19/07/2007

Dan mewn trwbwl efo'r heddlu

Buenos dias! Wel, da ni yn Mecsico ers bron i bythefnos rwan, felly o'n i'n meddwl sa´n hen bryd i fi 'sgwennu pwt (pwt - gair ciin). Y peth ydi, ma internet DA yn y wlad ma yn fwy prin nag oedd o yn Thailand, coeliwch neu beidio.

Eniwe, ymlaen â fi. Y stop cynta oedd Tijuana, sef y dre sy reit ar y bordor efo America. Nyts, o'n i heb rili disgwl hyn, ond ma'r gwahaniath rhwng y ddwy wlad i'w weld yn SYTH da chi'n croesi'r bordor. Be arall oedd yn shocking oedd cyn lleied o Saesneg oedd gen bobol, hyd yn oed mor agos i America! Nath Dan a fi sylwi reit sydyn fysa rhaid i ni ddysgu Sbaeneg ASAP! Dyma lunia o dai reit lliwgar yn Tijuana:

Oedd hi reit wylld yna ar noson allan. Dyma lle ma Americanwyr 18 oed yn dod, achos bod nw'n cal yfad yn gyfreithlon yma, a bod o mor agos! Oedd na bobol yn dod rownd efo poteli tequila, ac yn dal pen chi nôl a tywallt o lawr gyddfa chi!! Afiach.

Eniwe, dim ond dwy noson oedda ni yna am. Wedyn, oedd gena ni'r daith fys HIRA ERIOED, sef 26 awr. Maraid bod ni di arfar efo trafeilio erbyn rwan, achos doedd y daith ddim yn teimlo mor ddrwg â huna! Lawr ar hyd y coast oedda ni'n mynd, i le o'r enw Mazatlan. Un gair i ddisgrifio Mazatlan - POETH! As in aaafiach o humid, y gwaetha da ni di gal drw'r flwyddyn o bosib! Lle reit neis ddo, llawn resorts. Dim lot i neud yna rili, ond oedd na fachlud reit neis yna!

Ar y noson gynta, oedd na sdorm anfarth, ac oedd Dan (yn ei fwwd snap-happy) yn meddwl sa fo'n syniad da tynnu llunia o'r storm. Oedd o'n tynnu llwyth, a'r fflash yn mynd off ddigon amal i ddeffro fi. Peth nesa, oedd na fangio uchal ar ddrws y stafall, a Dan yn panicio a gweiddi "what do you want?!". Yr heddlu oedd yna, ac oedd raid i Dan fynd allan i sharad efo nw. Oedd na un efo machine gun! Doedd Dan ddim yn dalld be oedda nw'n ofyn iddo fo, ond lwcus nath na foi arall gyfieithu - oedda nw di gweld Dan yn y ffenasd, ac yn meddwl bod geno fo wn!! Oedda nw isho searchio'r sdafall a bob dim! Yn diwadd, nath y boi lwyddo i egluro mai dim ond tynnu llunia oedd Dan, ond nath o neud ni'n paranoid am weddill y noson! Afiach, reit sgeri rili!

Y stop nesa oedd Guadalajara, dinas reit enwog. Gan bod hi mor uchal fyny, oedd hi lot llai poethach yma, so oedd huna'n relief ar ôl tywydd Mazatlan. Dinas reit neis, enwog am y cathedral yma:

Doedd na'm lot o ddim byd i neud yna chwaith, felly dim straeon hwyl o fama sori! Dyma ddau lun arall ddo:

A dyna ni rili. Fel da chi'n gweld, ma'n swnio fel bod ni heb neud DIM BYD yma, ond o'n i'n gwbod sa fo'n amhosib topio blogs Las Vegas a San Francisco! A rwan, dwi'n pasho'r blog mlaen i Dan, sy di gaddo blogio am ei anturiaethau o fyny yn y Gogledd. Dwi, ar y llaw arall, am gal pythefnos o wylia ar draetha'r Pacific Coast. Ond fydda i nôl mewn pryd i sgwennu'r BLOG OLA UN! Peidiwch â'i golli fo, fydd o'n AMAZING (pressure).

Adios!

"Stay classy, San Diego"

Helo! Dwi´n iwsho´r dyfyniad yna yn y teitl, achos un o´r prif betha natha ni yn San Diego oedd watchad DVD Anchorman! Yn anffodus, dwi DDIM yn jocio. O wel, raid i fi drio llenwi´r blog ma rwsut ddo...

Iawn, natha ni gyradd San Diego ar y "4th of July", sef Independence Day i bawb twp sy´n darllan y blog. Oedda ni´n aros mewn lle o´r enw Banana Bungalow, oedd REIT ar y traeth, a gatha ni barti MAWR drw dydd (dechra o 9am!).

Oedd na farbeciw i ginio a swpar, a gatha ni lot o hwyl. Oedd na body paint rownd, ac o´n i´n teimlo reit artistic - dyma oedd y canlyniad:

Peidiwch â sbeitio´r ddraig iawn?! Mae o´n anoddach nag o´n i´n ddisgwl! Ma´r daffodil reit arty ddo (ond ffliwc oedd huna). Eniwe, tua 5pm, gatha ni nap bach, cyn dechra eto ar y dathlu yn y nos! Diwrnod da iawn, lot o hwyl.

A rwan dwi´n sdyc am betha i sgwennu am. Yn barod.

Ocê, dim ond dwy noson oedd gena ni yn y Banana Bungalow, felly ar y trydydd diwrnod, natha ni symud i Downtown San Diego, sy tua hannar awr i ffwr o´r lle traeth. Oedd o´n dda cal profi´r ddwy ochor i´r ddinas ddo. Dinas rili neis, eitha tebyg i Melbourne yn Awstralia o ran awyrgylch. Swn i´n hawdd di gellu aros am hirach.

Natha ni aros Downtown am 4 noson, ond heb neud fawr o ddim gwerth sôn amdana fo (heblaw watchad Anchorman). Wedyn, ar y pumed diwrnod, oedda ni´n teithio ar y tram am hannar awr i gyradd Mecsico...

04/07/2007

Deg lawr, un i fynd

Ma'n teimlo fel oes yn ôl rwan pan nesh i 'sgwennu "Un lawr, deg i fynd" nôl ym mis Hydref...

Eniwe, digon o huna. Dwi'n treatio chi i DDAU flog newydd llawn llunia heddiw, achos dwi'n gwbod pa mor depressing 'di dydd Merchar yn gwaith - cas ddiwrnod fi, achos da chi 'di gweithio dau ddiwrnod, ac yn gwbod bod na DRI arall cyn y penwsnos! Atgofion AFIACH!

Eniwe, digon o huna hefyd. Ymlaen â fi i sôn am Vegas reit sydyn, achos ma'r pres yn codi ar yr internet 'ma!

Gatha ni dipyn o shoc yn y maes awyr wrth landio rili, achos oedd na slot machines yn bob man! Oedd raid i ni gamblo chydig bach doedd?! Dyma Dan yn hannar cysgu wrth y machine:

Iawn, fedra i ddim rili rhoi trefn ar y gweddill, achos mae o i gyd yn blur. Ond nai jysd ddeud rwan mai Vegas di ella Y lle gora dwi di bod yn drw'r flwyddyn! Oedd o fel Disneyland i oedolion, ac oedda ni'n ddigon lwcus i fod yna am WSNOS LLAWN! Swn i di gellu aros mwy fyd, os sa'r banc yn gadal i fi!

Nai sôn chydig am y casinos gynta. Oedd bob un ar thema gwahanol - Paris, Venice, Rhufeinig, syrcas, Treasure Island, New York, bob dim fedrwch chi feddwl am! Dyma lunia o'r rhei gora:

A sbiwch ar hyn - ma hyd yn oed y McDonalds yn goleuo yn Vegas!

Ac un llun random (a blur) arall - nath hwn neud i ni'n dau feddwl am rywun o adra...!

Oedda nw'n lefydd amazing tu fewn - union fel da chi di weld yn y ffilms. Be oedd yn dda hefyd oedd bod y diodydd i gyd AM DDIM os oedda chi'n gamblo! Wrth gwrs, tric oedd hyn gen y casinos i llacio'r waled chydig, ond oedd o'n dric da! Hefyd, doedd na ddim clociau yn nunlla, achos does na'm byd byth yn gorffan yna. Ar ben hyn, ma nw'n fwriadol yn peidio hysbysebu'n glir lle ma'r exits, so sa chi ddigon hawdd yn gellu bod yn sdyc yna am ddyddia!

Y petha o'n i'n chwara fwya oedd Blackjack, slots, a'r roulette. A Keno. A chydig o poker. Ocê, BOB DIM! Iawn?! Nesh i gamblo LOT. Ond o'n i'n gweld o fel gweithgaredd mwy na dim, ac o'n i'n gwbod swn i ddim yn Vegas am amsar hir eto, so o'n isho mynd yn wyllt! Lwcus mewn ffor bod Dan Cyfrifol efo fi i neud siwr bod fi ddim yn colli'r plot. Os sa Hyw efo fi, dwi'n siwr sa ni'n dau di gorfod dal y fflait nesa adra! (Cyn i'r rhieni banicio, jôc oedd huna - does gen Hyw NA fi ddim problam gamblo.)

Peth arall o'n i ddim cweit yn barod am oedd y tymheredd. Oedda ni'n aros mewn lle efo pwll nofio diolch byth, achos oedd y tymheredd yn y 50au yn ystod y dydd! Afiach go iawn. Nesh i'n dda i mond llosgi un waith dwi'n meddwl! Hyd yn oed yn y nos, oedd hi dal yn y 30au, ond oedd y casinos i gyd efo air con lwcus. Paragraff yn sôn am y tywydd?! Sori am hyn!

Eniwe, natha ni dreulio un noson yn y casino Paris, a tu fewn oedd y to di cal ei beintio i edrych fel bod ni tu allan. Rhyfadd. Hefyd, oedd na Eiffel Tower yna! Hannar seis yr un go iawn ydi o, ond oedd na dal olygfeydd reit cwl o'r top:

Oedda nw'n gwerthu diodydd mewn gwydra souvenir siap Eiffel Tower fyd, so oedd raid i fi gal un. O'n i'n difaru ar ôl dipyn. Oedd na loads o ddiod yna fo, ac o'n i'n sdryglo go iawn i orffan o!

Ocê, digon o sôn am y casinos rwan. 'Mlaen at y petha diwylliedig. Natha ni fwcio trip "helicopter" i fynd dros y Grand Canyon a'r Hoover Dam, ond dim ond awyren oedd o'n diwadd. Slei, oedda nw di rhoi llun o helicopter ar y brochure, a dim sôn am awyren!!! Gesh i chydig o rage am y peth, ond dwi 'di calmio lawr wan. Dyma Dan yn ei set:

Oedd y flight yna yn aaaafiach. Dwi 'di bod mewn awyren fach unwaith o blaen efo Huw Gwynant yn beilot, a dwnim os mai Huw oedd yn beilot amazing neu os oedd hi'n rili gwyntog yn fama, ond oedda ni'n bympio rownd loads gormod. O'n i'n actually ystyried dal bys yn ôl i Vegas. O wel, nesh i dal lwyddo i gal llunia reit dda o'r Hoover Dam, Lake Mead a ballu:

Ar ôl glanio (ar ôl be oedd yn teimlo fel oes), gatha ni'n dreifio at y Grand Canyon. Reit impressive! Mae o'n hollol massive! Dyma lunia:

Os da chi'n tybad be sy di digwydd i Jaci, wel, nath na feiro fyrstio yn fy mhocad SLASH ei chartra, a di hi ddim yn molchi'n lan rwan. Trist.

Eniwe, wedyn oedd hi'n amsar fflio'n ôl. Oedd y flight nôl lot gwell, diolch byth - so ma raid mai'r tywydd oedd yn wael ar y ffor yna! Gesh i chydig o lunia fyd. Dwi'n gwbod bod yr un ola'n blur, ond y point oedd dangos i chi faint o ganol nunlla ydi Vegas - mae o i'w weld o bell i ffwr!

A dyna ni! Wsnos amazing iawn wir. O ia, a nesh i feddwl swn i'n gamblo'r quarter ola un ar y camera, i chi gal gweld clip ECSGLIWSIF o'na fi'n curo loads SLASH colli fy ngheinioga ola! Dyma be ddigwyddodd....!!!

Be, doedda chi ddim actually'n disgwl i fi ENNILL rwbath, oeddach?!

Hwyl efo hoywon (controfyrshal!)

Gobeithio bod fi di cal sylw chi efo'r teitl 'na! Gena fi lot o waith dal fyny i neud, a heddiw da chi'n ddigon lwcus i gal DAU flog - ia, DAU! Da de?! Eniwe, ymlaen â fi i sôn am San Francisco...

Oedd o'n le rili neis, a lot tebycach i ddinas normal, oedd yn golygu bod hi'n eitha posib cerddad rownd i gal gweld y lle - dwi'n deud "eitha posib", achos un peth annoying am y lle oedd bod na looooads o elltydd yna! Ma'r rhan fwya o'r lonydd ar slant, sy'n gneud hi reit anodd cerddad rownd! Atha ni ddringo fyny'r un mwya serth, a'r un mwya serth yn y byd*! Oedd o mor serth, oedd ceir methu dreifio fyny fo'n syth, felly oedd na lon zig-zag idda nw.

*Ella bod y datganiad yma yn anwir.

Oedd o reit cwl bod fyny mor uchal! Ond be oedd DDIM yn cwl oedd cerddad nôl lawr. Pam bod cerddad lawr wastad yn anoddach na cerddad fyny?! Mashwr neith chydig o ymarfar corff ganslo allan yr holl JYNC da ni'n futa yma....oce, ella ddim!

Y peth nesa da oedd i'w weld yn San Francisco oedd y Golden Gate Bridge. Ath Dan yn gynnar yn y bora i reidio beic drosda fo (sad (jôc)), ond oedd gena fi'm rili mynadd, so nesh i gymyd fy amsar a mynd draw 'na ar y bys, a'r plan oedd jysd cerddad drosta fo a cerddad nôl. O'n i'n meddwl sa fo ddigon hawdd tan i fi sylwi bod y bont yn 2 filltir o hyd!! Mynadd! A oedd o'n bell i gerddad o lle nath y bys dropio fi off fyd! Ond o leia gesh i lunia da o'r bont:

Ac o'r ddinas tu ôl i fi fyd:

Ac ar y ffor draw, oedd arwyddion felma'n sdopio fi rhag troi'n ôl!

Eniwe, dyma lun o'na fi wedi cyradd y pen arall. Lwcus bod fi'n gwisgo jaced mewn ffor, achos er bod fi'n BOILING pan gath o'i dynnu, at least does na'm sweat patches yn dangos drw'r jaced (a ma rhei pobol [Endaf] yn meddwl bod o'n hwyl sbotio sweat patches fi!):

Ar y ffor nôl nesh i sdopio mewn ryw barc neis i dynnu llunia. Jaman o ciin!

