Ar ôl fana, atha ni i weld chydig o sand dunes oedd reit agos. Eitha impressive!
Dyma Dan efo'r car newydd! (Awtomatic, weird dod i arfar dreifio fo!):
O ia, natha ni weld rwbath reit bizarre ar y ffor - motel oedd efo fflag Cymru tu allan! Natha ni drio mynd fewn i ofyn be oedd cysylltiad nw efo Cymru, ond doedd na neb yna (stori wael!).
Ar y ffor nôl lawr, natha ni sdopio i dynnu llunia o'r olygfa DDA:
Ar ôl hyn i gyd, oedda ni reit llwglyd, felly lle gwell i fynd i na shop Fish & Chips sy fod yn fyd enwog! Neis iawn oedd o fyd. Dyma lun o'na fi yn trio bod yn ffyni, ond yn methu achos bod coesa fi'n golwg! Jaman i fi. Bai'r ffotograffydd dwi'n meddwl!
Oedd y siop jips yn edrych dros harbwr neis fyd. Gesh i lun reit dda!
So ia, da ni heb neud lot o ddim diddorol eto, ond ma huna i gyd i ddod - fory neu'r diwrnod wedyn da ni am fynd i nofio efo dolffins, so fydd huna'n rwbath hwyl i sôn am. Sori os di'r blog ma di bod braidd yn boring, ond well na dim dydi!
Hefyd, rwbath i edrych mlaen ata fo yn y blog nesa - dwi am drio adio rwbath arall ar bob blog o hyn ymlaen, fydd (gobeithio) yn exciting iawn i chi gyd adra...! Cliw i chi - be fysa'n well na llunia...? Nai sgwennu'n fuan!
5 comments:
dydi blog byth yn boring - yn enwedig ar 147l tri mis o gap!
"be fysa well na llunia", - fideo?
endaf
Odd Endaf mor smyg bod o di gesho mai fideo oedd o am fod!! Ma mam yn iawn, di blog byth yn boring - paid a bod mor paranoid!
lluniau da Gruff! Bydd y fideo yn well fyth!
edrach mlaen i weld y video hefyd - gutted ma dim fi nath weithio allan ma fideo odda chdi am neud (!)
Post a Comment