07/09/2006

Dau Gymro, mwnci ac eliffant

Ddoe oedd un o'r diwrnoda mwya rhyfedd dwi rioed di gal. Ar ol cyradd Bangkok tua 5, nath Dan a fi benderfynu jysd cal noson ddistaw a bwyd. Ond mewn un tafarn (lle oedd na fwnci bach yn yfad peint!) natha ni gyfarfod dau Gymro arall, oedd yn byw yma, a penderfynu gadal idda nw ddangos llefydd gora Bangkok i ni! Atha ni mewn tuk-tuk (y pedwar o'na ni!) i glwb nos, lle oedd na eliffant jysd yn digwydd cerdded pasho'r drws! Ni oedd yr unig bobol wyn yn y clwb, ac oedd pawb yn sbio. Fana oedda ni tan oria man y bora, a tua 7am nesh i endio fyny yn cyradd nol i'r hostel! Dyma lun o Dan a'r mwnci:


Dechra da! Gadal Bangkok bora fory, gan bod hi'n ofnadwy o clostroffobic yma, heb ddim awyr iach. Nai bostio eto yn fuan!

8 comments:

Anonymous said...

Methu coelio bo fi di methu chdi ar msn!! Nyts gweld enw chdi efo neges yn fflasho!

Swnio fatha bo chi di cal hwyl yn barod! Aroswch yn Bangkok am hirach efo'r hogia o Gymru de!

Sori dwi di ecsaitio drosta chi... edrych mlaen i ddilyn y blog am y 10 mis nesa xxx

Anonymous said...

Ie, sticiwch efo'r ddau Gymro am dipyn i gael dysgu'ch ffordd o gwmpas! (neu ella ddim, os ydech chi am gadw off y pop...) Pwy oedden nhw? O le oedden nhw'n dod?

Anonymous said...

Dau Gymro, mwnci ac eliffant - licio'r teitl keen hefyd, keep them coming!

Anonymous said...

Swnio'n andros o hwyl! Pawb yn cofio atoch. T-ra! x

Gruff Lovgreen said...

Dad, o Lanelli oedda nw'n dod, ond doedda nw ddim yn siarad Cymraeg.

Anonymous said...

Hawdi!
Ma'r mwnci'n ciwt! Ma'r boi sy'n gafael yn y mwnci'n sgeri. Ma'r lle'n swnio'n wyllt, gobeithio bo' chi'n cael hwyl.

O.N. Gruff - ma Trados yn well na Deja vu

Hefyd, dwi'n mynd allan efo'r prysgiaid heno (jaman - ma nw'n galw ni'n hunna go iawn)

Gruff Lovgreen said...

Haha Manon - Prysgiaid yn afiach! Falch gweld bod Trados yn well ddo.

Anonymous said...

sylw cin ofnadwy gan Manon, chware teg.