25/09/2006

Scooterphobia

Helo! Sori bod fi heb sgwennu dros y penwythnos, ond da ni heb neud lot o ddim. Heddiw, natha ni lwyddo i adal Chiang Mai o'r diwadd, a dod ar y bys am dair awr i Pai. Mai'n hollol relaxed yma, hyd yn oed mwy na Chiang Mai(!), a ma'n le rili bach.

Dros y penwythnos, nath Dan a fi benderfynu heirio scooter, am bod pawb yn dreifio nw rownd Chiang Mai. Ma nw fod yn reit hawdd i'w dreifio fyd, felly do'n i'm yn poeni gormod. Ond pan gesh i jans i gal test run fyny a lawr yr alley way ma, gesh i banics ar y ffor nol a tynnu'r accelarator yn lle'r brecs, a mynd yn syth fewn i'r wal cyn deifio off y beic yn dramatic. O'n i'n iawn, ond doedd y beic ddim, ac oedd raid i fi dalu decpunt o ffein. Dio'm yn swnio'n lot o bres adra mashwr, ond ma'n loads fama, a o'n i'n gytud - ar ben huna, nath o roi phobia o scooters i fi, a o'n i'n gwrthod mynd nol ar! Dyma lun o Dan arna fo rownd Chiang Mai ddo:


Nos Sadwrn wedyn oedda ni allan efo dau foi o'r Alban (dau o'r rhei oedd yn y band!) sef Kev a Mike, a digwydd bod, natha ni bympio fewn i'r cwpwl Almaeneg oedd ar y trek efo ni mewn un pyb. Oedd Kev a Mike yn bwriadu dod efo ni i Pai yn lle joinio gweddill y gang yn yr ynysoedd yn y de, ond doedd y gweddill ddim rhy hapus dwi'm yn meddwl, felly natha nw dynnu nol funud ola. Biti, achos sa ni di cal hwyl!

Eniwe, heddiw, natha ni rentio scooter eto, a dwi'n falch o ddeud bod fi di gellu dreifio fo rwan! Ma'r lonydd fama yn hollol wag drw'r amsar, felly ma'n lle da i bracdisho. Dwi'm yn gwbod be arall sy gena fi i ddeud rili, felly does na'm point i fi jysd mwydro i lenwi lle nagoes!

8 comments:

Anonymous said...

O mai god - stori arall nyts SLASH ffyni! Swni'n talu lot o bres i weld:

1) chdi'n cal y massage yn y toilet.

2) yn llithro dros y clogwyn ar y trek.

3) cael damwain ar y scooter.

A mond 3 wsos sy di bod!!!

Anonymous said...

http://www.youtube.com/watch?v=iQG_UOuqlM0

Ma raid i chdi weld apperance David Bowie ar Extras Gruff!

Anonymous said...

mwynhau darllen eich hanes! pawb yn cofio atoch.

Anonymous said...

Haia Gruff, joio darllan yr hanas, dal ati.

Oedd wicend yn rili dda diolch, er bod yr un gora ddim yna obviously. On in chuffed o gal un o'r negeseuon personalised Dydd Gwenar so dwi am ddechra gadal mwy o comments fel hyn i weld os gai fwy....hint hint

Nath meddwl am chdi yn crasho scooter diclo fi, gobeithio nei di gario mlaen i neud petha nyts fel hyn - ma'r busnas teithio ma di gneud chdi'n rel adrenaline junkie.

Cytuno efo Mari am David Bowie ar Extras...reaction Andy i lein cynta'r gân yn hilarious 'The little...?'

Anonymous said...

Tait arna chdi efo'r scooter! Ti'n meddwl bod dy ddamwain di yr un mor sgeri â'n un i?! Ha ha. Dwi'n licio gwynab Dan ar y scooter - mae o'n edrych fel hogyn bach wedi gwirioni!

Dwi'n cytuno efo Ioan - dwi'n licio cael neges bersonol hefyd, mae o'n neud i fi deimlo'n sbeshal.

Dalier ati

Anonymous said...

Chwara teg i Ioan ddeud bod yr un mwya arbennig ddim yna - sori bod fi di methu dod Io!!

Sud bod na gymaint o sdoris ohona chdi yn cal petha anffodus yn digwydd i chdi?!!? Don i rioed di meddwl amdana chdi fatha boi trwsgwl - ma raid bod fi yn rong!

Odd raid i fi brynu ffon newydd gan bod fi di colli un cynt fi Gruff!! :(

Nawn ni adal yr hanas o wicend nesa ar hwn i chdi ia? Pawb yn mynd yndi??

Dal i fynd hefo dy keen-ness plis!!

Anonymous said...

Has beens yn Aber ia? Ffyni bod fama'n troi mewn i ryw chat room! Dwi'n cytuno Ioan - ymateb baffled Andy - dwi di watchad o tua 50 o weithia ar YouTube rwan, sad.

Anonymous said...

gruff - scooter - crash - ha ha

spud (cos fedraim bod arsed figro allan be di password v)