14/09/2006

Fflag Cymru yn Amsterdam

Da ni yn Chiang Mai! Ar ol bod ar dren am ddwy awr drw ryw fath o jyngl, natha ni gyradd. Ma'n le rili da. Ma na lot i neud yma, ond yn wahanol i Bangkok, ma'n le eitha bach, felly ma'n hawdd ffeindio bob dim! A ma na lwyth o bobol wyn rownd, dipyn o shoc i ni erbyn rwan. Be sy'n ffyni ydi bod ni rwan yn cal mwy o shoc wrth weld pobol gwyn na phobol Thai! Ma na lot o ddynion hen gwyn efo genod ifanc Thai, sy'n eitha creepy SLASH tait.

Gesh i ginio lyfli ar ol cyradd - full English!! Dwi di neud reit dda hyd yn hyn, felly o'n i'n meddwl bod fi'n haeddu fo! Neithiwr atha ni i'r Night Bazaar, sef ryw farchnad masif yn ganol y dre, efo lot o betha i neud. Oedd na Irish pub yna, a oedd raid i fi fynd fewn! Mor rhyfadd gellu gofyn am beint wrth far eto, achos fama, nw sy'n dod ata chi bob tro. Doedd na ddim pyb Cymraeg yma, biti, ond atha ni i byb Lloegr (sori Dad!) a pyb Amsterdam a cwpwl o bybs lleol. Dwi di bod yn chwilio am fflag Cymru ers i ni gyradd, a neithiwr nesh i weld un am y tro cynta - yn pyb Amsterdam! Oedd o lot haws gellu pwyntio at y fflag pan oedd pobol yn gofyn lle oedda ni'n dod, achos does na'm lot yn gwbod am Gymru (mond un boi nath ddeud bod o'n sori i glywad am Diana!).


Yn y clwb nos wedyn, gesh i brofiad bizarre SLASH embarassing. Yn y toilet, oedd na ddau foi'n gweithio, fatha sy gena ni'n gwlad ni (e.e. Yoko's), a wrth i fi olchi dulo fi ar ol bod yn toilet, natha nw ddechra rhoi massage i fi. A dim massage ysgwydda normal, ond massage nyts lle oedda nw'n codi fi fyny yn yr awyr a betha! A oedd pobol yn pasho a sbio'n od! O'n i'n meddwl bod o am ddim, ond ar ol gorffen, oedd raid i fi dalu. So nesh i roi 20 baht (tua 30p!) i un o'na nw, ond oedd y boi arall isho hefyd, so resh i 20 baht idda fo hefyd. Oedda nw dal ddim yn edrych yn hapus. Wps!

Dwnim be da ni am neud heddiw, cerddad rownd dipyn i weld be sy ma mashwr. Ond dim massage arall!

O.N. Gwisgo crys Wrecsam fi heddiw, a'r hogan drws nesa i fi newydd ddeud bod hi'n dod o Langollen! Byd bach de!

Endaf - Haha, wrth gwrs bod y blog yn keen, be ti'n ddisgwl gena fi?! A paid a deud petha budur eto, ma teulu fi'n darllan y blog ma sdi - row.
Robin - Falch clywad bod chi'n methu fi am y rhesyma iawn(!) Dwi'n colli poker yn fawr, ac yn gorfod chwara fo ar ffon fi - sy'n profi i fi bod poker ddim yn hwyl heb bres go iawn!
Mari - Haha, cytuno - ma Robin yn racist. A dwi ddim yn sdopio Dan sgwennu blog - fo sy ddim efo mynadd!
Hyw - Da iawn, ti'n nabod fi'n well na Endaf, yn disgwl i'r blog fod yn keen! Ac yndi, ma enw chdi'n dod i fyny - keen ti, di seinio fyny am account blogger a bob dim! (a Endaf a Catrin)
Catrin - Na, dwi'n meddwl sa pawb yn Thailand yn sbio'n od arna chdi y cawr! Tait ddo, nesh i weld dynas tua literally 6'7" ddoe!! Bet oedd hi'n teimlo'n hiiiiwj.
Manon - Ddei di i arfar heb Trados yn ddigon buan dwi'n siwr! Dalier ati, i fod yn onest.

11 comments:

Anonymous said...

Dwi newydd chwerthin yn uchal wrth ddarllan am dy massage! Mashwr bo chdi mor embarrassed, swni isho crio!

Nath Jinj ddeud bo chdi online ddoe, a bo chi di cael sgwrs wael. Nath hi'm gofyn dim byd call i chdi a nath hi ddeud wbath fel bo fi'n mynd i CF1 wan do?! Oedda ni'n chwerthin. Ti ochr arall y byd yn cael gwbod bo fi di bod mewn practis CF1!

Oni'n meddwl amdana chdi yna fyd - gesha pa gân dani'n neud? Cliw:

'Wrth i chi gerdded lawr y stryd...

bwm bwm

'Ac wrth i chi agor drws eich car...'

gwich

'A hwyrach eich bod eisiau ychydig mwy o...'

sgrech

'Ond beth bynnag fydddwch chi'n ei wneud, cofiwch am

Y RHYTHM

Anonymous said...

