04/07/2007

Hwyl efo hoywon (controfyrshal!)

Gobeithio bod fi di cal sylw chi efo'r teitl 'na! Gena fi lot o waith dal fyny i neud, a heddiw da chi'n ddigon lwcus i gal DAU flog - ia, DAU! Da de?! Eniwe, ymlaen â fi i sôn am San Francisco...

Oedd o'n le rili neis, a lot tebycach i ddinas normal, oedd yn golygu bod hi'n eitha posib cerddad rownd i gal gweld y lle - dwi'n deud "eitha posib", achos un peth annoying am y lle oedd bod na looooads o elltydd yna! Ma'r rhan fwya o'r lonydd ar slant, sy'n gneud hi reit anodd cerddad rownd! Atha ni ddringo fyny'r un mwya serth, a'r un mwya serth yn y byd*! Oedd o mor serth, oedd ceir methu dreifio fyny fo'n syth, felly oedd na lon zig-zag idda nw.

*Ella bod y datganiad yma yn anwir.

Oedd o reit cwl bod fyny mor uchal! Ond be oedd DDIM yn cwl oedd cerddad nôl lawr. Pam bod cerddad lawr wastad yn anoddach na cerddad fyny?! Mashwr neith chydig o ymarfar corff ganslo allan yr holl JYNC da ni'n futa yma....oce, ella ddim!

Y peth nesa da oedd i'w weld yn San Francisco oedd y Golden Gate Bridge. Ath Dan yn gynnar yn y bora i reidio beic drosda fo (sad (jôc)), ond oedd gena fi'm rili mynadd, so nesh i gymyd fy amsar a mynd draw 'na ar y bys, a'r plan oedd jysd cerddad drosta fo a cerddad nôl. O'n i'n meddwl sa fo ddigon hawdd tan i fi sylwi bod y bont yn 2 filltir o hyd!! Mynadd! A oedd o'n bell i gerddad o lle nath y bys dropio fi off fyd! Ond o leia gesh i lunia da o'r bont:

Ac o'r ddinas tu ôl i fi fyd:

Ac ar y ffor draw, oedd arwyddion felma'n sdopio fi rhag troi'n ôl!

Eniwe, dyma lun o'na fi wedi cyradd y pen arall. Lwcus bod fi'n gwisgo jaced mewn ffor, achos er bod fi'n BOILING pan gath o'i dynnu, at least does na'm sweat patches yn dangos drw'r jaced (a ma rhei pobol [Endaf] yn meddwl bod o'n hwyl sbotio sweat patches fi!):

Ar y ffor nôl nesh i sdopio mewn ryw barc neis i dynnu llunia. Jaman o ciin!

Lle arall esh i i weld y diwrnod yna oedd China Town - i chi gal gwbod, ma na China Town yn bob dinas dwi 'di bod yn, felly dwi'n teimlo mewn ffor bod fi di gweld digon o China fel bod ddim raid i fi fynd yna! Oedd yr un yma'n reit cwl ddo, so gesh i lunia i chi!

Be arall? Wel, ar ddiwrnod arall, esh i i dynnu llun o'r stryd o dai enwog yma. Ma nw di cal eu defnyddio mewn lot o ffilms apparently, ac i fi ma nw'n edrych reit Mrs Doubtfire-aidd. A ma'n shot cwl efo'r ddinas yn y cefndir.

Hefyd, un noson, o'n i ddigon lwcus i weld loads o selebs ar y red carpet mewn premiere!!!!!

....Ocê, dwi'n cyfadda, di nw ddim yn selebs go iawn. Esh i i ryw wax museum, oedd reit crap rili. Fedrwch chi gesho pwy di hannar hein?!

A ma'r un yma jysd yn sbwci!

A ma HWN jysd yn dod ag atgofion drwg yn ôl (SLASH oedd masg fi loads gwell):

So dyna be natha ni yn ystod yr wsnos, ac ar y penwsnos, atha ni i Alcatraz, sef y jêl enwog yn ganol y môr. Fama oedd pobol fel Al Capone a....pobol ddrwg erill yn cal eu cadw. Dim ond 3 person nath erioed ddenig, a gafo nw byth eu ffeindio chwaith! (Ond ma'r jêl yn licio cymyd bod nw di marw yn y môr wrth drio denig!). Dyma chydig o lunia gesh i o'r lle.

Sbiwch tait o fach oedd y celloedd ta!

A dyma sud ma'r ddinas yn edrych o Alcatraz:

Yn digwydd bod, ar y wicend oedda ni yna, oedd hi'n Gay Pride weekend, felly gafo ni joinio yn y dathliada(!) - oedd na fel ryw mini Sdeddfod ar y dydd Sadwrn, efo lot o sdondina random SLASH jaman. Hwn oedd un gora fi a Dan ddo:

A dyma lun o Dan yn modelu'r sdicer!

Oedd na ryw ddynas yn mynd rownd yn dangos y sein yma i bawb fyd! (Ma'r blog yma all of a sudden di codi o rating PG i rating 12).

Ac oedd na lwyth o gymeriada od rownd y lle:

Oedd na ddau fascot hoyw yn cerddad rownd fyd - cyd-ddigwyddiad ydi UNRYW debygrwydd i Dan a fi ddo! (Heblaw am y six-pack gena "fi" ddo..!):

Y nos Sadwrn, atha ni i ryw house party at ryw bobol oedda ni di cyfarfod mewn bar yn ystod yr wsnos, wedyn ath un o'r hogia fynd a ni i'r ardal hoyw yn y dre i gal profi'r peth yn llawn! Nyts o le, y stryd yn hollol llawn efo bob math o bobol. Nath Dan neud ffrind efo "Sister Nora Torious":

Ond oedd o ddim yn hapus i weld bod gen Nora ffrind yn barod:

Dwi'n chwerthin wan wrth feddwl nôl am y "ddwy"! Haha!

Eniwe, ar y dydd Sul oedd y parade, a oedd hwna reit ffyni hefyd! Dyma fideo o Dan yn mwynhau!

A dyma chydig o lunia o'r cymeriada oedd yn cymyd rhan yn y parade:

Sbiwch ar y llun yma ta. Float llawn o drag queens dio fod, ond fedrwch chi sbotio'r un person sy heb neud DIM effort, a sy jysd yn edrych fel Michael Moore mewn sgert a lipstick?!

Natha chi sbotio fo? Nai neud o'n haws i chi:

At least gwena, ti fod yn hapus!

Ffyni iawn oedd yr holl wicend! A doedd gena ni ddim amsar i gal ein gwynt yn ôl rili, achos y bora wedyn oedda ni'n fflio i Las Vegas....

12 comments:

Anonymous said...

Gwerth aros amdano fo! Llunie gret.

Anonymous said...

Dwy ffilm bydd raid i ti weld rwan - Papillon (efo Steve McQueen)
a Bird Man of Alcatraz.
Y ddwy yn sôn am garcharorion yn dianc o Alcatraz.

Anonymous said...

blog da iawn arall gruff. ia sori am spotio'r holl sweatpatches. ma'r boi efo t-shirt coch yn remeindio fi o fred downies chydig am reswm weladwy iawn

Endaf

Anonymous said...

Dwi'n falch bod y blog yn ôl. Neshi checio fo bora ddoe a doedd na'm byd yma ond geshi negas heddiw yn deud bo chi'n ôl!
Ti'n gwbod be nath neud i fi chwerthin lot? Y ffaith bo chdi wedi cymharu'r gay parade/festival i'r steddfod! Yn enwedig ar ôl gweld yr holl lunia, neshi chwerthin yn uchal!
Neshi chwerthin yn uchal hefyd efo'r Diana gwyr - AFIACH o sgeri!
Llunia da - dwi am fynd i sbio ar y blog arall wan.
Sori bod y comment yma mor hir!

Anonymous said...

hwn di'r blog mwya sgeri erioed!! afiach o parade a pobol sgeri wax...byth isho gweld llunia yma eto!

Anonymous said...

O bosib, y blog mwya ffyni hyd yma! X

Anonymous said...

Blog rili ffyni! Dwi'n gwbo mod i di deud hynna wrtha chdi ar MSN Gruff ond dwim isho edrach yn sych yn fama a mynd yn syth i'r pwynt. Dwi'n meddwl bo fi'n nabod rhan fwya'r selebs cwyr, ond pwy di'r boi sy jysd yn edrach fatha dyn normal mewn siwt a crys ffrils?! A pwy di'r hogan frown efo sort of shôl di neud allan o tchaens? ('chains', 'lly)

Anonymous said...

Haha Jim Carrey di'r dyn efo pose camp (am ddim rheswm), a Beyonce di'r un frown sy'n edrych fel slag (tait).

Anonymous said...

A pwy di'r ddynes uwchben Jim Carrey?

Anonymous said...

Reese Witherspoon....!!!

Anonymous said...

girls [url=http://pornushi.ru/english-version/young-girls-pussys/doc_957.html]peperonity xxx mallu video[/url]

Anonymous said...

nolojegiogy
[url=http://healthplusrx.com/malabsorption-syndrome]malabsorption syndrome[/url]
shedFulse