13/12/2006

5am?!

Da ni yn Orange rwan ers wsnos, a da ni'n cal amsar...diddorol! Mae o'n dre reit fach, ac yn eitha tebyg i Gaernarfon mewn ffor (ond lot llai o bobol rownd). Ma'n dda cal gweld chydig o Awstralia go iawn ddo. Oedd y diwrnoda cynta'n sdres braidd achos bod ni di cyradd heb unryw job, felly oedd raid i ni ddreifio rownd yr holl ffermydd (gan gynnwys un ffarm o'r enw Caernarvon!) yn gofyn idda nw os oedd gennyn nhw jobs i ni yn pigo ffrwytha. Yn y diwedd, fuon ni'n lwcus. Neu'n anlwcus, dibynnu pa ffor da chi'n sbio arna fo! Dyma Dan a fi yn nacyrd ar ôl y diwrnod cynta!

Dyma ddiwrnod arferol i ni. Deffro 5am (afiach!!!), cyn dreifio i gwaith erbyn 6am. Pigo cherries off y coed o 6am-3pm efo brêc o bum munud i ginio. Afiach ta be? A ma hi'n boiling, a da ni mond yn cal rwbath fel pedair punt am bob bocs mawr da ni'n lenwi! Oedda ni reit annoyed SLASH depressed ar y diwrnoda cynta, ond ma'n dechra dod yn haws rwan, ma raid i fi ddeud. A dwi'm yn meddwl gymaint am faint dwi'n ennill, mond faint dwi'n safio drw beidio bod yn Sydney. (I roi syniad i chi, dwi'n gellu gneud tua 6 bocs mewn diwrnod - ma Dan yn gellu gneud mwy, wrth gwrs!). Da ni'n dechra mynd yn fed-up o cherries rwan; da ni'n gweld nw pan da ni'n cau llygid ni, a nesh i hyd yn oed clywad Dan yn sharad yn ei gwsg noson o blaen am bigo cherries! Dyma lun o'r tri o'na ni'n gweithio'n galad!

A dyma fi'n cal cop yn cymyd brêc bach, wedyn llun o'r bocsus oedda ni'n eu llenwi! (Rywun di neud job wael a heb lenwi nw reit i'r top dduda i!)

Da ni'n aros mewn parc carafanau am $30 yr wsnos, sef 12 punt - dim yn ddrwg o gwbwl wrth feddwl bod ni'n talu 200 punt i aros mewn hostel yn Sydney am ddeg diwrnod dros Dolig!! Da ni'n byw reit dlawd, a highlight bob diwrnod ydi mynd i Woolworths (sy'n supermarket yn fama) a prynu bwyd (make Savers, wrth gwrs).

Gatha ni ddiwrnod off dydd Sul hefyd, felly natha ni fynd i weld y Blue Mountains, sef casgliad o fynyddoedd a canyons a ballu - reit ddiddorol mashwr. Dyma lunia gath Dan:

Eniwe, fel da chi'n gellu deud, dydi bywyd ddim rhy ecsaiting ar hyn o bryd, ond os da ni'n gweithio'n galad rwan, gawn ni beidio poeni gymaint am bres dros Dolig! Edrych mlaen! (Ac o leia fedra i dal neud chi gyd yn jelys drw sôn am y tywydd...!)

5 comments:

Anonymous said...

Neis clywad gena chdi eto Gruff! Y pigo ffrwytha'n swnio'n hell, ond jyst meddylia am Dolig! Fydd o mor od hebdda chi'ch dau dros yr wyl xxx

Anonymous said...

Watchiwch losgi! Dwi'n cymryd bod y "Dyma'r lluniau:" bob tro yn sôn am luniau sy'n mynd i ddod rywbryd.

Anonymous said...

Hei

Y job yn swnio'n afiach! Cytuno efo Mari - fydd 'hel tai' ar fora' dolig jesd ddim yr un fath hebdda chi!

Anonymous said...

Haia!

Pam dio ddim yn dychryn fi ogwbwl bod Dan yn hel mwy o focsus na chdi mewn diwrniod?!!

Neis clwad gena chi...sori, chdi, Gruff!

Anonymous said...

ddim yn enjoio ffermio the coolest job in the world ie! dwin jelys iawn or cherry picking my favourite fruit yum yum mar blog yn ddiddorol iawn ma rhaid deud ond mi gewch fwy o laff yn seland newydd yn canol fwy offermwyr obviously !enjoy