
Eniwe, bora 'Dolig wedyn, y peth cynta natha ni oedd agor presanta ein Secret Santa - gesh i set poker gen Dan (da - dwi di methu poker!), a gath Dan d-shirt gen Ade. Dyma fo efo ei bresant:
Oedd gena ni ginio 'Dolig am ddim efo ein hostel, ac er bod o braidd yn oer, oedd o reit neis cal ryw fath o normaliti i'r diwrnod! Dyma Marcus (yr Hyw Newydd!) ac Ade yn buta:
Wedyn, atha ni i Bondi Beach, lle ma PAWB yn mynd bob 'Dolig. 'Dwi rioed 'di gweld traeth mor brysur! Oedd y tywydd ddim i fod yn dda iawn, ond lwcus gatha ni dywydd braf! Dyma ni yn Bondi Beach:
A dyna ni! Ar ol huna, natha ni jysd fynd i gaffi am ddrinc a bwyd yn y nos, wedyn gwely cynnar! I dd'eud y gwir, o'n i reit jelys i feddwl amdana chi gyd adra yn ca'l 'Dolig normal, ond fedra i'm cwyno chwaith!


O ia, un peth arall - da ni 'di perswadio James i ddod efo ni rownd Awstralia yn y car. Dyma James:
4 comments:
Lluniau da. Crys T smart gen ti Gruff!
Ffyni bo chi wedi gweld Anwen a Fflur! Odd Anwen yn blwyddyn fi'n coleg hefyd Gruff, odd hi'n rhannu stafell efo Low (ein cefnither) ar yr un coridor a fi'n Pantycelyn.
Da iawn gweld llunia eto - da chi'n edrych yn dda! xxx
Hia Gruff a Dan,
Dolig wahanol iawn! Den ni gyd yng Nghaernarfon am noson yn cael parti gems fel arfer. Noson dda - yn meddwl amdanoch chi. Blwyddyn newydd dda - joiwch.
Neis gweld gyd y llunie a darllen eich hanes.
Hwyl
Hywel, Yvonne, Lisa a Bethan
Hi-ya Gruff, Nadolig Llawen! Sut oedd o am dolig wahanol. Wel i bet ti gallu dychmygu be ti di misio.... the name game, roesset ti a sam y ci di cael 1 mention...... oh bless!!!!! Beth ydech yn neud blwyddyn newydd? cael un dda, llawer o gariad, Rhiain, david, carys a fi wrth gwrs x
Post a Comment