19/07/2007

Dan mewn trwbwl efo'r heddlu

Buenos dias! Wel, da ni yn Mecsico ers bron i bythefnos rwan, felly o'n i'n meddwl sa´n hen bryd i fi 'sgwennu pwt (pwt - gair ciin). Y peth ydi, ma internet DA yn y wlad ma yn fwy prin nag oedd o yn Thailand, coeliwch neu beidio.

Eniwe, ymlaen â fi. Y stop cynta oedd Tijuana, sef y dre sy reit ar y bordor efo America. Nyts, o'n i heb rili disgwl hyn, ond ma'r gwahaniath rhwng y ddwy wlad i'w weld yn SYTH da chi'n croesi'r bordor. Be arall oedd yn shocking oedd cyn lleied o Saesneg oedd gen bobol, hyd yn oed mor agos i America! Nath Dan a fi sylwi reit sydyn fysa rhaid i ni ddysgu Sbaeneg ASAP! Dyma lunia o dai reit lliwgar yn Tijuana:

Oedd hi reit wylld yna ar noson allan. Dyma lle ma Americanwyr 18 oed yn dod, achos bod nw'n cal yfad yn gyfreithlon yma, a bod o mor agos! Oedd na bobol yn dod rownd efo poteli tequila, ac yn dal pen chi nôl a tywallt o lawr gyddfa chi!! Afiach.

Eniwe, dim ond dwy noson oedda ni yna am. Wedyn, oedd gena ni'r daith fys HIRA ERIOED, sef 26 awr. Maraid bod ni di arfar efo trafeilio erbyn rwan, achos doedd y daith ddim yn teimlo mor ddrwg â huna! Lawr ar hyd y coast oedda ni'n mynd, i le o'r enw Mazatlan. Un gair i ddisgrifio Mazatlan - POETH! As in aaafiach o humid, y gwaetha da ni di gal drw'r flwyddyn o bosib! Lle reit neis ddo, llawn resorts. Dim lot i neud yna rili, ond oedd na fachlud reit neis yna!

Ar y noson gynta, oedd na sdorm anfarth, ac oedd Dan (yn ei fwwd snap-happy) yn meddwl sa fo'n syniad da tynnu llunia o'r storm. Oedd o'n tynnu llwyth, a'r fflash yn mynd off ddigon amal i ddeffro fi. Peth nesa, oedd na fangio uchal ar ddrws y stafall, a Dan yn panicio a gweiddi "what do you want?!". Yr heddlu oedd yna, ac oedd raid i Dan fynd allan i sharad efo nw. Oedd na un efo machine gun! Doedd Dan ddim yn dalld be oedda nw'n ofyn iddo fo, ond lwcus nath na foi arall gyfieithu - oedda nw di gweld Dan yn y ffenasd, ac yn meddwl bod geno fo wn!! Oedda nw isho searchio'r sdafall a bob dim! Yn diwadd, nath y boi lwyddo i egluro mai dim ond tynnu llunia oedd Dan, ond nath o neud ni'n paranoid am weddill y noson! Afiach, reit sgeri rili!

Y stop nesa oedd Guadalajara, dinas reit enwog. Gan bod hi mor uchal fyny, oedd hi lot llai poethach yma, so oedd huna'n relief ar ôl tywydd Mazatlan. Dinas reit neis, enwog am y cathedral yma:

Doedd na'm lot o ddim byd i neud yna chwaith, felly dim straeon hwyl o fama sori! Dyma ddau lun arall ddo:

A dyna ni rili. Fel da chi'n gweld, ma'n swnio fel bod ni heb neud DIM BYD yma, ond o'n i'n gwbod sa fo'n amhosib topio blogs Las Vegas a San Francisco! A rwan, dwi'n pasho'r blog mlaen i Dan, sy di gaddo blogio am ei anturiaethau o fyny yn y Gogledd. Dwi, ar y llaw arall, am gal pythefnos o wylia ar draetha'r Pacific Coast. Ond fydda i nôl mewn pryd i sgwennu'r BLOG OLA UN! Peidiwch â'i golli fo, fydd o'n AMAZING (pressure).

