12/09/2006

Glaw, Na a Peeen!

Ma hi wedi bod yn benwsnos gwahanol iawn i'r arfar! Ar ol i fi sgwennu'r blog dydd Sadwrn, ath Dan a fi allan i'r Bazaar, sef casgliad o dafarndai. Oedd o reit od mai ni oedd yr unig bobol gwyn a pawb yn sbio arna ni. Gatha ni groeso gen pawb, a diwadd nos o'n i efo gang o bobol ifanc Thai mewn lle bwyd! Random go iawn.

Dydd Sul wedyn, natha ni jysd diogi yn ystod y dydd, ac i swper nath Dan gal y peth mwya afiach dwi di weld - pysgodyn wedi ei deep fryio oedd o, ac oedd o'n edrych fel bod nw literally di gollwng pysgodyn byw fewn i deep fat fryer! O'n i methu sbio, achos gesh i giggles, a ma pobol y lle yn ddrwg am sbio arna ni'n buta so o'n i'n teimlo'n rwwd braidd yn chwerthin!

Bora ddoe natha ni gychwyn am y lle nesa, sef Lampang, a oedd Dan di gadal i fi drefnu pob dim tro'ma, felly o'n i'n teimlo'r pressure braidd! Lwcus, natha ni gyradd yn iawn, ac atha ni allan yn y nos, wedi bwriadu cal noson ddistaw. Mewn un tafarn ddo, nath na ddau foi lleol, sef Na a Peeen(!), alw ni draw ata nw, ac wedyn mynd a ni i'r clwb nos mwya swreal dwi rioed di weld. Oedd o'n fawr, efo tua 500 o bobol yna, ac oedd na lwyfan fawr yn y ffrynt efo ryw ben draig metel mawr yn llenwi fo! Oedd na ryw ganwyr Thai yna hefyd, ond o'n i'n teimlo rhy dal i ddawnsio! Dyma lun o'r pedwar o'na ni (boi o Irac oedd yn tynu'r llun!):


Wrth fynd adra, oedd hi'n tresho bwrw. Ma hi'n ganol y rainy season, felly da ni'n cal cawodydd trwm ar adega random o'r dydd.

Mynd i Chiang Mai fory, ac am aros yna am tua wsnos gobeithio. Mae o fod yn lle da iawn. Da ni'n gobeithio sdopio mewn ryw le eliffantod ar y ffor. Gawn ni weld!!

Mari - Sud oedd Glyn ac Imogen?? Oedd Glyn yn cofio fi?! Haha!
Manon - Gobeithio bod chdi'n mwynhau yn Prysg! Di nw'n gweithio chdin galed?
Hyw - Sut hwyl ar y gwylia? Croeso adra (os dwi even yn gellu deud huna...)
Catrin - Yndw, dwi'n gwirioni darllan comments chi! Haha. Gna bob tro!

6 comments:

Anonymous said...

Lle ma'r llun?

Anonymous said...

Neshi e-bostio i ddeutha chdi sut bobl oedd Glyn ac Imogen Gruff! Oni'n gwbod sa chdi isho gwbod.

Da bo chi ddim efo twristiaid erill de - cael blas o'r wlad go iawn. Da chi di ffraeo efo'ch gilydd eto?!

Eshi i Chiang Mai! Ma'n neis - lot gwyrddach na Bangkok.

Ffyni bo na foi o'r enw Peeeen! So ti'n teimlo'n dal felly - oni'n meddwl fysa chdi - siwr bo chdi fatha cawr!

Ti di bod efo hogan Thai eto? Naddo siwr, achos ti'm yn ffansio nw nagwt? Meddwl bo nw gyd yn edrych run peth dwyt? Racist.

Keep on bloggin'!!xx

Anonymous said...

Ma'n swnio fel bod Thailand jesd am fod yn un sesh mawr i chi! Siwr bo chi'n cael hwyl.

Gruff - 'canwyr'? Y gwall mwya' afiach ers 'i fod yn onest...'!

Ma Prysg yn mynd yn iawn diolch. Ma nw'n ciin de. Ma na amserlen yn cael ei e-bostio i bawb bob dydd a ma enw pawb yn cael ei roi wrth ochr bob job a ti'n goro neud o erbyn hyn a hyn. Dipyn mwy sgeri na Cymen!Dwi'n gytud heb Trados fyd, mae o di bod yn sioc pa mor ddibynnol/diog oni.

Dwi'n licio'r blog lot

Anonymous said...

Jaman Manon, even ar ôl i chdi bwyntio'r gwall allan do'n i dal ddim yn gweld dim byd yn rong am dipyn! Wps. Dim job yn Prisg i fi!

Anonymous said...

Siwr bod y boi ma Dan yn gafal rowndo fo yn gweithio mewn Indian yn Aber!!

Ti'n gadal i Dan sgwennu yn y blogs ma hefyd Gruff, ta dio ddim yn cael?? Dwi'n siwr bod Dan ddim hefo chdi go iawn - dim ond cardbord cutout mewn llunia!!

P.S. Ma lwc fi a endaf rili wedi mynd hefo poker ers i chdi fynd i drafeilio!! Tud nol i ni gal dechra ennill eto!!

Anonymous said...

Faint mor racist di Robin - deud bod pobl Thai/Arabs/Bois Kebabs i gyd yn edrych run peth?

Dwi'n cytuno am Dan ddo - danisho blog gen Dan!!