said...

Mi fedrai dystio fod Ioan yn effro ar ol deg yr hwyr ar nos Sadwrn y 30ain o Fedi.