22/09/2006

Y Trek a Band Gwaetha'r Byd

Helo ers hir! Da ni'n ol oddi ar y trek yn fyw ac yn iach! Ma gena fi lot o betha i ddeud, a dwi'm yn gwbod lle i ddechra! Oedd y trek yn amazing, ond yn waith caled iawn weithia. Doedd y diwrnod cynta ddim yn ddrwg, dim ond cerdded fyny'r mynydd a dros chydig o afonydd, ac ar ol tua 4 awr o gerddad, natha ni gyradd yr hilltribe cynta. Oedd o mor od gweld sut oedd y bobol yn byw, a bod nw'n hollol annibynnol o'r byd mawr. Oedd gena nw iaith eu hunain fyd, iaith weird iawn, a doedd na lot o'na nw ddim hyd yn oed yn dalld Thai, heb son am Saesneg.

Yr ail ddiwrnod wedyn, natha ni sblitio'n ddau grwp, ac oedd na 5 yn grwp ni, sef ni, cwpwl o'r Almaen, a hogan o China. Oedd pawb yn gellu siarad Saesneg, lwcus, neu sa ni heb gal lot o hwyl! Oedd hi'n bwrw drw'r ail ddiwrnod bron ddo, felly oedd y gwaith cerddad yn anodd iawn, a llithrig. Ar ben huna, oedd yr actual ffordd oedda ni'n mynd yn lot mwy peryg a sgeri, efo lot o ledges cul. Un tro, nesh i slipio oddi ar y ledge, ond nesh i lwyddo i afal yn yr ochor (oce, doedd o ddim mor ddrwg a ma'n swnio fama, ond oedd o dal reit sgeri!). Ar adega, am bod hi'n bwrw gymaint, oedd raid i fi wisgo'r poncho gwirion yma:

Oedd diwadd y daith ar yr ail ddiwrnod i gyd lawr allt, a nesh i golli cawnt o faint o weithia nesh i slipio! Oedd o'n gymaint o relief i gyradd lle oedda ni'n aros a cal cawod (oer) a newid i ddillad (chydig mwy) glan. Dyma lun o'n gwlau ni ar yr ail noson - fel da chi'n gweld, oedd hanner y "stafell" yn yr awyr agored - teimlad weird pan oedd hi'n tresho bwrw:

Lwcus, oedd y trydydd diwrnod yn chydig llai o waith, a dim ond ar eliffantod natha ni deithio. Oedd bod ar eliffant yn eitha anghyfforddus ar ol dipyn, a do'n i'm yn trystio'r eliffant 100% i beidio slipio oddi ar y ledge weithia! Oedd un ni'n farus hefyd, yn codi ei drwnc ata ni bob dau funud yn disgwl i ni fwydo fo. Ac ar ol tua 10 munud o gerdded, nath o sdopio i neud ei fusnas ar ganol y trac (sbiwch yn fanwl)!!

Ar ol huna, gatha ni white water rafftio, oedd yn lot o hwyl pan oedd y dwr yn wyllt, ond eitha boring fel arall, so nath Dan a fi neidio fewn i'r afon a jysd mynd efo'r afon felna! Lot mwy o hwyl SLASH sgeri pan nesh i fynd rhy bell oddi wrth y cwch, a methu nofio yn ol yn erbyn yr afon, a poeni bod na fwy o rapids nyts ar y ffor!! Un peth arall dwi newydd gofio bod fi heb son am ydi'r chwilod masif ma oedda nw'n dal, ac oedda nw'n gneud idda nw gwffio yn erbyn ei gilydd a fysa nw fel arfar yn rhoi bet ar pa un fysa'n ennill.

Erbyn diwadd ddoe, o'n i'n eitha balch bod o drosodd, achos oedd o'n rili anodd weithia, ond dwi mor falch bod ni di neud o. Swn i'm yn licio mynd eto'n fuan, chwaith - ma coesa fi'n lladd heddiw!! Atha ni allan neithiwr ar ol cyradd Chiang Mai yn ol, ac oedd o'n eitha neis bod "adra"! Natha ni gyfarfod grwp o bobol ifanc o'r Alban tro'ma, ac efo nw oedda ni drw nos. Yn Heaven Beach, ein local, sy wasdad efo band yn chwara, nath Dan a cwpwl o'r Albanwyr fynd fyny ar y stage i "ganu" "can", efo Dan yn lead singer. Y "band" gwaetha dwi erioed wedi gweld. O bell ffor.


