...Da ni yn Koh Tao ers dydd Llun, sef un o'r llefydd gora (a rhata) yn y byd i ddysgu scuba divio. Cwrs 4 diwrnod oedd o, ac oedd diwrnod 1 reit boring - gwers 2 awr mewn dosbarth, a cal gwaith adolygu cyn arholiad ar ddiwadd y cwrs! Do'n i'm yn disgwl sefyll arholiad arall mor fuan i ddeud y gwir, ond ma raid i fi gyfadda mai'r arholiad hawsa dwi rioed di gal oedd o (gen foi oedd yn gneud Ffilm a Theledu yn coleg)!
Ymlaen at y deifio ddo - mae o'n AMAZING. Y peth gora dwi rioed di neud, o bell ffor. Nath o gymyd dipyn i fi ddod i arfar efo anadlu'n normal dan y dwr, ond rwan mae o mor hawdd (er bod fi'n cal row weithia am iwsho gormod o aer - oedd raid i fi neud signal llaw keen heddiw i ddeud bod aer fi'n isal, tra oedd Dan yn panicio fwy na fi am y peth). Y diwrnod cynta o ddeifio, dim ond dysgu chydig o sgilia sylfaenol a chydig o ddeifio natha ni, ond nath Dan lwyddo i dwtchad y coral (sy'n ofnadwy o finiog), a oedd raid idda fo gal 5 stitch yn ei fys! Aw!
Heddiw, sef diwrnod ola'r cwrs, oedda ni'n nofio efo sharcod (oce, natha ni'm actually GWELD nw am bod y visibility'n wael, ond oedda nw yna - nath yr instructors weld nw). A natha ni fynd lawr tua 25 medr yn y dwr, oedd reit nyts. Os fysa chi di panicio, sa na'm chans i chi gyradd y lan mewn pryd! Ma Dan a fi am neud cwrs dau ddiwrnod o ddeifio Advanced hefyd, tra bod ni yma, a ma nw'n gaddo gawn ni nofio'n agosach efo siarcod troma - nai adal chi wbod sud oedd huna!
Eniwe, i orffan, jysd gair am y lle da ni'n aros. Y lle neisha da ni di bod yna fo (i fi, eniwe). Ynys fach iawn, efo traeth reit ar sdepan ein byngalo ni (literally). Ma'r môr mor gynnas hefyd, ond ar y funud ma deifio'n cymyd lot o'r dydd, a da ni'm rili isho mynd i fewn i'r môr syth ar ol bod yn deifio byth! Dyma ychydig o lunia o'r olygfa a ballu:


