21/04/2007

Dolffins!

Helo! Ma raid i fi ddeud, dwi reit excited am y blog ma - mashwr bod chi gyd yn gwbod pam, achos dwi'n gwbod bod chi gyd yn sbio ar y llunia cyn boddro darllan y peth ma, felly da chi hefyd wedi sylwi bod na fideo ar y blog! Da de?

Eniwe, ymlaen â fi i sharad am y diwrnoda dwytha ma. Ar ôl diwrnod cynta siomedig o "nofio efo dolffins" (natha ni'm hyd yn oed GWELD dolffin, a oedd hi'n bwrw ac yn freezing), oedda ni reit flin. Oedda ni'n "cal" mynd eto am ddim "ddo", ac er bod gena ni ddim lot o fynadd treulio 4 awr arall ar gwch yn chwilio, oedda ni'n meddwl sa well i ni. A dwi'n falch bod ni wedi! Er bod ni heb gal nofio efo nw (am bod na fabi yn eu canol nw), gatha ni fod mor agos ata nw a fysa ni yn y dwr eniwe, a oedd o reit cwl. Dyma gasgliad o lunia o'r diwrnod (a fideo)!

Ac yn ola, dyma lun o'na fi ar y ffor adra (yn dilyn request gen Mari ac Endaf am fwy o lunia o'na fi!):

Diwrnod llwyddiannus felly! Natha ni ddreifio wedyn yn syth i Whangarei, lle oedd Dan di bwcio i neud mwy o ddeifio y diwrnod wedyn. Oedda ni'n aros mewn lle rili cartrefol oedd yn cal ei redag gen deulu rili clên. Oedd na drampolin yn yr ardd - hwyl! Dyma Dan arna fo!

Heddiw wedyn, tra oedd Dan yn deifio, nesh i fynd am dro i weld rhaeadr - ylwch arna fi'n gneud petha "buddiol" efo amsar sbâr! (Gobeithio bod chdi'n prawd Mam!).

A dyna ni! Heno da ni am ddreifio lawr i le o'r enw Hamilton, sy fod yn le eitha poblogaidd, felly gobeithio gawn ni nos Sadwrn reit dda - da ni heb weld fawr o neb reit fyny yn y Gogledd!

Gobeithio bod chi gyd yn edrych mlaen at y blog, a'r fideo, nesa!

6 comments:

Anonymous said...

Dwin falch fod y blog yn nol hefyd Gruff!Da di'r llunia a'r fideo wrth gwrs!Gai ofyn beth yw arwyddocad y mochyn bach sydd yn popio fyny yn mhobman? Dwi di colli rwbath ta be?

Anonymous said...

Ie Gruff, be di'r mochyn bach pinc? Edrych ymlaen at ei weld mewn mwy o leoliadau egsotic o hyn ymlaen.

Anonymous said...

Ma'r llunia o'r mochyn yn rili cwl - manw'n edrych fel cloriau CDs. Creadigol iawn chwara teg. Ffion coleg ydi Ffion Bimb gyda llaw - jyst derbynia mai dyna ydi nickname chdi rwan Ffion!!! Da di'r fideo, ond gawn ni weld chdi yn y nesa hefyd plis!

Anonymous said...

Dwi'n licio'r fidio LOT! Rili rhyfadd gweld chi!

Siwr bo chdi di gwirioni bod y mochyn di cal gymaint o sylw do? Rel chdi ddim yn rhoi eglurhad, jysd disgwl i weld pwy fysa'n sylwi/gofyn be ydi'i hanas o! :)

Anonymous said...

Prawd iawn bod y gair 'buddiol' wedi cael ei ddefnyddio - am y tro cynta ers 8 mis!!

Anonymous said...

Dwi'n licio'r mochyn hefyd slash dwi'n gytud bod y mochyn yn cael mwy o brofiadau diddorol na fi.....