04/01/2007

Blwyddyn Newydd Dda!

Helo! Gobeithio gatha chi gyd noson flwyddyn newydd dda! Oedd un ni reit random i ddeud y gwir, ond mwy am huna wedyn - gena fi lot o ddal fyny i neud efo'r blog 'ma!

Rhwng 'Dolig a flwyddyn newydd, natha ni'm g'neud lot o'm byd rili, dim ond mynd rownd Sydney a gweld mwy o'r ddinas. Atha ni fyny'r Sky Tower, oedd reit cwl (er bod raid witchad 3 awr am bod y liffds di torri!) - oedd yr olygfa o'r top werth o ddo!

Eniwe, ar ein trafyls rownd Sydney, natha ni ffeindio sbot ideal ar gyfar nos Calan, felly am 9 yn bora ar y 31ain(!), dyna lle atha ni ar y trên. Lwcus bod ni di bod mor keen i ddeud y gwir, achos natha ni lwyddo i gal lle da yn y parc, efo bench a bob dim - ath hi'n afiach o packed yna erbyn diwadd nos! Gath pawb noson rili da, ac oedd y tân gwyllt am hannar nos yn amazing! Gesh i'm llunia rhy dda yn anffodus (dwi'n beio'r camera, dim yr alcohol!). Lwcus, nesh i dynnu llunia o'r view oedd gena ni yn y pnawn.

Dan newydd helpu fi allan - nath o lwyddo i gal llunia o'r tân gwyllt - camera gwell, ma raid...!

Ar yr 2il o Ionawr wedyn, nath James, Marcus, Dan a fi gychwyn ar ein taith fyny'r east coast! Y stop cynta oedd Palm Beach, sef y traeth lle ma Home and Away yn cal ei ffilmio (pa mor sad da ni?!). Doedd o'm yn edrych cweit fel o'n i'n disgwl, ond dwnim be o'n i'n ddisgwl chwaith, achos dwi heb watchad Home and Away ers o'n i'n tua 10 (gaddo!).

Noson yna, natha ni aros mewn lle o'r enw Port Stephens, a campio am y tro cynta (ma Dan a Marcus efo tent dda, a ma James a fi yn gorfod rhannu'r freebie crap!).

Oedd na lot o fywyd gwyllt weird rownd ddo, ond dyna be sy'n dda am Awstralia - am bod y cyfandir di bod ar wahân i bob cyfandir arall am 90 miliwn o flynyddoedd, ma pob dim di dilyn evolutionary cycle gwahanol - er enghraifft, yn fama, di'r coed byth yn colli eu dail, ond ma nw'n colli'r bark bob blwyddyn (newydd sylwi bod hwn newydd droi'n ormod o ddarlith - nai sdopio rwan!). Eniwe, dyma lun o forgrugyn massive natha ni weld:

Y bora wedyn, natha ni ddeffro'n gynnar i fynd i'r moving sand dunes mwya yn y Southern Hemisphere - oedd o reit cwl cal liffd wylld mewn jeep dros yr anialwch - teimlo fel bod ni yn y Sahara i ddeud y gwir!

Gatha ni hefyd go ar sandboardio, sy basically fel slejo ar dywod - swnio'n weird ond oedd o'n hwyl. Heblaw am y ffaith bod rhaid cerddad nol fyny'r allt o dywod ar y diwadd bob tro - afiach! Ar ôl huna natha ni fynd fyny ryw fynydd SLASH bryn i weld yr olygfa'n iawn - amazing.

Mwy o lunia natur rwan - natha ni weld lot o bryfaid cop afiach o fawr!!

Heddiw wedyn, natha ni ddeffro'n reit gynnar i ddreifio 'mlaen i'r lle nesa, sef Coffs Harbor (sy'n enwog am gal cerflun enfawr o fanana...!). Ar y ffor, natha ni sdopio yn Seal Rocks, sef traeth arall neis (bywyd anodd de!). Gatha ni lunia da! (Ma Dan a fi di troi'n keen am dynnu llunia, a da ni wastad mewn cystadleuaeth efo'n gilydd!).

A dyna ni! Natha ni gyradd Coffs Harbor tua 8, felly dim lot o amsar i neud dim heno. Fory awn ni i weld y banana(!), cyn dreifio 'mlaen i Byron Bay, sy fod yn le da - 'da ni am aros fana am tua 4 diwrnod mashwr! 'Da ni'n gobeithio cyfarfod Anna a Niall oedd yn Thailand/Malaysia/Singapore efo ni hefyd!!

Newydd sylwi pa mor hiiiiwj di'r blog yma, felly da iawn chi am gyradd y diwadd yn fyw! Nai gadw fo'n fyrach tro nesa'!

4 comments:

Anonymous said...

blwyddyn newydd dda i t gruff. chware teg t dal i neud job dda o'r blog ma, swnio fel bo chin cal amser rili da.mi wnes i drio ffonio t cwpwl o weithie dros y dolig, ond gyd dwin cal fatha answer machine o ddynas australian yn siarad, eniwe nai drio eto yn y blwyddyn newydd.

pob hwyl

Endaf

Anonymous said...

Ffiw - blog newydd! Oni'n dechra poeni amdana chi! Edrych mlaen i weld y llunia a does na'm ffasiwn beth a blog rhy hir!xxx

Anonymous said...

Helo!
Blwyddyn newydd dda i chi!! Brysia i roi y llunia i mewn Gruff dwi'n od o exited i weld llun y morgrugun sy'n swnio fatha cawr!!

Cip yp ddy gwd wyrc efo'r blogio...a Dan sgwenna di frawddeg oleia i ni!!

Joiwch!

Lleucs xx

Anonymous said...

Blwyddyn Newydd Dda! Rhyfadd oedd 'ty Gruffioi' heb Gruff New Year's Eve! Doni ddim am jysd gate-crasho, ond nath Lleucu fynnu! xxx