Difyr unwaith eto Gruff.

Da iawn ti am ddeud wrth Endaf am olchi'i geg efo sebon.

O.N. Pam wyt ti'n sgwennu pethe fel "bizzare slash embarasing" yn lle "bizarre/embarasing"????

Anonymous said...

ti'm yn meddwl mai pigwyr pocedi oedd y ddau foi massage?
Ma isio bod yn ofalus does...

Anonymous said...

Dwi di chwerthin yn uchel am y massage fyd!! Jaman! A ffyni o keen di ail neges dad (uchod).

A cadwa 'mlaen i ddeud 'slash' yn lle defnyddio /. Mae o lot mwy ffyni. Ma angan oleia un slash yn bob blog!

Anonymous said...

Diolch Catrin (!)

Ma blog fi lot mwy diddorol na un Gruff. Dll.

Anonymous said...

Falch o glywed bod chi'n cal gymaint o hwyl allan yna -- heblaw am y massages random ella. Da iawn chdi am wisgo'r crys Wrecsam Gruff -- ma'n swnio fel bod o'n helpu chdi neud ffrindia newydd o leia!

Gyda llaw, ma hwn yn LOT mwy diddorol na blog cyfryngïaidd Mari. Faint mor sarcastic ydi paragraff ola Catrin fanna? hehe...

Anonymous said...

Peidiwch a pigo arna fi!!

"LOT mwy diddorol na blog cyfryngïaidd Mari"

Ti jyst yn cherw bo chdi heb gael llwyddiant ar y sgrin Gwil, ar ol i chdi gael dy wrthod am swydd cyflwynydd Bandit.

Anonymous said...

Hawdi, dwi newydd ddod yn nol o ngwilia, ag wedi bod yn gweithio yn galad IAWN yn y Cyngor Sir, felly rwan dwi'n cal amsar i ddilyn ych siwrna chi!!

Ma'n swnio'n laff, ag dwi diiiiiiipin yn jelys bod fi'n sdyc adra, a bod chi'n gal gneud petha cwl fel cal massage creisi gyn riw ddau foi, a bod y massage yna yn fargan - dim ond 20 baht (neshi LOL literally yn uchal iawn yn gwaith am y sdori yna - jiamanz) Dwi hefyd yn licio'r ffaith bod na bobol fyr yna, a bod chi rhy dal i ddawnsio, swni'r mijet yn ffitio fewn yn berffaith efo'r bobol bach thai.

Eniweis dwi'n mynd yn nol i weithio'n galad wan. Cofiwch ddal i blogio i fi gal wbath i ddarllan pam dwin bored yn gwaith.

O.N ma'n ffyni (ffyni os ti'n bored fel fi) os ti'n clicio ar "next blog" yn y gornal top ti'n mynd i blogs pobol erill, dwi newydd fod i blog riwin sy'n siarad tseini!Difir iawn!!

Anonymous said...

ma hwnna'n swnio fel blog huw ger i fi.

Anonymous said...

Ha ha! Dwin proud bod fin cal mensh yn y blog - teimlo bach yn enwog!

Mari-dwi ddim yn racist, ma siwr bod nhw yn meddwl bod chdi a fi yn edrach run fath hefyd dydyn!!

Ma lwc ddrwg fi yn cario mlaen hefo poker a dwi wedi colli ffon fi ers i chdi fynd gruff!!

Ma'r bobol mewn toilets yn afiach - cymryd mantais a wedyn disgwl pres!! Dwi ddim yn cal yr image o nhw yn codi chdi fyny chwaith!!

Caria mlaen hefo'r blogs diddorol plis...

Anonymous said...

Hello

[url=http://www.internetmosque.net ] Translations of the meaning of the Quran [/url]


"Why is the family so important to Muslims?"

The family is the foundation of Islamic society. The peace and security offered by a stable family unit is greatly valued, and seen as essential for the spiritual growth of its members. A harmonious social order is created by the existence of extended families; children are treasured, and rarely leave home until the time they marry.

For more details [url=http://www.internetmosque.net ]click her[/url]






|

All of us will die one day INCLUDING YOU.

so before you die you must find out where the HELL you are going too.

You must find out

who is our savior Jesus or ?

You may sleep tonight and never get up in the morning?

You may die today.

You may die within a week

You may die within a month

you may die within a year

you may die within the next ten years

one thing for sure

You will die

so find out how is our savior so that he may save you.

http://www.internetmosque.net/saviour/index.htm

http://www.internetmosque.net/songes/s/1.htm

http://www.internetmosque.net/songes/s/17.htm

http://www.internetmosque.net/

http://www.internetmosque.net/quran/quraneng/index.htm

http://www.internetmosque.net/audio...n_Yahya/1_w.htm

http://www.internetmosque.net/audio...f-Estes/1_w.htm

http://www.internetmosque.net/audio...ilips/1-1_w.htm