04/12/2006

Plan B

Fel sa chi probabli di gellu gesho, nath y busnas chwilio am waith byth rili digwydd, a) achos bod ni ddim rili yn ciin ar aros yn Sydney am gyfnod mor hir a huna, a b) am bod ni'n rhy ddiog - felly dyna pryd natha ni feddwl am Plan B. Ma fi, Dan a Marcus wedi prynu car(!), a da ni am ddreifio rownd Awstralia yn gweithio ein ffor rownd. So felma, fedra ni neud pres a gweld Awstralia ar yr un pryd! A mae o'n gar mawr fel y car gwyn, so fydda ni'n safio lot o bres os fydda ni'n cysgu yn y boot!....Da NI'N meddwl bod o'n syniad da eniwe!

Wedi deud huna, ma Sydney yn dechra tyfu arna fi hefyd. Am ddinas, mae o'n le reit braf i fyw, a di pob dim ddim rhy bell i ffwr chwaith. Heddiw, atha ni i weld yr Opera House a'r Sydney Harbour Bridge, fel bod ni'n gellu deud bod ni di gweld y prif betha cyn bod ni'n gadal fory! (O ia, da ni'n gadal fory am bythefnos a hannar i fynd i bigo cherries yn Orange (dim pigo oranges yn Cherry (jôc wael - slash gena fi ormod o fracets ar y go rwan)), cyn dod nôl i Sydney mewn pryd i Nadolig a Flwyddyn Newydd). Dyma lunia:



Da ni di bod yn cal nosweithia da yma hefyd, a da ni'n nôl i seis gang da rwan (er, ma James a Matt wedi mynd am wylia i Fiji am bythefnos - braf iawn!).


Dwi ddim yn cal lot o lwc efo fflip fflops ar y funud ddo. Gafodd y pâr cynta eu colli ar noson allan yn Kho Phangan - misdêc oedd menthyg nw i Dan! Eniwe, chwara teg, nath o brynu rhei newydd i fi, felly o'n i'n hapus eto. Am chydig. Un noson yn Singapore, nesh i adal yr ail bâr yn y corridor am bod nw'n drewi. Pan ddesh i nôl i'r hostel ar ddiwadd y noson, nesh i ffeindio bod fflip fflops fi di mynd - ond oedd na bâr o sandals lledar afiach di cal eu gadal yna yn lle! O'n i'n flin. Eniwe, nesh i orfodi fy hun i brynu pâr newydd y diwrnod wedyn, a o'n i'n hapus eto. Am chydig. Noson o blaen, nath na rywun ddwyn y fflip fflops o'r sdafall!! Grr! Slash lwcus bod y lleidr di dewis peidio dwyn unrw beth gwerthfawr fel y camera neu rwbath! Felly unwaith eto, dwi heb fflip fflops. Dwi ddim yn hapus.

Eniwe, ddim yn edrych mlaen gormod at bigo ffrwytha, achos mae o fod yn waith rili poeth a calad, ond dim ond pythefnos a hannar dio, a fydd gena ni bres at Dolig wedyn. Nai adal chi wbod sud ma'n mynd (a sut le di Orange!)!

5 comments:

Anonymous said...

Lle mae'r lluniau???
A be di'r dîl efo'r lladron fflip-fflops ma?
(Er, fasa "Lladron fflip-fflops" wedi gwneud teitl reit dda i'r bennod (os mai pennod ydi un darn o flog (wps dwi'di dal y clefyd "gormodedd cromfachau" rwan hefyd))).

Anonymous said...

Hei hogia! Dwi hefyd yn darllen y blog yn reolaidd! Neis gweld y llunia, ma'n swnio a edrych fel trip amazing, dwi mor jelys! Fydd o'n rhyfadd peidio mund allan efo chi dros dolig! Hwyl fawram y tro! Leah.xxx

Anonymous said...

Dan ydi'r lleidr flip flops yn amlwg!!

Anonymous said...

((((())))))) Meddwl fyswn i'n adio at y busnes cromfachau. Licio'r comment fod ti'n gweld hi'n braf fod eich dau ffrind chi yn mynd ar wylia i Fi-ji. Bechod arna chi yn gorfod aros yn Awstralia de....!
Ti'n gwneud fi'n andros o jelys yn son am Awstralia Gruff!Cerwch i Tasmania-mae o'n rili neis yn fana( yn enwedig Wineglass Bay).

Anonymous said...

Ti'n slacio efo'r blog ma Gruff!!