28/09/2006

Fi, fi, fi...

Hai o Pai! Sori bod fi'n slacio efo'r blog, ond gena fi ddim lot i ddeud, achos da ni jysd di bod yn diogi go iawn dros yr ychydig ddyddia dwytha. Diwrnod o blaen, natha ni'n dau rentio scooter yr un, er mwyn i ni ellu dreifio rownd at waterfalls a betha. Oedd na un rhaeadr yn amhosib i'w gyradd, felly oedd raid i ni droi nol (a nesh i lwyddo i ddisgyn off eto - grr!), ond oedd y rhaeadr arall werth ei weld, hyd yn oed jysd er mwyn cal gweld y sein yma:


Nath Dan fynd fewn i nofio dan y rhaeadr, ond oedd o braidd rhy oer i fi!

Un peth dwi ddim yn licio am Pai ddo ydi bod y rhan fwya o deithwyr sy' rownd yn lyfio sharad amdana nw eu hunain - fi fi fi dio gen pawb bron, sy'n boring ar ol dipyn! Am bod ni'n fed up o glywad barn pawb am bob dim, da ni am adal fory, a mynd fyny i Laos, sy fod yn wlad rili neis, a wedi datblygu llai na Thailand, felly dwnim os fedra i blogio am dipyn. Er, ma na internet yn bob man dwi di weld so far, felly sw'n i'm yn synnu os fysa na internet yn Laos hefyd! I orffan, dyma lun arall o'r olygfa yn y rhaeadr (a Dan yn fach yn y gornal waelod).


Dad - Dwi'n gwbod bod chdi'n meddwl bod hyn yn annoying, ond y point ydi bod chdi ddim yn fod i ddarllen negeseuon pobol erill!
Mari a Ioan - Di gweld cwpwl o clips Extras online rwan, a ma'n edrych yn rili ffyni! Ma'n bosib watchad episodes cyfa online, felly ella mai dyna be nai pan gai amsar (slash ydio'n weird a awkward rhannu neges i chi a chitha ddim rili'n nabod eich gilydd?!)
Robin - Sut ffon ti di cal? Yr un rhif ti efo?
Leri - Dwi'n gwbod be ti'n feddwl am y traffic yma - ma fatha bod anything goes! Lot o bobol yn reidio wrth ymyl ei gilydd i sharad!

4 comments:

Anonymous said...

Waw, llunie da! Go Dan! Gruff y jibar, ond roedd rhaid i rywun aros allan o'r dwr i dynnu'r lluniau yndoedd? Chware teg i ti.
A Gruff, fetia i bod pawb yn darllen negeseuon pobol erill. Y trwbwl ydi bod rhaid mynd yn ol i ddarllen hen sylwadau i weld am be wyt ti'n sôn!!

Anonymous said...

Dwi di cal flip phone cachu yn lle. Dim yr un rhif (dwim yn mynd i roi number fi yn fama cofn bod na stalkers), ond dwi ar hold wan i drio cal hen rif fi nol!

Ma lle na yn edrach yn rili neis! Well na Capel Curig hyd yn oed!

Gutted bod syniad fi am y caption gymaint o fflop!!

Be di'r thing flixter ma ti di adio fi ato fo?

Anonymous said...

Ma'n iawn Gruff, ma fi a Ioan yn nabod yn gilydd, natha ni "bondio" cofio!

Newydd ddarllen dy hanas di i Taid, achos ma'n anodd iddo fo ddallt dy sgwennu di ma mor llafar!

Tria dy ora i blogio!xxx

Anonymous said...

Mi fyddai'n darllen dy hanes efo diddordeb mawr, ac yn eiddigeddus iawn ohonot!