04/07/2007

Deg lawr, un i fynd

Ma'n teimlo fel oes yn ôl rwan pan nesh i 'sgwennu "Un lawr, deg i fynd" nôl ym mis Hydref...

Eniwe, digon o huna. Dwi'n treatio chi i DDAU flog newydd llawn llunia heddiw, achos dwi'n gwbod pa mor depressing 'di dydd Merchar yn gwaith - cas ddiwrnod fi, achos da chi 'di gweithio dau ddiwrnod, ac yn gwbod bod na DRI arall cyn y penwsnos! Atgofion AFIACH!

Eniwe, digon o huna hefyd. Ymlaen â fi i sôn am Vegas reit sydyn, achos ma'r pres yn codi ar yr internet 'ma!

Gatha ni dipyn o shoc yn y maes awyr wrth landio rili, achos oedd na slot machines yn bob man! Oedd raid i ni gamblo chydig bach doedd?! Dyma Dan yn hannar cysgu wrth y machine:

Iawn, fedra i ddim rili rhoi trefn ar y gweddill, achos mae o i gyd yn blur. Ond nai jysd ddeud rwan mai Vegas di ella Y lle gora dwi di bod yn drw'r flwyddyn! Oedd o fel Disneyland i oedolion, ac oedda ni'n ddigon lwcus i fod yna am WSNOS LLAWN! Swn i di gellu aros mwy fyd, os sa'r banc yn gadal i fi!

Nai sôn chydig am y casinos gynta. Oedd bob un ar thema gwahanol - Paris, Venice, Rhufeinig, syrcas, Treasure Island, New York, bob dim fedrwch chi feddwl am! Dyma lunia o'r rhei gora:

A sbiwch ar hyn - ma hyd yn oed y McDonalds yn goleuo yn Vegas!

Ac un llun random (a blur) arall - nath hwn neud i ni'n dau feddwl am rywun o adra...!

Oedda nw'n lefydd amazing tu fewn - union fel da chi di weld yn y ffilms. Be oedd yn dda hefyd oedd bod y diodydd i gyd AM DDIM os oedda chi'n gamblo! Wrth gwrs, tric oedd hyn gen y casinos i llacio'r waled chydig, ond oedd o'n dric da! Hefyd, doedd na ddim clociau yn nunlla, achos does na'm byd byth yn gorffan yna. Ar ben hyn, ma nw'n fwriadol yn peidio hysbysebu'n glir lle ma'r exits, so sa chi ddigon hawdd yn gellu bod yn sdyc yna am ddyddia!

Y petha o'n i'n chwara fwya oedd Blackjack, slots, a'r roulette. A Keno. A chydig o poker. Ocê, BOB DIM! Iawn?! Nesh i gamblo LOT. Ond o'n i'n gweld o fel gweithgaredd mwy na dim, ac o'n i'n gwbod swn i ddim yn Vegas am amsar hir eto, so o'n isho mynd yn wyllt! Lwcus mewn ffor bod Dan Cyfrifol efo fi i neud siwr bod fi ddim yn colli'r plot. Os sa Hyw efo fi, dwi'n siwr sa ni'n dau di gorfod dal y fflait nesa adra! (Cyn i'r rhieni banicio, jôc oedd huna - does gen Hyw NA fi ddim problam gamblo.)

Peth arall o'n i ddim cweit yn barod am oedd y tymheredd. Oedda ni'n aros mewn lle efo pwll nofio diolch byth, achos oedd y tymheredd yn y 50au yn ystod y dydd! Afiach go iawn. Nesh i'n dda i mond llosgi un waith dwi'n meddwl! Hyd yn oed yn y nos, oedd hi dal yn y 30au, ond oedd y casinos i gyd efo air con lwcus. Paragraff yn sôn am y tywydd?! Sori am hyn!

Eniwe, natha ni dreulio un noson yn y casino Paris, a tu fewn oedd y to di cal ei beintio i edrych fel bod ni tu allan. Rhyfadd. Hefyd, oedd na Eiffel Tower yna! Hannar seis yr un go iawn ydi o, ond oedd na dal olygfeydd reit cwl o'r top:

Oedda nw'n gwerthu diodydd mewn gwydra souvenir siap Eiffel Tower fyd, so oedd raid i fi gal un. O'n i'n difaru ar ôl dipyn. Oedd na loads o ddiod yna fo, ac o'n i'n sdryglo go iawn i orffan o!

