23/04/2007

Blasu mêl a pysgota prôns = random!

Helo! Wel, tro dwytha nesh i sgwennu, nesh i ddeud bod ni ar y ffor i Hamilton am y penwsnos. Ond, ar y ffor, natha ni ffonio Lena, sy draw ma am flwyddyn yn gweithio, a nath hi gynnig llety i ni'r noson yna! Felly natha ni benderfynu dreifio chydig o oria extra i gal gweld hi ac Elgan! A dyna lle da ni di bod rwan ers tair noson! Dyma lun o'n ceir ni, ac o'u ty bach ciwt nw:

Ma'n le eitha central hefyd, felly ma Dan a fi di bod yn gellu mynd i weld lot o betha gwahanol bob dydd. Dydd Sul, ath y pedwar o'na ni i weld glow-worm caves, oedd ddim byd sbeshal i ddeud y gwir, a doedda chi ddim yn cal mynd a camra chwaith. Ond da chi heb golli dim byd diddorol! Ar ôl dod adra, gath Dan go ar dirtbike Elgan. Ffyni IAWN (ar y pryd), achos doedd y ci ddim yn sdopio cyfarth bob tro oedd yr injan yn cal ei danio!



Ddoe wedyn, natha ni gal diwrnod da iawn. Tra bod Lena ac Elgan yn gweithio ar y ffarm, atha ni i Taupo am y diwrnod, lle sy efo llyn run seis a Sir Fôn! Yn fana da ni am neud skydive dydd Sadwrn (a ma Lena am neud o efo ni!). Y peth cynta atha ni i weld yn Taupo oedd yr Huka Falls. Reit impressive, ond dwi di gweld gwell erbyn hyn!

Nesa atha ni i le oedd yn gneud mêl! Gatha ni ddysgu dipyn am sut ma gwenyn yn mynd ati i neud mêl, a sut ma dewis y "queen bee" - diddorol iawn chwara teg!

Oedd na hefyd adran blasu mêl am ddim! Oedd Dan wrth ei fodd!!

Hwn oedd y mêl gora, medda fo:

A dyma fo'n ciin yn watchad y documentary (ar ben ei hun)!

Stop ola'r diwrnod oedd y Prawn Farm, lle oedda chi'n cal go i bysgota am prawns, a'u cadw nw wedyn. Oedda ni'n meddwl sa ni'n gellu dal swpar i Lena ac Elgan! Oedd o reit anodd, achos oedda nw'n tynnu ar y wialen gynta, wedyn oedd raid disgwl nes bod nw'n dechra buta'r abwyd (gair ciin!) cyn tynnu'r wialen. FI nath ddal yr un cynta, o fewn 5 munud o gyradd!!

Pump gatha ni yn diwadd - gath Dan dri, gesh i ddau - ond dwi'n meddwl bod y ffaith i fi ddal yr un cynta'n golygu bod ni'n gyfartal (di Dan ddim yn cytuno ddo!!).

Ar ôl cyradd adra, ath Dan ati i gwcio nw. Oedd Lena ac Elgan reit impressed dwi'n meddwl!

A dyna ni! Heddiw da ni am neud rwbath eitha exciting (dim cweit mor exciting a skydive ddo) - nai adal chi wbod mwy am hyn yn FUAN! Traaa!

5 comments:

Anonymous said...

Fi di'r cynta - cîn unwaith eto!
Chydig o betha i'w nodi -
neshi enjoio'r gair abwyd lot!
Hefyd, dy sylw smyg am y rhaeadrau 'dwi di gweld gwell erbyn hyn'!
Y prawns yn edrych yn neis iawn - ti ddim yn ffysi efo dy fwyd ers mynd i ffwrdd felly Gruff?!

Ddim wedi gweld y fidio eto - dwi'n gwaith felly nai sbio arno fo heno.

Dwi'n ecseited at y peth hwyl nesa dachi'n neud!

Anonymous said...

Cwl o blog! Dwi'n impresd iawn efo'r prawns!! Dwi wedi watchad y fideo, ond heb sain yn gwaith (cyfrifiadur di torri), nai watchad o eto heno! Cofia fi at Lena ac Elgan xxx

Anonymous said...

... a dan!! xxx

Anonymous said...

pwy di lena ac elgan? Gret o flog!

Anonymous said...

Haia!!!!!!! Rhyfadd gweld chi hefo elgan a lenz!!! Cofia ni atyn nhw, ar gwarthag, ar defaid ayb!!!


O.N saethwch y ci, man lwmp o annoying!

x x x x ( UN sws i bawb plis, da nin gwbod pa mor farus di elgan!!)