19/07/2007

"Stay classy, San Diego"

Helo! Dwi´n iwsho´r dyfyniad yna yn y teitl, achos un o´r prif betha natha ni yn San Diego oedd watchad DVD Anchorman! Yn anffodus, dwi DDIM yn jocio. O wel, raid i fi drio llenwi´r blog ma rwsut ddo...

Iawn, natha ni gyradd San Diego ar y "4th of July", sef Independence Day i bawb twp sy´n darllan y blog. Oedda ni´n aros mewn lle o´r enw Banana Bungalow, oedd REIT ar y traeth, a gatha ni barti MAWR drw dydd (dechra o 9am!).

Oedd na farbeciw i ginio a swpar, a gatha ni lot o hwyl. Oedd na body paint rownd, ac o´n i´n teimlo reit artistic - dyma oedd y canlyniad:

Peidiwch â sbeitio´r ddraig iawn?! Mae o´n anoddach nag o´n i´n ddisgwl! Ma´r daffodil reit arty ddo (ond ffliwc oedd huna). Eniwe, tua 5pm, gatha ni nap bach, cyn dechra eto ar y dathlu yn y nos! Diwrnod da iawn, lot o hwyl.

A rwan dwi´n sdyc am betha i sgwennu am. Yn barod.

Ocê, dim ond dwy noson oedd gena ni yn y Banana Bungalow, felly ar y trydydd diwrnod, natha ni symud i Downtown San Diego, sy tua hannar awr i ffwr o´r lle traeth. Oedd o´n dda cal profi´r ddwy ochor i´r ddinas ddo. Dinas rili neis, eitha tebyg i Melbourne yn Awstralia o ran awyrgylch. Swn i´n hawdd di gellu aros am hirach.

Natha ni aros Downtown am 4 noson, ond heb neud fawr o ddim gwerth sôn amdana fo (heblaw watchad Anchorman). Wedyn, ar y pumed diwrnod, oedda ni´n teithio ar y tram am hannar awr i gyradd Mecsico...

5 comments:

Anonymous said...

da. lle ma body paint ti gruff!? yes tro gynta i fi fod yn gynta.

Endaf

Anonymous said...

Aaaa! Ma Endaf di rasio fi!!
Ma'r ddraig yn hileriys, diolch am neud i fi chwerthin ben bora!
Ma'n swnio fel ma Gruff nath sgwennu'r blog ma ddo e.e. 'gellu'.
Gruff - w ti wedi prawfddarllan blog Dan cynt neu wbath?!

Anchorman yn lot o hwyl

Anonymous said...

Licio'r map o Gymru! Siwrne dda i ti ar dy drafels i'r gogledd. Wela i di'n fuan.

Anonymous said...

Endaf - o'n i ddim isho body paint drosta fi am ddau reswm:
a) Ma Dan yn artist crap,
b) do'n i ddim isho tan efo patryma random - oedd gen Dan sgwar gwyn ar ei gefn diwrnod wedyn!

Manon - fi nath sgwennu'r blog, be nath neud chdi feddwl mai Dan oedd o?! Yr unig lein sa'n gellu bod yn ddryslyd ella fysa:

"...ac o´n i´n teimlo reit artistic..."

Ond, FI oedd yr artist de? Siom, Manon. Hefyd, ffyni bod chdi'n gellu deud mai fi dio achos y gair "gellu" - be sa Dan SLASH unryw un arall yn ddeud ta?!

Edrych fel bod Mam di camddalld fyd, achos dwi'm yn mynd AR GYFYL y Gogledd! FI SGWENNODD Y BLOG MA!!

Anonymous said...

Iawn, dwi'n meddwl bo fi'n dalld y rheswm dros fy nghamddealltwriaeth.
Y peth ydi, neshi ddarllan yr ail flog (Tijuana) cyn darllan y llall ac ar ddiwadd hwnnw oedda chdi'n deud rwbath fel 'dwi am basio'r blog mlaen i Dan' felly neshi gymryd mai Dan nath sgwennu'r un arall efo'r tatŵs a ballu. Dalld?

Hefyd, oni'n meddwl bo chdi'n well na hunna'n tynnu llunia - ond ar ôl meddwl, dio rili ddim yn neud sens sut fysa dan di gallu peintio ar ei freichia a'i gefn ei hun felly oni braidd yn thic.

'Gallu' fysa Dan slash y rhan fwya o'r bobol sy'n darllan y blog ma wedi'i ddeud swni'n meddwl. Jaman bo fi'n sylwi ar betha mor fach â hyn braidd.