26/04/2007

Zorbio, Swoopio a dysgu godro!

Helo 'na! Wel, di cal diwrnod prysur iawn echddoe, felly gena fi dipyn i sôn am yn y blog 'ma! Fel nesh i sôn, oedda ni'n bwriadu gneud rwbath reit exciting, ond do'n i'm rili 'di disgwl gneud rwbath mor sgeri a natha ni! Y peth cynta natha ni oedd Zorbio, lle da chi'n cal eich strapio fewn i bêl fawr ryber, a cal eich pwsho lawr allt yna fo - gneud chi'n chwil braidd! I ddeud y gwir, oedd o ddim mor cwl ag o'n i 'di ddisgwl, ond ma'n rwbath ma pawb yn neud yn Rotorua! Dyma lunia, a fideo o'na fi'n neud o!



Ar ôl huna, gatha ni'm lot o jans i relaxio chwaith, achos y Swoop oedd nesa. I chi gal gwbod, o'n i 'di bwcio hwn cyn actually gweld o, ac o'r disgrifiad, oedd o jysd yn swnio fel swing hwyl. Do'n i DDIM yn disgwl gneud hyn:


Ar ôl gweld hyn, o'n i'n cachu'n hun. A be oedd waetha oedd mai ni oedd yn gorfod tynnu'r cord i adal fynd! Afiach go iawn. Natha ni neud o ddo, a ma raid i fi ddeud, doedd o ddim mor ddrwg ag o'n i 'di ddisgwl! Dim ond eiliad oedd o'n bara rili, so oedd o ddim yn ddrwg! Dyma lunia o'na ni wrthi:

Ar ôl huna, rwbath chydig llai extreme - trip mewn cwch jet nyts o ffasd! Oedd o'n mynd ffwl sbiid at y lan, a troi funud ola a betha! Reit cwl, ond oedd o'n teimlo fatha dim byd o gymharu efo be oedda ni newydd neud fyd!

Yn y nos wedyn, gatha ni amsar chydig brafiach. Atha ni ar noson Maori, lle gatha ni glywad hanas y Maoris, a mynd i bentra fake i weld sud oedda nw'n byw a ballu.


Wedyn, gatha ni gyngerdd gena nw. O'n i'm yn disgwl lot i ddeud y gwir, ond oedd o'n rili da! Oedda nw efo lleisia superb, a gatha ni weld nw'n gneud yr Haka! Da chi ddim fod i chwerthin pan ma nw'n gneud stumia gwirion, achos bod o'n amharchus, ond oedd na hen ddynas annoying wrth ymyl ni'n chwerthin bob dau funud!! O'n i'n flin. Ond oedd y cyngerdd yn dda. Dyma sneak preview i chi:



Ac ar ôl huna, gatha ni bryd bwyd AMAZING. Hangi oedd o - techneg di huna o gwcio'r bwyd, lle ma nw'n claddu'r bwyd yn y pridd poeth, a'i gwcio fo'n naturiol felna. Oedd o'n lyfli. Cinio dydd Sul go iawn am y tro cynta ers 8 mis! Esh i nôl am fwy, am bod fi'n gwbod swn i ddim yn cal pryd cystal am eitha hir! Dyma lun o'r tân:


I bawb sy di bod yn holi am y mochyn 'na, James roth o i ni, a gofyn i ni dynnu llun o'na fo mewn lot o lefydd random! Felly gewch chi ddisgwl gweld mwy o Jaci yn y blogia newydd!

Eniwe, ar ôl y diwrnod hectic yna, gesh i chydig o frêc ddoe. Ond yn y pnawn, nesh i fynd i helpu Elgan odro ar y ffarm! Ffyni! Oedd o reit hwyl o job, jysd gorfod rhoi'r teclyna sugno am y tethi i gyd (tua 300 o warthag!). Oedda nw'n cachu dros bob man, afiach. Ond dwi'n meddwl oedd Elgan reit impressed!


Ac ar ben huna, gesh i go i ddreifio'r tractor yma! Hwyl!


So fel 'da chi'n gweld, 'dwi'n cal lot o brofiada newydd rownd y byd...ella nai droi'n ffarmwr pan ddoi adra?!

5 comments:

Anonymous said...

Dwi'n impresd iawn bod chi mor actif pen arall y byd!

Anonymous said...

WAAAAAWW.

Anonymous said...

Y blog gorau erioed o bosib! Cwl! Ma'r thing swing na reit debyg i'r thing neshi orfod gneud yn Oakwood - a dwi'n gwbod yn iawn be ti'n feddwl am orfod tynnu'r cord dy hun! Afiach.

Ma'r tractor yna'n rili tebyg i un Ed!! Ella gei di job geno fo pan ddei di adra!!

Anonymous said...

Haia Gruff a Dan. Dyma fo, fy negas gynta ar eich blog! Di bod yn chwerthin lot yn edrych ar y fideos efo Mari, yn enwedig yr un o Dan ar gefn y moto beic! Dwi'n impresd bo ti di bod yn ffarmio am ddiwrnod cyfan Gruff, job tha gwas ffarm yn Sychtyn yn dy aros ar ol ti ddod yn ol. Na i adal negas yn fuan eto.

Anonymous said...

Hei hogia! Waw, ma'r swing na'n edrych yn superb!! Edrych mlaen at hanes y Sky-Dive!x