13/02/2007

Machlud amazing, Uluru a lot fawr o ddreifio!

Helo! Dwi'n trio techneg (ciin) Dan heddiw (gan bod fi'n jelys am y sylw gath o am y blog dwytha!!), sef sgwennu drafft o'r blog ar bapur gynta. Gadwch fi wbod os oes na wahaniath, achos os ddim, nai'm boddro eto - mynadd sgwennu efo llaw.

Eniwe, sori os nath Dan ddychryn chi efo'r blog dwytha - yndan, da ni dal yn fyw (er, mond tri chwartar ffor drw'r Outback yda ni, a'r chwartar ola di'r chwartar PERYG. (Jôc!)) Y diwrnod cynta, natha ni fwy neu lai dreifio non-stop am 24 awr. Afiach ddo, oedd na lwyth o anifeiliaid di marw ar ochor ffor. Os da chi'n eitha squeamish neu ar ganol buta, trowch i ffwr RWAN.

I'r rhei sick o'na chi sy'n dal i ddarllan, sbiwch afiach SLASH tait (...slash ffyni!):

!

!

A

F

I

A

C

H

!

!


Dim huna oedd highlight y diwrnod cynta ddo - oedd gweld yr haul yn machlud chydig bach gwell. Ma'n swnio'n cheesey, ond oedd o'n amazing. Nath o neud i Dan deimlo'n gynnas tu mewn. Fedra i'm disgrifio fo, felly dyma lunia (sy DDIM cystal â'r realiti):

Yr ail fora, natha ni fynd i weld Devil's Marbles, sef jyst casgliad o gerryg, a does na neb yn gwbod lle ma nw di dod o....Oedda nw'n eitha cwl.


O fana, dreif arall mawr i Alice Springs. O'n i di clywad petha da am y lle ma, so ma raid i fi ddeud gesh i'n siomi. Yn enwedig am bod rywun di torri fewn i'r car yn ystod yr UN NOSON natha ni aros yna! Gath na'm byd ei ddwyn, ond dyna ddigon o sôn am Alice Springs.

King's Canyon oedd nesa - natha ni ddringo fyny'r canyon ma a reit rownd yr ymyl. Oedd o'n waith calad yn y gwres, ond oedd gena ni hen ddigon o ddwr efo ni!! Peth arall pwysig (nesh i ddim prynu) oedd fly net, achos ma na bryfaid yn BOB MAN yma - ma raid i chi jysd derbyn bod nw am fynd fewn i ceg a llygid chi. Dyma James yn modelu'r fly net!


Dyma lun arall o James yn gneud rwbath PERYG sef sefyll ar y dibyn - o'n i methu sbio!

Y diwrnod wedyn, gatha ni fynd i weld Ayers Rock (neu Uluru, fel ma fod i gal ei nabod rwan) - oedd o reit weird gweld rwbath dwi di gweld gymaint o lunia o'na fo reit o flaen fi! Natha ni ddim dringo fo (ma'n amharchus i'r bobol leol SLASH da ni'n ddiog), ond atha ni i weld o yn y sunrise a'r sunset. Dyma gasgliad o'r llunia gora (sori ymlaen llaw am yr un llun anaddas yn y casgliad....!):

Syth ar ôl huna, natha ni bicio i weld yr Olgas, sef fatha mwy nag un o Ayers Rock wrth ymyl ei gilydd (ond llai enwog - weird). Erbyn hyn ddo, o'n i di gweld digon o gerryg coch, felly nesh i'm boddro mynd yn bellach na'r viewing point (sori), ond gena fi lun da o'r viewing point!

Oedd o i gyd reit amazing i ddeud y gwir. Dwnim os swn i'n dreifio miloedd o filltiroedd i weld nw eto, ond dwi'n rili balch bod ni di neud o fforma! Heno da ni'n aros mewn pentra bach sy'n enwog am fwyngloddio opal, a ma na ddarna o'r pentra (gan gynnwys hostel ni) wedi cal eu hadeiladu dan y ddaear am bod hi'n anioddefol o boeth yma! Od iawn. Dyma lun o'r holl mines eniwe:


A dyna ni! Da ni off i Adelaide fory, lle dwi'n (gobeithio) cyfarfod Dewi cefndar Dad. Cyn pen dim, fydda ni yn Melbourne yn chwilio am waith...!

