18/09/2006

Massage Thai a cyfarfod Gruff arall!

Helo! Dim lot newydd i ddeud heddiw rili, ond o'n i'n meddwl sa well i fi sgwennu rwan i warnio chi bod fi ddim am ellu sgwennu am gwpwl o ddiwrnoda rwan. Ond mwy am hynna wedyn. Ddoe, ar ol y diwrnoda calad da ni di gal yn ddiweddar(!), natha ni benderfynu bod ni'n dau'n haeddu Thai massage i relaxio. Doedd o'm yn relaxing iawn chwaith. Tynnu ni i bob matha o siapia, a gneud petha random iawn. Un tro, nesh i sgwosho llaw yr hogan by mistake a oedd hi fel "don't do that, please". Oedd raid i ni wisgo dillad ffyni hefyd. Dyma lun o Dan yn modelu'r wisg:


Neithiwr wedyn, natha ni fynd i'n local, a cyfarfod pedwar ifanc o Iwerddon - Gruff (wel, Ian "Griff" Griffin - ffyni ia!), ei gariad Sarah, a dwy arall. Oedda nw newydd fod ar trek 3 diwrnod, ac wedi cal amsar rili da. A heddiw, felly, nath Dan a fi bwcio trek, a da ni'n cychwyn am 9 bora fory. Fydda ni'n cal gneud llwyth o betha dros y 3 diwrnod nesa, fel reidio eliffant, white water rafftio a gweld hilltribes random, felly dwi'n edrych mlaen! Nai adal i chi wbod sut a'th hi ar ol i fi ddod nol! Cyn mynd, dyma lun o'na ni efo'r criw o Iwerddon neithiwr:

9 comments:

Anonymous said...

Dan yn edrych fel bod o o dras ethnig yn y wisg 'na(!).

Neshi holi Gruff gyna ar MSN sut nath o lwyddo i wasgu'r hogan massage mewn camgymeriad, a nath o ddeud bod o bron a disgyn neu rwbath so nath o afael ynddi hi, a bron llusgo hi lawr efo fo!!!! Ffyni.

Pob hwyl ar y trec, edrych mlaen i gael yr hanes (mam o beth i sgwennu!).

Anonymous said...

Ha ha ha!!!!!!!
Matt di ticlo fi!!! A Gruff mewn crys ffwtbol yn ffyni!!

Dwi di cal syniad - be am i pawb trio rhoi caption ffyni ar y llunia a geith Gruff a Dan fod yn feirniaid?? Dwi'n trio bod yn keen hefo'r Gymraeg gan bod na gymaint o gyfieithwyr ar y blog ma!

Syniad da??

Anonymous said...

Da gen i eich bod yn joio ch hunan pob lwc ar y trek.

Anonymous said...

Catrin - dwi'm yn gwbod pam bod Gruff yn rhoi row i fi am beidio rhoi comments, wedyn ar ol 1 comment ma'n galw fi'n "y teip keen". Be ydi'r dîl efo hynna Gruff?

Gruff a Dan - gobeithio newch chi fwynhau'r trek, swnio fel gwaith caled braidd!

Anonymous said...

Helo! Da ni nol yn Aber wan, Newi ddarllan y blogs i gyd! Ma'n swnio'n brilliant! Da ni mor 'jel'!! Edrych fel bo chi'n gal lods o hwyl. Edrych ymlaen i ddarllan mwy genno chi! Enjoiwch y trek!

Anonymous said...

Newydd glwad ar newyddion bod na 'military coup' yn Thailand!!

Jysd checio bod chi'n iawn a bod chi ddim yn rhan ohono fo!!

Dan yn Prime Minister a Gruff yn Deputy newydd!!

Anonymous said...

Hei! Dach chin iwn? Owain syma!! Jysd isho deu pob lwc ar y trek an ai gadw mewn cysylltiad yn o fuan!

Anonymous said...

Fedrai reportio i chi bod Gruff a Dan nol oddi ar y trec yn saff ac wedi cael amsar da (ond gwaith caled ebe Gruff, dim Dan).

Neshi siarad efo fo ar msn gyna, a doedd o ddim am blogio tan fory achos oedd o isho rhoi llunia 'mlaen run pryd, a doedd o methu neud hunna ar y cyfrifiadur oedd o arno fo ar y pryd.

Anonymous said...

diolch am yr update mari, ond ro nesa gadal ni roi'r newyddion plis!!!!