Ocê, digon o sôn am y casinos rwan. 'Mlaen at y petha diwylliedig. Natha ni fwcio trip "helicopter" i fynd dros y Grand Canyon a'r Hoover Dam, ond dim ond awyren oedd o'n diwadd. Slei, oedda nw di rhoi llun o helicopter ar y brochure, a dim sôn am awyren!!! Gesh i chydig o rage am y peth, ond dwi 'di calmio lawr wan. Dyma Dan yn ei set:

Oedd y flight yna yn aaaafiach. Dwi 'di bod mewn awyren fach unwaith o blaen efo Huw Gwynant yn beilot, a dwnim os mai Huw oedd yn beilot amazing neu os oedd hi'n rili gwyntog yn fama, ond oedda ni'n bympio rownd loads gormod. O'n i'n actually ystyried dal bys yn ôl i Vegas. O wel, nesh i dal lwyddo i gal llunia reit dda o'r Hoover Dam, Lake Mead a ballu:

Ar ôl glanio (ar ôl be oedd yn teimlo fel oes), gatha ni'n dreifio at y Grand Canyon. Reit impressive! Mae o'n hollol massive! Dyma lunia:

Os da chi'n tybad be sy di digwydd i Jaci, wel, nath na feiro fyrstio yn fy mhocad SLASH ei chartra, a di hi ddim yn molchi'n lan rwan. Trist.

Eniwe, wedyn oedd hi'n amsar fflio'n ôl. Oedd y flight nôl lot gwell, diolch byth - so ma raid mai'r tywydd oedd yn wael ar y ffor yna! Gesh i chydig o lunia fyd. Dwi'n gwbod bod yr un ola'n blur, ond y point oedd dangos i chi faint o ganol nunlla ydi Vegas - mae o i'w weld o bell i ffwr!

A dyna ni! Wsnos amazing iawn wir. O ia, a nesh i feddwl swn i'n gamblo'r quarter ola un ar y camera, i chi gal gweld clip ECSGLIWSIF o'na fi'n curo loads SLASH colli fy ngheinioga ola! Dyma be ddigwyddodd....!!!

Be, doedda chi ddim actually'n disgwl i fi ENNILL rwbath, oeddach?!

11 comments:

Anonymous said...

Wedi curo Manon A Robin ar y 'keen stakes'. Da dw i! 2 flog ffantastic. Poeni braidd am yr addiction....

Anonymous said...

Dwi'n poeni am y mochyn bach. Neu mi o'n i tan ges i'r eglurhad am yr olwg arno fo.

Anonymous said...

Cytuno - oni'n meddwl bod yr hen Jaci wedi gweld ei ddyddia gwell tan i chdi egluro be ddigwyddodd, graduras.
Dwi reit gytud bod fy nhrac record wedi slacio. Dwi'n benderfynol o fod y cynta i adael negas ar y blog nesa!
Llunia rili da yn y ddau flog, a ma Vegas yn edrych mor cŵl, erioed wedi apelio o'r blaen ond ar ôl gweld y blog dwi rili isho mynd!

Anonymous said...

Las Vegas yn edrach yn cool!

Yr argae yna sy'n ffilm james bond goldeneye?

Anonymous said...

Dwnim Rob, oedd Dan yn meddwl ella mai, hwna di'r dam mwya yn y byd, a'r peth man-made tryma ar y byd fyd! Diddorol!

Hefyd, Manon - siom gena chdi fana. Dwi'm yn licio sbotio camgymeriada gramadegol fel arfar(!), ond gan bod chdi di bod yn gneud i fi'n ddiweddar...

"...bod yr hen Jaci wedi gweld ei ddyddia gwell"

Rwan, sa hyn yn EITHA derbyniol os fysa chdi'n bacio fo fyny drw ddeud bod chdi'n meddwl mai hogyn oedd Jaci, ond ma hyn yn mynd yn dy erbyn di:

"...graduras". Jaman!

Anonymous said...

Jaman i manon yn wir.

Dwi'n meddwl mai wedi ei chleisio ma Jaci druan, a dwi am reportio chi i'r RSPCA (Joc shit?).

Llunia cwl a blog DA X

Anonymous said...

dwi di anghofio canmol y ddau flog - big hand - da iawn

Anonymous said...

Swni'n licio meddwl mai camdeipio di hunna i fod yn onest, neshi bendroni am dipyn os mai hogyn neu hogan oedd Jaci. Jaci yn enw hogan dwi'n meddwl ond eto oni'n meddwl mai hogyn oedd Jaci Soch.
Ymddiheuriada (ond eto, dydi hwn ddim yn cyfri fel gwall gramadegol)

Anonymous said...

OOoo druan â Jaci fach/bach. (Be oedd canlyniad y drafofeth - hogyn ta hogan ydi Jaci?)

Anonymous said...

Hogan, yn amlwg. Dwi'm isho trafod mwy ar y mater, mae o'n atgoffa fi gormod o be ma hi di gorfod mynd drwyddo fo!!

Anonymous said...

...yeah, jaci.