25/06/2007

LA - Lle Anferth, Llety Actorion,...dwi'n sdyc

Sori am drio diddori'n hun efo'r teitl. A gneud job wael o'ni run pryd. Eniwe, dim llunia ar y blog yma yn anffodus, achos oedd camra fi'n fflat drw'r wsnos, ond ma gen Dan lunia, a pan neith o losgi nw ar CD, nai roi llunia fyny. Ond yn y cyfamser nai gadw fo'n short & sweet - fydd blog San Francisco fyny mewn cwpwl o ddiwrnoda eniwe, a ma hwna werth aros amdana fo...!!!

Eniwe, ymlaen a ni. Ocê, so natha ni gyradd LA ar y nos Lun, a gneud dim byd noson gynta. Wedyn yr ail ddiwrnod, oedda ni di planio mynd am dro rownd i gal ein bearings. Yn fuan iawn natha ni sylwi bod hi'n amhosib "mynd am dro" rownd LA, achos ma'r lle MOR masif a spread out, yn wahanol i'r rhan fwya o ddinasoedd dwi di bod yn. So ma angan planio bob diwrnod allan, a dal bys i wahanol lefydd. Y peth cynta natha ni oedd mynd fyny i Hollywood a gweld y Walk of Fame, a Sunset Boulevard. Tra oedda ni yna, gatha ni gynnig tocyna am ddim i fynd i weld rhaglen deledu David Spade (y comedian) yn cal ei ffilmio y noson yna, so atha ni! Profiad reit cwl bod yn ganol cynulleidfa deledu llawn Americanwyr - ma nw reit frwdfrydig efo bob dim i ddeud y lleia! Oedd Dan a fi reit embarrassed, ond oedd o'n raglan dda.

Be arall? Wel, y diwrnod wedyn, atha ni i'r traeth (fatha bod ni heb gal digon o draetha yn Fiji!). Oedd y traeth yma'n enwog, yr un sy yn y ffilmia i gyd efo pobol random yn roller-skatio ar y pafin, a llwyth o sdondina rownd. Oedd o'n typical traeth sa chi'n weld ar Baywatch - traeth rili llydan, a tywod rili melyn, dim gwyn fel da ni di arfar ei weld erbyn rwan.

Reit dwi'n cal traffarth cofio trefn petha rwan, so ella bod y canlynol ddim mewn trefn gronolegol...

Diwrnod arall atha ni ar tour i weld tai'r holl selebs. Cwl IAWN! Gynta atha ni i gal tynnu llun wrth y sein Hollywood, a wedyn mynd rownd Bel Air a Beverly Hills a gweld y tai. Oedda ni'n teimlo fel stalkers sad braidd, ond ma raid gneud o! Y tai gora oedd Leonardo DiCaprio, Meg Ryan, John Travolta, Matt LeBlanc, a Jennifer Lopez a'i gwr. Oedd ty Jack Nicholson yn afiach, ond oedd o'n symud allan yn fuan. Tai rili posh rownd fana ddo, mewn lle riiili neis o'r dre.

Dwi'n trio meddwl be arall o werth natha ni? O ia, atha ni i weld ffilm mewn sinema enwog (Knocked Up - riiili da, ewch i weld o), a oedd o'n sinema superb - llun perffaith! Ma cynulleidfaoedd America yn jaman mewn sinema ddo, yn clapio ar adega random a cheerio. Annoying braidd!