A dyna ni! Sori os di hwn di bod yn riiiili hir, ond oedd gena fi lot i ddeud! A rwan dwi di rhedag allan o amsar yn y lle internet ma, felly ma raid i fi fynd. Gadal Chiang Mai fory, felly nai adal chi wbod lle fydda ni!

O.N. Pen-blwydd hapus hwyr i Sara, fy nghefnither, oedd yn 14 oed ddoe!

Mari - Paid a updatio pobol eto! Job ni di huna! Gobeithio bod Uned 5 yn mynd yn iawn leni. Unrw sdoris ffyni??
Catrin - Siom oedd gweld bod chdi heb commentio tro dwytha, ond dwi'n dalld pam rwan. A na, ma Matt wedi gadal ni!! Haha.
Robin - Na, dwi ddim yn licio'r syniad Big Brother's Big Mouth rip-off!
Gemma a Llinos - Falch bod chi'n darllan! Jelys braidd o'na chi yn Aber, sy'n ffyni braidd! Cofiwch fi at Llew a Hollywood Pizza!
Ioan - Gobeithio gewch chi laff yn Gaerdydd nos fory, dwi'n kind of gytud (sy, unwaith eto, yn ffyni). Dwisho chi gyd gal one minute silence drosta fi oce?!

4 comments:

Anonymous said...

Waw! Am brofiad.
Dwi'n amau mai cenfigen sydd y tu ôl i dy sylwadau dilornus am y band. Siwr bod chi 'di cael 'audition' fel yr X factor a bod yr Albanwyr wedi dewis Dan!
(Ti'n gwbod y comments personol ti'n roi ar ddiwedd pob neges? Dwi'n meddwl y base'n well rhoi rheina fan hyn nag yn y prif flog, achos ma nw'n boring i bawb arall. Mond meddwl o'n i! Felly os tisio ateb hwn, ateba fo fama!)

Anonymous said...

Sori am updatio pobl Gruff, ond oni jyst yn licio meddwl fysa pawb yn licio clywad bo chi'n fyw (gan fod Thailand ar y newyddion etc!). Nai ddim byth eto!

Trec yn swnio'n NYTS slash anghyfreithlon o berryg!

Llunia cwl fyd - y band yn edrych yn ffyni!

Anonymous said...

Hawdi - ma'r treck yn swnio'n hwyl, a Gruff be di gwaith calad i chdi? Reidio beic i Ferodo ynteu cerad i dop y wyddfa?

Ma'r llun o dan yn ffyni - neshi sbio dros y llynia yn sydyn a neshi ddim sylwi ma dan odd o, odd o jysd yn edrach fel rw ganwr meddw yn dawnsio'n od.

A hefyd pam fysa chi BYTH yn cal llun o Eliffant yn pi pi? Tasteless iawn os gai ddeud!!!

Dwi'n teimlo pressure yn sgwennu ar y blog ma - achos bod na gymaint o gyfieithwyr ac ati dwi ofn bod chi gyd yn siarad am yn sillafu gwallus i - ond peidiwch a poini, dydi o ddim MOR ddrwg a hun yn real life.

O.N ma'r llun ona chdi yn dy ponsho yn ffyni gruff!!

Anonymous said...

Falch o glywad bo chi dal yn fyw (er, dwi'n meddwl y bysa'r trek yn fwy tebygol o fod wedi'n lladd i na'r helynt sy'n digwydd yn Thailand ar y funud) Swnio'n brofiad (ond nai sdicio at fy nesg yn prysg dwi'n meddwl!) Na, cwl. Licio'r llun o'r eliffant - dwi'n falch bo fi ddim yn bwyta brecwast/cinio/hangover ers noson cynt ar ôl gweld y 'llanast' nath o.

Y band yn swnio'n hwyl - Dan oedd yn pitchio?

Heblaw bo fi'n gwbod yn wahanol, swni'n gallu cymryd mai ar faes y 'steddfod oedda chdi yn y ponsho gwyrdd na!

Hwyl a fflag