15/01/2007

Hippies, reids, ond dal heb syrffio!

Helo ers hir! Fel nesh i ddeud tro dwytha, ar y ffor i Byron Bay, natha ni sdopio i weld y Big Banana. Do'n i'm yn siwr iawn be i ddisgwl i ddeud y gwir, ond o'r holl hype, ma raid i fi gyfadda bod fi wedi disgwl rwbath gwell na hyn:


Ar ôl y siom yna, natha ni ddreifio mlaen i Byron Bay - lle rili chilled out, er braidd yn llawn o hippies (no offence i unryw hippies sy'n darllan y blog yma). Oedd y traeth yn rili neis yna, a nesh i neud chydig mwy o bodyboardio (y cerynt rhy gry i ddysgu syrffio yna! A ma bodyboardio yn fwy o hwyl na ma'n swnio os da chi'n dal ton yn iawn!). Ar y noson gynta, natha ni gyfarfod fyny efo Anna a Niall, oedd wedi bod yna ers wsos ac yn rili licio'r lle!

Un peth annoying am y lle oedda ni'n aros - campio oedda ni eto, ac oedd na dwrcwn gwyllt yn cerddad rownd y lle yn trio torri fewn i dents pobol. Nath na un lwyddo i ddwyn dau bacad o grisps a pacad o super noodles gena fi!! O'n i'n flin!

Ar un o'n diwrnoda yn Byron Bay atha ni am drip i Nimbin - y lle mwya rhyfadd dwi rioed di bod yn! Oedd o'n dre tiny, ond mae o'n llawn pobol yn trio gwerthu drygs, hyd yn oed yn y siopa a'r caffis! Gena nw hyd yn oed amgueddfa sy'n sôn am hanas cannabis! Dwi'n meddwl mai ni di'r pobol cynta erioed i adal y lle heb brynu dim byd! (Ond dwi'n gweld pam bod yr holl hippies di argymell y lle i ni....)

Ar ôl aros yn Byron Bay am 6 noson yn gneud fawr o ddim, oedd hi'n hen bryd i ni symud ymlaen i'r lle nesa' - Surfer's Paradise! O'n i'n meddwl sa fama'n le aidial i fi ddysgu syrffio, ond ar ôl cyradd, nesh i sylwi bod syrffio ddim mor dda a huna yma am bod na ddim digon o dona! Grr! False advertisement ta be?! Nath y siom yma ddim para rhy hir ddo, achos nesh i ffeindio allan be oedd yna i neud yn Surfer's Paradise - theme park hiwj a water park hiwj! Iahww!


Gynta atha ni i Wet'n'Wild, oedd yn lot fawr o hwyl - dwi'n rili mwynhau parcia dwr fel mai, felly o'n i wrth fy modd! Lot o sleids, rhei o'na nw reit sgeri - yr un gora i fi oedd yr un 'ma oedd fel ras rhwng wyth person, ac oedd o'n dangos y results ar y gwulod - nath y pedwar o'na ni neud bet pwy sa'n ennill cyn cychwyn - oedd raid i'r 3 oedd yn colli brynu peint i'r enillydd, sef.......FI!! Felly hwna oedd y sleid gora i fi! (Ddoth Dan yn ola - shoc!!)

Ddoe wedyn, atha ni i Dreamworld, sy'n llawn o reids sgeri. Nai'm bod yn boring a sôn am bob un, ond yr un mwya sgeri (a'r peth mwya sgeri dwi rioed di neud) oedd y Giant Drop. Da chi'n isda mewn rhes, cal eich codi fyny tua 100 medr yn yr awyr, lle da chi jysd yn aros yn hongian yn yr awyr am tua munud, yn gwbod be sy ar ei ffor - afiach o deimlad! Wedyn, mwya sydyn, da chi jysd yn disgyn am y llawr full speed! Dwi rioed di sgrechian gymaint! Dyma lun o Dan ar y reid.... (.........be?!):


Un peth da am y reid - mae o di sort of paratoi fi am neud sky dive! Ella bod ni am neud o'n Awstralia rwan fyd, am bod y pedwar o'na ni "isho" neud o. Sy'n golygu bod gena fi mond tua pythefnos i baratoi! Gylp!

Eniwe, blog hir arall, felly sa well i fi gau ngheg rwan. Da ni off i Brisbane heddiw, dinas reit fawr, felly dwi'n siwr fydda i'n gellu sortio allan y llunia ar ôl cyradd! (Ypdêt - wedi llwyddo - ewch i jecio'r holl hen flogs!!)