Iawn, y noson ola - natha ni benderfynu aros am y nos Sadwrn er mwyn mynd allan i'r Sunset Strip, lle ma'r holl selebs yn mynd, yn y gobaith o weld rywun enwog. Oedd na hogan o Gymru efo ni, a hogan o Loegr, ac oedda nw di gneud dipyn o effort, yn gwisgo ffrogia reit posh, oedd yn lwcus i ni, achos er bod gena ni ddim reservation, gatha ni'n gadal fewn i Sky Bar, sef y bar mwya ecsgliwsif yn LA! (I bawb sy efo diddordeb, fama ddoth Britney am sesh ar ôl shafio ei phen). Gesh i shoc wrth gerddad fewn - oedd o'n amaaaaazing! Oedd na ddim to i'r lle, felly oedd o technically tu allan (ond mi oedd na walia), ac oedd na bwll nofio mawr yn ganol y bar. Ac oedd na ffenestri o'r llawr reit fyny yn edrych dros y ddinas. View amazing, a'r bar mwya posh dwi rioed di bod yn! Oedd y staff yn trin ni fel selebs! Oedd hi reit anodd sbotio pobol enwog ddo, achos a) oedda ni ddim isho edrych yn sad a risgio cal ein taflu allan, a b) oedd PAWB yna yn edrych fel sa nw'n gellu bod yn enwog! Ond yn diwadd, nath yr hogan o Loegr sbotio Rachel Hunter (a mynd ati i ofyn am lun efo hi! Jaman, oedd gena fi ddim gyts), so o leia natha ni weld seleb yn LA.

Iawn, dyna ni rili. Sori bod y blog ma di bod chydig hirach nag o'n i di fwriadu. Da chisho gwbod bob dim ddo does?

O ia, un nodyn i orffan. O'n i'n teimlo'n rili euog am beidio buta digon o fwyd Thai yn Thailand, felly dwi'n gneud fyny am huna rwan drw fod yn riiili diwylliedig a buta bwyd Americanaidd bob cyfla dwi'n gal. Sef lot o McDonald's a jync tebyg. Dwi'n ffeindio fo'n rili anodd....!!

Blog GWELL efo llunia DA yn FUAN! SORI am y capitals!!

10 comments:

Anonymous said...

yes fi di cynta eto! falch o weld dy fod di yn ymrwymo dy hun yn y diwylliant americanaidd hefo'r 'celeb spotting' a buta mcdonalds! rachel hunter ydi 'Stacey's Mom' ia????

Anonymous said...

Stacey's mom has got it going on! Gruff stopia ymddiheuro yn dy blog am:
1) fod rhy hir
2) dim llunia
3) fod o ddim mewn trefn gronolegol
4) defnyddio CAPS lock

Dani gyd wrth ein boddau'n clywad yr hanas, mewn pa bynnag drefn, efo neu heb lunia, mewn Caps lock neu beidio - a'r hira y gora!

(O.N Dim row ydi hwn).

Anonymous said...

Ia, Stacey's Mom Robin - da ia! Sori am huna Mari, dwi jysd wasdad yn paranoid bod pobol yn meddwl bod o'n boring os dio'n hir a heb lunia. Dwi'n gwbod sud dwi pan dwi'n derbyn group e-mail yn son am drafyls pobol - sganio!

Anonymous said...

englyn:

hollywood sydd yn l.a. - y mae
ymhell o zimbabwe.
yn gaer lle caiff dynion ge
oscars am ffilmiau risqué.

Anonymous said...

Dwi di gweld yr englyn yna o blaen Dad - showoff!! PEN!

(Newydd feddwl mai ella ddim chdi nath sgwennu fo, ond even os ddim, ti dal yn brolio dy ffrindia)

Anonymous said...

ma stacey's mom yn HOT!! licio'r englyn lot - di gneud i fi chwerthin yn gwaith!

di rachel hunter ddim wedi priodi rhywun enwog/merch i rhywun enwog??

Anonymous said...

da iawn ti'n mentro bwyta'r bwyd brodorol. dwi'n falch iawn ohonat ti

Anonymous said...

Do oedd hi di priodi Rod Stewart, a wedyn oedd hi'n mynd efo Robbie Williams am dipyn oedd.

Anonymous said...

Nes i ddim darllan y blog ma, doedd na ddim llunia.

Anonymous said...

Ti'n ddigon hen i ddarllen llyfrau heb luniau rwan gwil.