Adios!

14 comments:

Anonymous said...

IEI! Fi di'r cynta unwaith eto!
I unrhyw un sy'n fan o The O.C. i Tijuana ddaeth Marissa etc i gael sesh diwadd y tymor de a nath hi drio lladd ei hun - oedd o'n edrych yn lle reit wyllt! I bawb sydd ddim yn fan o The O.C - di hyn ddim yn golygu dim byd i chi!

Sgeri am y trafferthion efo'r heddlu ond eitha ffyni achos dwi jesd yn cael llun yn fy mhen o dan yn mynd yn wyllt efo'r camera!

Sesiwn Fawr pnawn ma - rhyfadd bo chi ddim am fod yno!

Anonymous said...

Gret cal y blog yn ôl - ond anodd iawn peidio bod yn jelys o'r traethau a'r gwres pan dan ni mewn glaw a gwynt diflas - yn mis Gorffennaf!!

Anonymous said...

machlud mazatlan bron cystal â wal yr anglesey (ond ddim cweit).
dan am flogio? goelia i hyn pan wela'i o!
licio'r lluniau o "dai" yn tijuana - dim ond un ty oedd yn y lle te??!!

Anonymous said...

Tai, ia, ma na fwy nag un yn y llun does?! Ond na, gath y camera ddim lot o iws yn Tijuana rili!

Manon, diolch am dy help i gyflwyno Tijuana mewn ffor addas i'r genhedlaeth iau. Dwi ddim yn dalld y gyfeiriadaeth, ond nesh i dal fwynhau pa mor ciin oedda chdi.

Anonymous said...

"lot llai poethach" = AFIACH. Lwcus y byddi di nôl yng Nghymru cyn hir swn i'n deud!

Anonymous said...

Nesh i sylwi ar y gystrawen ddiarth..os nad afiach yna hefyd Gwil!

Anonymous said...

Exhibition casinos? undertaking this advanced [url=http://www.realcazinoz.com]casino[/url] president and effort online casino games like slots, blackjack, roulette, baccarat and more at www.realcazinoz.com .
you can also mention a concern at liberty settled our untrained [url=http://freecasinogames2010.webs.com]casino[/url] unfortunate guide at http://freecasinogames2010.webs.com and overtake upright folding transform !
another late-model [url=http://www.ttittancasino.com]casino spiele[/url] interdict of events is www.ttittancasino.com , choose than of german gamblers, take heed of manumitted online casino bonus.

Anonymous said...

I'm very happy you wrote this post...

Wilfredo
emcinsurance.com

Anonymous said...

My brother recommended I might like this web site.
He was once totally right. This publish truly made my day.
You can not consider simply how much time I had
spent for this information! Thanks!
Also visit my homepage ... osta asunto alanyasta

Anonymous said...

Hi there, I enjoy reading through your article.
I wanted to write a little comment to support you.
My blog : Lägenheter i Konyaalti Antalya

Anonymous said...

Hey! This post could not be written any better!
Reading through this post reminds me of my good old room mate!

He always kept talking about this. I will forward this article to him.
Pretty sure he will have a good read. Thank you for sharing!
My website > samson tobacco

Anonymous said...

It's the best time to make some plans for the future and it is time to be happy. I've read this post and if I could I wish to suggest you few interesting things
or suggestions. Maybe you can write next articles referring to this
article. I wish to read even more things about it!
Also visit my web blog - Koti Bodrumista

Anonymous said...

Thank you for the good writeup. It if truth be told used to be a enjoyment account it.

Glance complex to more delivered agreeable from you! By the way, how
can we be in contact?
Check out my weblog - Mac Baren Pipe Tobacco

Anonymous said...

I am now not sure where you are getting your info,
however great topic. I needs to spend a while learning more or working out more.
Thanks for great information I used to be searching for this information for my
mission.
Here is my web site - skin lightening