O.N. Newydd edrych nôl, a ma'n edrych fel mai NI sy di hitio'r anifeiliaid drosodd - gai jysd pwysleisio mai FFEINDIO nw felma natha ni, a bod ni yn ERBYN creulondeb i anifeiliaid - ma'r llunia fyny ar y blog ma fel gwers pam ddylia chi DDIM gyrru'n wyllt drw'r Outback.

10 comments:

Anonymous said...

Waw, lluniau da Gruff! Dim angen Little Chef wrth deithio drwy'r Outback felly... Digon o gig ar gael...
Blog difyr fel arfer - dwi'm yn meddwl bod sgwennu o flaen llaw yn gwneud gwahaniaeth, canmol Dan oherwydd y novelty factor oedden ni! ;-)

Anonymous said...

haia gruff, Sori am fod yn anonymous, wedi naghofio password. Blog difyr iawn, afiach di'r anifeiliaid na! swn in deud mai ti di'r un yn y canol o'r tri noeth yna wrth sbio o tu ol.

Robin

Anonymous said...

Paid â phoeni Gruff, dyda ni ddim yn meddwl bo Dan yn well na chdi am flogio go iawn sdi, oedda ni gyd jesd isho canmol Dan (fel rhieni'n canmol plentyn bach) am acshyli sgwennu blog o'r diwadd a'i annog o i sgwennu mwy!
Dwi'n difaru sbio ar y llunia o'r anifeiliaid - afiach! Dwi ofn y llun cynta - mae o'n anfarth! Dwi'n falch nad chi nath eu lladd nhw ddo - ti'n gwbod mod i'n aelod brwd o'r RSPCA.
Y machlud yn edrych yn rili neis

Anonymous said...

Er bod Robin wedi comentio yn yr alban faint mor ffyni di'r ffaith bod fi, mam a dad yn comentio ar BOB blog - dwi methu helpu fy hun- ma raid i fi neud!!!

Cwl o blog - ella'r gora eto. Ffyni oedd tan lines y 3 noeth - oedda chdi ddim yn ddim un ohony nw nagoddachd? Chdi oedd y perv nath dynnu'r llun na ia!

Ffyni di'r graig anfarth - hwnna sy yn y ffilm Rescuers Down Under de! Ffyni.

Methu ffigro allan yn iawn be ydi'r anifail marw cynta, na be sy di digwydd i'w groen o, ond mae o'n AFIACH!XXX

Anonymous said...

Mari - buwch di'r anifail cynta! Ma na loads o bryfid arna fo, a ma'i ben o di twistio rownd - cyf.

Anonymous said...

Diolch am yr eglurhad! Hefyd, y llun o'r boi ar y dibyn yn debyg i Britney Spears yn y fidio - "I'm not a girl, not yet a woman!".

Anonymous said...

Fel, Mari,oni ddim yn siwr be odd y llun cynta na chwaith. Nes i actually troi mhen i drio gweithio'r peth allan ac yn y broses, dwi meddwl oni fy hun yn edrych fel buwch di marw...Da di'r blog unwaith eto Gruff!

Anonymous said...

hei - dim fi nath adal yn comment hoyw ei natur yn top!! rhywun yn smalio bod yn fi!
on in gwbod sa mari yn gadal comment eto!! chwara teg - llunia rili da gyno chi!! ma'r buwch di marw fatha'r un ar dop car jeremy clarkson os nath rhywun weld top gear wsos yma!

Anonymous said...

Rob - dwin falch mai dim chdi nath adal y comment afiach na!

Hefyd, gobeithio bod chdi'n excited - DWI DI NEWID LLIW Y CLOC ETO!!!!

Anonymous said...

Rob - dwin falch mai dim chdi nath adal y comment afiach na!

Hefyd, gobeithio bod chdi'n excited - DWI DI NEWID LLIW Y CLOC ETO!!!!