26/04/2007

Zorbio, Swoopio a dysgu godro!

Helo 'na! Wel, di cal diwrnod prysur iawn echddoe, felly gena fi dipyn i sôn am yn y blog 'ma! Fel nesh i sôn, oedda ni'n bwriadu gneud rwbath reit exciting, ond do'n i'm rili 'di disgwl gneud rwbath mor sgeri a natha ni! Y peth cynta natha ni oedd Zorbio, lle da chi'n cal eich strapio fewn i bêl fawr ryber, a cal eich pwsho lawr allt yna fo - gneud chi'n chwil braidd! I ddeud y gwir, oedd o ddim mor cwl ag o'n i 'di ddisgwl, ond ma'n rwbath ma pawb yn neud yn Rotorua! Dyma lunia, a fideo o'na fi'n neud o!



Ar ôl huna, gatha ni'm lot o jans i relaxio chwaith, achos y Swoop oedd nesa. I chi gal gwbod, o'n i 'di bwcio hwn cyn actually gweld o, ac o'r disgrifiad, oedd o jysd yn swnio fel swing hwyl. Do'n i DDIM yn disgwl gneud hyn:


Ar ôl gweld hyn, o'n i'n cachu'n hun. A be oedd waetha oedd mai ni oedd yn gorfod tynnu'r cord i adal fynd! Afiach go iawn. Natha ni neud o ddo, a ma raid i fi ddeud, doedd o ddim mor ddrwg ag o'n i 'di ddisgwl! Dim ond eiliad oedd o'n bara rili, so oedd o ddim yn ddrwg! Dyma lunia o'na ni wrthi:

Ar ôl huna, rwbath chydig llai extreme - trip mewn cwch jet nyts o ffasd! Oedd o'n mynd ffwl sbiid at y lan, a troi funud ola a betha! Reit cwl, ond oedd o'n teimlo fatha dim byd o gymharu efo be oedda ni newydd neud fyd!

Yn y nos wedyn, gatha ni amsar chydig brafiach. Atha ni ar noson Maori, lle gatha ni glywad hanas y Maoris, a mynd i bentra fake i weld sud oedda nw'n byw a ballu.


Wedyn, gatha ni gyngerdd gena nw. O'n i'm yn disgwl lot i ddeud y gwir, ond oedd o'n rili da! Oedda nw efo lleisia superb, a gatha ni weld nw'n gneud yr Haka! Da chi ddim fod i chwerthin pan ma nw'n gneud stumia gwirion, achos bod o'n amharchus, ond oedd na hen ddynas annoying wrth ymyl ni'n chwerthin bob dau funud!! O'n i'n flin. Ond oedd y cyngerdd yn dda. Dyma sneak preview i chi:



Ac ar ôl huna, gatha ni bryd bwyd AMAZING. Hangi oedd o - techneg di huna o gwcio'r bwyd, lle ma nw'n claddu'r bwyd yn y pridd poeth, a'i gwcio fo'n naturiol felna. Oedd o'n lyfli. Cinio dydd Sul go iawn am y tro cynta ers 8 mis! Esh i nôl am fwy, am bod fi'n gwbod swn i ddim yn cal pryd cystal am eitha hir! Dyma lun o'r tân:


I bawb sy di bod yn holi am y mochyn 'na, James roth o i ni, a gofyn i ni dynnu llun o'na fo mewn lot o lefydd random! Felly gewch chi ddisgwl gweld mwy o Jaci yn y blogia newydd!

Eniwe, ar ôl y diwrnod hectic yna, gesh i chydig o frêc ddoe. Ond yn y pnawn, nesh i fynd i helpu Elgan odro ar y ffarm! Ffyni! Oedd o reit hwyl o job, jysd gorfod rhoi'r teclyna sugno am y tethi i gyd (tua 300 o warthag!). Oedda nw'n cachu dros bob man, afiach. Ond dwi'n meddwl oedd Elgan reit impressed!


Ac ar ben huna, gesh i go i ddreifio'r tractor yma! Hwyl!


So fel 'da chi'n gweld, 'dwi'n cal lot o brofiada newydd rownd y byd...ella nai droi'n ffarmwr pan ddoi adra?!

23/04/2007

Blasu mêl a pysgota prôns = random!

Helo! Wel, tro dwytha nesh i sgwennu, nesh i ddeud bod ni ar y ffor i Hamilton am y penwsnos. Ond, ar y ffor, natha ni ffonio Lena, sy draw ma am flwyddyn yn gweithio, a nath hi gynnig llety i ni'r noson yna! Felly natha ni benderfynu dreifio chydig o oria extra i gal gweld hi ac Elgan! A dyna lle da ni di bod rwan ers tair noson! Dyma lun o'n ceir ni, ac o'u ty bach ciwt nw:

Ma'n le eitha central hefyd, felly ma Dan a fi di bod yn gellu mynd i weld lot o betha gwahanol bob dydd. Dydd Sul, ath y pedwar o'na ni i weld glow-worm caves, oedd ddim byd sbeshal i ddeud y gwir, a doedda chi ddim yn cal mynd a camra chwaith. Ond da chi heb golli dim byd diddorol! Ar ôl dod adra, gath Dan go ar dirtbike Elgan. Ffyni IAWN (ar y pryd), achos doedd y ci ddim yn sdopio cyfarth bob tro oedd yr injan yn cal ei danio!



