01/05/2007

Skydive!!!

Helo!! Fel da chi di gesho, natha ni neud y skydive dydd Sul!! Sbiwch ar y llunia rwan os da chisho! Ond cyn i fi sôn am huna, sa well i fi sôn am be natha ni dydd Gwenar. Atha ni i Hell's Gate, sef lle sy efo mudbaths, a volcanic activity - mwg yn codi o'r ddaear ayyb. Reit cwl, dyma chydig o lunia:

Wedyn, nath Dan dalu i gal mynd fewn i un o'r mudbaths! Dyma lunia, a fideo reit disturbing - peidiwch a watchad hwn tra'n buta!


Cyfog go iawn. Eniwe, sori am frysho drw huna, ond dwi'n gwbod mai be da chisho glywad am go iawn ydi'r skydive! Wel, oedda ni fod i neud o dydd Sadwrn, ond oedd y tywydd rhy ddrwg, felly be natha ni dydd Sadwrn oedd watchad Elgan yn chwara rygbi (a colli!). Natha ni ddreifio lawr i Taupo (y lle oedda ni am neud y skydive) yn y nos, a cal noson allan yna efo Lena, Elgan a hogan o'r enw Leah ma nw'n dau'n nabod o adra. Noson dda...

...Ond doedd o ddim yn teimlo'n syniad da iawn pan natha ni ddeffro bora wedyn a sylwi bod hi ddigon braf i neud y skydive am 10:30! O'n i'n meddwl ella sa fo'n hangover cure da. Doedd o ddim. Ar ôl bympio fewn i gefnither cynta Sara Shorney yn y maes awyr (random!), oedd hi'n amsar i fi, Lena a Dan fynd fyny yn yr awyren tiny. Y daith oedd y darn gwaetha os rwbath, achos mae o jysd yn chwartar awr o fynd yn uwch, ac yn uwch, ac yn uwch...

Eniwe, natha ni gyradd 12,000 o droedfeddi, a oedd na ddau berson yn neidio allan o'r uchder yma, felly dyma'r drws yn agor, a ffwr a nw. Afiach gweld pobol erill yn neidio allan reit o flaen chdi!! O'n i'n dechra mynd yn sal erbyn hyn. Ond fyny a ni eto, at 15,000 o droedfeddi. Dyma'r drws yn agor eto, a nath Lena neidio allan. Fi oedd nesa, a doedd na ddim amsar i wastio. Gesh i ddim amsar i fod ofn rili, achos un funud o'n i'n isda ar yr ymyl, y nesa o'n i hannar ffor lawr drw'r awyr!

Oedd y freefall yn amazing - ddim yn sgeri o gwbwl, jysd cwl cal gweld y golygfeydd! Dim ond 60 eiliad oedd o'n bara, a wedyn nath y parachute agor. Oedd o'n rili cwl jysd floatio lawr yn slo. Fedra i'm disgrifio fo, ond swn i'n deutha PAWB neud o - o'n i'n teimlo'n hollol saff! Er, oedd o reit braf twtchad y llawr eto hefyd! Dyma'r llunia!

(Fydd llunia (gwell) Dan fyny mewn blog ar wahân yn fuan!)

Ddoe, natha ni adal Lena ac Elgan am y tro (nawn ni weld nw eto ar y ffor fyny - as if sa ni'n gwrthod llety am ddim!), a dreifio lawr am Wellington (y brifddinas). Ma'n le rili bach am brifddinas, ond ma na un peth sbeshal am y lle - yma, ma'r unig byb Cymraeg yn y Southern Hemisphere! Heb fod yna eto, ond am fynd am dro heno i weld! Da de! Nai adal chi wbod sut mae o!

3 comments:

Anonymous said...

Anhygoel!

Unknown said...

dwin teimlon wobbly yn sbio ar rhei or llunia yna!

Anonymous said...

Waaaaaaaaaaaaaaaaaaaaw!