Lle arall esh i i weld y diwrnod yna oedd China Town - i chi gal gwbod, ma na China Town yn bob dinas dwi 'di bod yn, felly dwi'n teimlo mewn ffor bod fi di gweld digon o China fel bod ddim raid i fi fynd yna! Oedd yr un yma'n reit cwl ddo, so gesh i lunia i chi!

Be arall? Wel, ar ddiwrnod arall, esh i i dynnu llun o'r stryd o dai enwog yma. Ma nw di cal eu defnyddio mewn lot o ffilms apparently, ac i fi ma nw'n edrych reit Mrs Doubtfire-aidd. A ma'n shot cwl efo'r ddinas yn y cefndir.

Hefyd, un noson, o'n i ddigon lwcus i weld loads o selebs ar y red carpet mewn premiere!!!!!

....Ocê, dwi'n cyfadda, di nw ddim yn selebs go iawn. Esh i i ryw wax museum, oedd reit crap rili. Fedrwch chi gesho pwy di hannar hein?!

A ma'r un yma jysd yn sbwci!

A ma HWN jysd yn dod ag atgofion drwg yn ôl (SLASH oedd masg fi loads gwell):

So dyna be natha ni yn ystod yr wsnos, ac ar y penwsnos, atha ni i Alcatraz, sef y jêl enwog yn ganol y môr. Fama oedd pobol fel Al Capone a....pobol ddrwg erill yn cal eu cadw. Dim ond 3 person nath erioed ddenig, a gafo nw byth eu ffeindio chwaith! (Ond ma'r jêl yn licio cymyd bod nw di marw yn y môr wrth drio denig!). Dyma chydig o lunia gesh i o'r lle.

Sbiwch tait o fach oedd y celloedd ta!

A dyma sud ma'r ddinas yn edrych o Alcatraz:

Yn digwydd bod, ar y wicend oedda ni yna, oedd hi'n Gay Pride weekend, felly gafo ni joinio yn y dathliada(!) - oedd na fel ryw mini Sdeddfod ar y dydd Sadwrn, efo lot o sdondina random SLASH jaman. Hwn oedd un gora fi a Dan ddo:

A dyma lun o Dan yn modelu'r sdicer!

Oedd na ryw ddynas yn mynd rownd yn dangos y sein yma i bawb fyd! (Ma'r blog yma all of a sudden di codi o rating PG i rating 12).

Ac oedd na lwyth o gymeriada od rownd y lle:

Oedd na ddau fascot hoyw yn cerddad rownd fyd - cyd-ddigwyddiad ydi UNRYW debygrwydd i Dan a fi ddo! (Heblaw am y six-pack gena "fi" ddo..!):

Y nos Sadwrn, atha ni i ryw house party at ryw bobol oedda ni di cyfarfod mewn bar yn ystod yr wsnos, wedyn ath un o'r hogia fynd a ni i'r ardal hoyw yn y dre i gal profi'r peth yn llawn! Nyts o le, y stryd yn hollol llawn efo bob math o bobol. Nath Dan neud ffrind efo "Sister Nora Torious":

Ond oedd o ddim yn hapus i weld bod gen Nora ffrind yn barod:

Dwi'n chwerthin wan wrth feddwl nôl am y "ddwy"! Haha!

Eniwe, ar y dydd Sul oedd y parade, a oedd hwna reit ffyni hefyd! Dyma fideo o Dan yn mwynhau!

A dyma chydig o lunia o'r cymeriada oedd yn cymyd rhan yn y parade:

Sbiwch ar y llun yma ta. Float llawn o drag queens dio fod, ond fedrwch chi sbotio'r un person sy heb neud DIM effort, a sy jysd yn edrych fel Michael Moore mewn sgert a lipstick?!

Natha chi sbotio fo? Nai neud o'n haws i chi:

At least gwena, ti fod yn hapus!

Ffyni iawn oedd yr holl wicend! A doedd gena ni ddim amsar i gal ein gwynt yn ôl rili, achos y bora wedyn oedda ni'n fflio i Las Vegas....