Ddoe wedyn, natha ni gal diwrnod da iawn. Tra bod Lena ac Elgan yn gweithio ar y ffarm, atha ni i Taupo am y diwrnod, lle sy efo llyn run seis a Sir Fôn! Yn fana da ni am neud skydive dydd Sadwrn (a ma Lena am neud o efo ni!). Y peth cynta atha ni i weld yn Taupo oedd yr Huka Falls. Reit impressive, ond dwi di gweld gwell erbyn hyn!

Nesa atha ni i le oedd yn gneud mêl! Gatha ni ddysgu dipyn am sut ma gwenyn yn mynd ati i neud mêl, a sut ma dewis y "queen bee" - diddorol iawn chwara teg!

Oedd na hefyd adran blasu mêl am ddim! Oedd Dan wrth ei fodd!!

Hwn oedd y mêl gora, medda fo:

A dyma fo'n ciin yn watchad y documentary (ar ben ei hun)!

Stop ola'r diwrnod oedd y Prawn Farm, lle oedda chi'n cal go i bysgota am prawns, a'u cadw nw wedyn. Oedda ni'n meddwl sa ni'n gellu dal swpar i Lena ac Elgan! Oedd o reit anodd, achos oedda nw'n tynnu ar y wialen gynta, wedyn oedd raid disgwl nes bod nw'n dechra buta'r abwyd (gair ciin!) cyn tynnu'r wialen. FI nath ddal yr un cynta, o fewn 5 munud o gyradd!!

Pump gatha ni yn diwadd - gath Dan dri, gesh i ddau - ond dwi'n meddwl bod y ffaith i fi ddal yr un cynta'n golygu bod ni'n gyfartal (di Dan ddim yn cytuno ddo!!).

Ar ôl cyradd adra, ath Dan ati i gwcio nw. Oedd Lena ac Elgan reit impressed dwi'n meddwl!

A dyna ni! Heddiw da ni am neud rwbath eitha exciting (dim cweit mor exciting a skydive ddo) - nai adal chi wbod mwy am hyn yn FUAN! Traaa!

21/04/2007

Dolffins!

Helo! Ma raid i fi ddeud, dwi reit excited am y blog ma - mashwr bod chi gyd yn gwbod pam, achos dwi'n gwbod bod chi gyd yn sbio ar y llunia cyn boddro darllan y peth ma, felly da chi hefyd wedi sylwi bod na fideo ar y blog! Da de?

Eniwe, ymlaen â fi i sharad am y diwrnoda dwytha ma. Ar ôl diwrnod cynta siomedig o "nofio efo dolffins" (natha ni'm hyd yn oed GWELD dolffin, a oedd hi'n bwrw ac yn freezing), oedda ni reit flin. Oedda ni'n "cal" mynd eto am ddim "ddo", ac er bod gena ni ddim lot o fynadd treulio 4 awr arall ar gwch yn chwilio, oedda ni'n meddwl sa well i ni. A dwi'n falch bod ni wedi! Er bod ni heb gal nofio efo nw (am bod na fabi yn eu canol nw), gatha ni fod mor agos ata nw a fysa ni yn y dwr eniwe, a oedd o reit cwl. Dyma gasgliad o lunia o'r diwrnod (a fideo)!

Ac yn ola, dyma lun o'na fi ar y ffor adra (yn dilyn request gen Mari ac Endaf am fwy o lunia o'na fi!):

Diwrnod llwyddiannus felly! Natha ni ddreifio wedyn yn syth i Whangarei, lle oedd Dan di bwcio i neud mwy o ddeifio y diwrnod wedyn. Oedda ni'n aros mewn lle rili cartrefol oedd yn cal ei redag gen deulu rili clên. Oedd na drampolin yn yr ardd - hwyl! Dyma Dan arna fo!

Heddiw wedyn, tra oedd Dan yn deifio, nesh i fynd am dro i weld rhaeadr - ylwch arna fi'n gneud petha "buddiol" efo amsar sbâr! (Gobeithio bod chdi'n prawd Mam!).

A dyna ni! Heno da ni am ddreifio lawr i le o'r enw Hamilton, sy fod yn le eitha poblogaidd, felly gobeithio gawn ni nos Sadwrn reit dda - da ni heb weld fawr o neb reit fyny yn y Gogledd!

Gobeithio bod chi gyd yn edrych mlaen at y blog, a'r fideo, nesa!