16/09/2006

Bywyd Chiang Mai (teitl ofnadwy o wael!)

Gai jysd dechra'r blog ma drw ymddiheuro am gynnwys blog dwytha Dan! Ma gena fo gymaint o hawl i bostio ƒa fi, felly geith o ddeud be bynnag mae o isho! Fel mae o di deud yn barod, da ni di bod yn gneud dipyn o betha gwahanol yn Chiang Mai, ond fel nath o hefyd ddeud, ma di gadal i fi ddeud y sdoris gora! Ar ein ail noson yma, natha ni gyfarfod boi o'r enw Matt o Leicester, sy'n 23, a da ni di bod yn neud bob dim efo fo ers huna. Ma'n dda gellu siarad efo rywun gwahanol i Dan weithia!!!


Ma na lot o bobol yn hasslo ni'n bob man yn fama fyd, ac yn hyd yn oed dod fewn i'r tafarndai i drio gwerthu petha i ni. Y peth mwya annoying ydi tegan bach pren sy'n neud swn broga, felly pan da ni'n clywad swn broga, da ni'n gwbod bod NW ar y ffor! Nath Dan drio bob dim gen un, oedd yn ffyni SLASH tait achos bod o'n codi hopes hi, ond natha ni roi pres iddi hi yn diwadd eniwe, jysd am gal llun!


Heddiw atha ni i deml reit anhygoel ar ben mynydd wrth Chiang Mai, ac oedd rhaid i ni gerddad fyny looooooads o risia i gyradd. Oedd o werth o ddo, achos oedd yr olygfa o Chiang Mai reit o'r top yn amazing. Methu cyfleu o mewn llun O GWBL, ond dyma'r peth gora dwi di weld ers bod yma.


Ffyni, yn y clwb nos neithiwr, ar ol clywad am massage fi, nath Dan fynd i ofyn am massage ei hun, ond doedda nw'm yn codi fo fyny yn yr awyr fel natha nw efo fi, felly nath Dan ofyn idda nw neud! Mashwr oedda nw'n meddwl bod o'n weird!

Da ni'n cal noson ddistaw heno, jysd cyfarfod Matt am fwyd a cwpwl o ddiodydd, ond mae o'n son bod o'n gadal Chiang Mai fory i fynd i Chiang Rai (confusing!). Ella nawn ni weld o rownd Thailand rwbryd eto!

Manon - Haha swn i'n lyfio clywad chdi'n rhan o CF1 yn canu Rhythm a Dawns! Nath huna neud fi chwerthin. A'r lyrics.
Dad - Dwi'n iwsho'r gair SLASH achos ma'n cyfleu o'n well! A dim pigwyr pocedi oedda nw, gena fi'm byd yn fy mhocedi i ddwyn efo'r belt pres nagoes!
Catrin - Falch bod fi di gellu helpu chdi i ddod o hyd i flogs difyr erill!!
Gwil - Diolch am commentio o'r diwadd!! Ma blog Mari yn oce.
Lisa - Croeso adra! O'n i di anghofio bod chdi ar dy wylia i ddeud y gwir felly o'n i jysd yn meddwl bod chdi ddim y teip keen fel y pedwar uchod.
Rob - Jaman i chdi yn colli ffon! A chditha mor smyg o'na fo yn lle cynta! Ac yr unig beth sy'n debyg am chdi a Mari ydi bod chi efo gwallt coch!

5 comments:

Anonymous said...

ma'r blog chdi n neud o swnio fel bod matt a chdi mewn relationship!!!

Anonymous said...

Ffyni sa can Scissor Sister ar T.I.T.S - "There ain't no tits on the radio (Oh no)". O yes there is!

Dwi'n cofio'r brogaod pren yn Thailand (neshi brynnu un, jaman.) Ma'r swn yn cyf. Ffyni bod dan di trio bob dim - a ffyni di'r llun!

Ma'r olygfa o'r dop y deml yn nyts dydi - golygfa panorama o Chiang Mai - a mor wahanol i Bangkok. (Sbiwch arna fi'n brolio bo fi di bod yna fyd).

Nath Catrin briodi dydd Sadwrn - dwrnod neis iawn, ond nyts gweld ffrind yn priodi.

xxx

Anonymous said...

Matt yn edrych reit ddel fyd, da iawn Gruff (!)

Anonymous said...

Swnio'n lle neis. Dwi'm yn coelio bo Dan wedi dymuno cael y profiad ges di efo dy massage! Rêl fo! Licio'r llunia fyd - ti am roi'r llun ohona chdi a Matt mewn ffrâm siâp calon? Ha ha, joc. Well i fi fynd, prysur yn prysg (!) heddiw.

O.N. Diwrnod da hyd yn hyn - di cael defnyddio 'fel y cyfryw' ac 'i fod yn onest'. Ond neshi iwsho nhw yn y cyd-destun cywir wrth gwrs ;)

Anonymous said...

Hey Gruff,
Llinos sy 'ma! Mae Mari wedi bod yn gofyn i fi sgwennu neges i ti ers hir iawn felly i gadw hi'n dawel dyma fy neges!!!
Gobeithio bod ti'n joio a dwi'n hoffi'r safle we!