10 comments:

Anonymous said...

Mor cwl cal blog hir yn llawn llunia cwl! Licio'r un o Dan "ar y reid" - ma'n edrych fatha bod o di cal i fforsho i isda yna!

Neis cael "look" newydd i'r safwe (keen!) hefyd!

Ma'r pryfaid cop a'r morgrug yn afiach o sgeri!xxxxx

Anonymous said...

Haaai! Falch o gal un arall i'w ddarllen Gruff...paid gadael gormod o amser tan y nesa plis! dyma'r unig beth sy'n cadw fi fynd drwy'r ecsams neis ma! (siwr boti'n jelys o'r amser lyfli dani'n gal mis ionawr yn coleg dwyt?!)

Dani'n mynd i Iwerddon a Scotland adeg y gemau rygbi leni- yr unig 'drafeilio' ga i am bach- whoo!

O ia, geshia be...Dwi, Mared a Llin yn mynd i drafeilio Patagonia, Chile, Periw ag Equador haf 'ma! bron gneud yn fy nglos o ecsaityd!!

hwyl am y tro,

Heledd xx

Anonymous said...

Difyr iawn cael dy hanes di Gruff, a'r lluniau gwych. Paid a phoeni am swnio fel darlith, oedd y blog dwytha am y bywyd gwyllt yn ofnadwy o ddiddorol. Cofion at Dan - da iawn dy fod wedi'i guro fo'n rhacs ar y ras sleid dwr! Lovgreens ar y blaen eto!

Anonymous said...

Helow, hwyl cal blog o'r diwadd, a blog efo llynia, hyd yn oed gwell. Dwi ddim yn licio darllan fo achos dwi'n teimlo'n hun yn mynd chydig bach yn jelys bob tro dwi'n gneud......ocywd.

Un peth ffyni am y llynia, dan ar y reid, ma'n edrach fel bod o'n gwisgo kipah ar i ben!! haha

Anonymous said...

Helo! Cytuno efo pawb arall - neis clywad gena chi eto! Oedd y llun o'r morgrugyn a'r pry cop sgeri o fawr werth aros amdano fo, swni'm rhy cîn os fysa na rwbath felna wrth ymyl fy ngwely fi neu wbath!



o.n. dwi'n gwerthfawrogi'r blog ar ei newydd wedd yn fawr!

Anonymous said...

Swnio fel bo chi'n cal andros o hwyl. Dwi beyond JELYS!! Un peth dwi ddim yn sicr o yn y blog yma....be iyffach 'di 'twrcwn'?!! Dwi'n gesio mai twrci dio....
Man swnio fel bo chi di neud lot o betha yn bob man dach chi mynd. Keep up the good work efo'r blog. Fydd o'n ffordd rili da i chi gofio nol bydd.
Hwyl a fflag,
Ffion Griffiths (dim bo fi isio edrych yn broffesiynol ac amhersonol i gyd yn rhoi enw llawn, ond y rheswm ydi achos fod na gymaint o ffions tn nabod! Dyna fi di clirio hynna...)

Anonymous said...

Twrcwn = mwy nag un twrci!

Anonymous said...

Da iawn ar cwis fi ar Bebo Gruff! Fedrai'm rhoi neges yn ol i chdi am ryw reswm, so dwn'im sud gesdi fund ar profile fi a neud y cwis....tria adio fi fel ffrind a ella fedrai fund ar profile chdi wedyn. Sori, dwi'n gwbo bod hwn ddim byd i neud efo'r blog! Ma'r blog yn gret ddo, dwi'n checio'n aml, ond mae o bach yn depressing gweld y llefydd lyfli a'r 'whether' braf (ti'n cofio biol efo Mr Hobley?!!)!
Hwyl fawr.x

Anonymous said...

Ffion - dwi di siomi bo chdi ddim yn gwbod be di twrcon a chditha efo lefel A cymraeg ac yn dod o bentre gwledig Penmachno. Siom.

Anonymous said...

Diolch am esbonio bedi twrcwn!
On in meddwl mai rhyw enw am tramps neu slang hiliol am bobol yr ardal oedd o. O'n i bron a gofyn pam bod nhw di dwyn crisps a super noodles a ddim walat chdi.

Licio'r llunia newydd, dwi'n impressed bod y blog yn dal mor dda, 'swn i di colli mynadd erbyn wan.

Siarad efo chdi'n fuan.

P.S. 24 newydd allan!! :D