24/12/2006

Dan yn dysgu syrffio

Ma'r pigo ffrwytha drosodd! Oedd o'n teimlo'n braf iawn i bigo'r cherry ola un, a gwbod fydd BYTH raid i fi neud huna eto yn fy mywyd! Gan bod na ddim lot mwy na huna i neud yn Orange, natha ni adal syth ar ôl i'r gwaith orffan, sef dydd Iau, a ddatha ni nôl i Sydney y diwrnod yna (a gorfod cysgu yn y car ar stryd yn Sydney am ddwy noson am bod gena ni ddim accomodation tan dydd Sadwrn - afiach o dramps!).

Dydd Gwenar atha ni i Manly, sef un o suburbs Sydney, i weld y traeth. Gath Marcus a Dan wers syrffio hefyd, ond do'n i'm yn fodlon talu $50 rhag ofn fyswn i methu pigo fo fyny (yr actual proses o syrffio, dim y surfboard ei hun), so nesh i jysd watchad y wers o bell (slei SLASH stinj). Oedd o'n edrych yn dda, a nath Dan bigo fo fyny'n syth bron (shoc). Dwi am drio tro nesa fyd, ond jysd rentio surfboard am awr neu rwbath - ma Dan yn sôn am brynu un! Yn y cyfamser, dyma lunia o Dan a Marcus wrthi:


Ma raid i fi ddeud ddo, di'm yn teimlo fel 'Dolig o gwbwl yma! Ma' 'Dolig adra lot gwell! (Ma raid i fi ddeud huna ddo does!). Da ni (sef fi, Dan, Marcus, James, Ade ac Emma) 'di gneud Secret Santa 'fyd, felly o leia fydd gena fi rwbath i agor bora fory! Y plan am fory ydi mynd i gal cinio Dolig (sy' am ddim efo hostel ni), cyn mynd i'r traeth wedyn yn y p'nawn - ma nw'n gaddo tywydd reit ddrwg, ond ma raid i fi ellu deud bod fi 'di treulio diwrnod 'Dolig ar y traeth, hyd yn oed os fydd hi'n tresho bwrw ac yn freezing! Nai adal chi wbod sut 'Ddolig gatha ni - tan huna, NADOLIG LLAWEN I CHI GYD!!

8 comments:

Anonymous said...

Helo, swnio'n cwl - dwi'n jelys!! Fydd hi'n od yma hebdda chi, slash (dwisho joinio'r giang slash ma!) diflas!! Ond dyna ni, enjoiwch ych hun a masiwr nawni siarad efo chi fory!! HAPI CRIMBO !!!!!! xxxxxxxxxx

Anonymous said...

p.s - lisa di'r anonymous!! dwim yn dalld sud i beidio bod!

Anonymous said...

helo! Sara sy ma! Gobeithio bod bob dim yn iawn a Nadolig Llawen i chdi =) !!! xxxx

Anonymous said...

Nadolig Llawen mawr i chi! Falch o glywed eich bod yn cael hwyl, edrych ymlaen am fwy o straeon. Enjoiwch y barbiciws. x

Anonymous said...

Od SLASH neis oedd clywed dy lais heno SLASH fory (i chdi) SLASH bora ma SLASH neithiwr i chdi. Conffiwsing ta be?! O diar. Mynd i gwely wan. Methu chdi xxx
Mari oedd honne. Ma hi'n 2.15 y bore rwan fel fedri di ddychmygu. Dad xxx
Nes di glywed dad yn teipio hynna ma'n siwr. Dim lot mwy i ddeud rili, so dwi am fynd i gwely hefyd. Dolig llawen, frawd, a gobeithio bod y cinio am ddim ddim rhy afiach. (efo grefi y pwff (geiria mari (cadw'r theme o or-gromfachu))).xxxxxxxxxxxx

Anonymous said...

Newydd deimlo'n euog SLASH afiach am anghofio am rhen daniel - nadolig llawen i chdi fyd, a mai run mor weird hebdda chdi (os nad mwy - sori gruff) yma. Ma Hyw yn poeni bo chi di ffeindio replacement iddo fo mor sydyn = bywyd dibwys i Hyw. Jyst isho deud bo ni'n methu chdi fyd Dan.
Mari a Gwil
xxxx
Nadolig llawen Dan!
Geraint.

Anonymous said...

Nadolig llawen Gruff a Dan! Huw, Gwenno, Tomos ac Anna xx

Anonymous said...

Gobeithio gafo chi Ddolig lyfli hogia! xxx